Suddo'r Sir Galahad: Cyn-filwyr yn dal i chwilio am atebion

  • Cyhoeddwyd
Y Sir Galahad ar dânFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 48 o filwyr yn yr ymosodiad ar y Sir Galahad

Mae grŵp o gyn-filwyr yn galw ar Lywodraeth y DU i gyhoeddi rhagor o ddogfennau cyfrinachol am un o drychinebau gwaetha'r fyddin ers yr Ail Ryfel Byd.

Bu farw 48 o bobl pan gafodd llong y Sir Galahad ei tharo gan fomiau yn ystod Rhyfel y Falklands ar 8 Mehefin, 1982.

Roedd 32 o'r meirw yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.

Mae BBC Cymru wedi gweld dogfennau sydd newydd eu cyhoeddi o'r cyfnod sy'n adlewyrchu darlun o ddryswch ac oedi cyn y digwyddiad.

Roedd hynny'n golygu fod aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig mewn sefyllfa fregus.

'Hogiau yn marw o fy nghwmpas'

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod nhw'n hyderus "yn narganfyddiadau ac argymhellion" ymchwiliad a gafodd ei gynnal ym 1982 i'r hyn ddigwyddodd. 

Ond mae nifer o gyn-filwyr o'r cyfnod wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn teimlo bod naratif wedi datblygu ers y rhyfel fod y Gwarchodlu Cymreig ar fai am yr hyn ddigwyddodd. 

Mae nifer yn dweud eu bod wedi cael eu cyhuddo o fod yn "rhy araf", "heb baratoi", ac yn "ddiog" - honiadau y maen nhw wedi'u gwadu.

Rhybudd: Fe allai'r cynnwys yn rhan nesaf yr erthygl beri gofid i rai

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Maldwyn Jones ei fod yn ail-fyw'r digwyddiad yn aml

Roedd Maldwyn Jones, o Fangor, a Wil Haworth, o Lanfairfechan, ar fwrdd y Sir Galahad pan gafodd y llong ei thargedu.

"Mi oeddan ni'n disgwyl i ddod i ffwrdd a'r peth nesaf dyma rywun yn gweiddi 'Air Warning Red', ddoth y jets lawr a pheth nesa 'nath y llong chwythu fyny," meddai Maldwyn Jones. 

"Aeth bob dim yn dywyll, roedd hogiau yn sgrechian ac yn gweiddi, yn marw o fy nghwmpas." 

Dywedodd Wil Haworth, oedd yn 22 ar y pryd, ei fod yn cofio deffro wedi'r ffrwydrad a gweld goleuadau'n fflachio. 

"Roedd pobl yn sgrechian, yn sgrechian a sgrechian... do'n i'm yn gweld neb yna ac es i am y drws, ac o'dd o'n drwm a do'n i'm yn gallu'i agor o.

"Es i fyny ar y dec ac mi oedd 'na lanast... ti'm yn disgwyl hogia' yn mynd o gwmpas efo un goes."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wil Haworth yn 22 oed ar y pryd, ac yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig

Yn ôl Maldwyn, mae'r Gwarchodlu yn dal i gael ei dargedu hyd heddiw gan unigolion sy'n eu beio am yr anhrefn ar y diwrnod. 

"'Dan ni wedi cael ein beio am lot o betha'... dwi 'di dysgu byw efo fo, dwi'n gwybod y gwir," meddai Maldwyn Jones. 

Dywed Wil Haworth bod nifer yn beirniadu'r Gwarchodlu drwy ddweud nad oedden nhw wedi paratoi yn ddigonol.

Ar 8 Mehefin 1982 roedd y llong gyflenwi - y Sir Galahad - yn llawn arfau, tanwydd a milwyr oedd yn cynnwys cannoedd o'r Gwarchodlu Cymreig.

Ag hithau'n llong gyflenwi, doedd hi ddim wedi'i harfogi ar gyfer brwydro.

Bu farw 48 o filwyr ar ei bwrdd gan gynnwys 32 o'r Gwarchodlu Cymreig. 

Daeth ymchwiliad swyddogol, a gafodd ei gynnal tu ôl i ddrysau caeëdig, i gasgliad nad camgymeriadau arweiniodd at y gyflafan, ond "hap a damwain rhyfel". 

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Goroeswyr y Sir Galahad yn dod i'r lan

Er hyn, dros gyfnod o 40 mlynedd, mae nifer o'r Gwarchodlu Cymreig wedi cael eu beio am achosi'r hyn ddigwyddodd ac am beidio gadael y llong yn gynt.

Ond mae dogfennau newydd - sy'n cynnwys tystiolaeth gan lygaid dystion a chapten y Sir Galahad - yn dangos bod y Gwarchodlu wedi cael eu cludo i'r lleoliad anghywir, ar yr amser anghywir ac ar long oedd heb unrhyw fodd o amddiffyn ei hun na chwaith wedi derbyn rhybudd o'r ymosodiad.

"'Di'r profiad byth yn gadael, dwi'n meddwl amdano... reit aml, os dwi wrth ymyl y môr mae'r oglau yn dod â'r diwrnod yn ôl ata'i," medd Maldwyn Jones.

"Dwi'n ei fyw o'n aml. Doedd 'na'm rhaid i'r diwrnod 'na ddigwydd - fydde fo wedi gallu cael ei osgoi."

Mae un cyn-swyddog gyda'r Gwarchodlu, Crispin Black, wedi amddiffyn penderfyniad y milwyr i beidio â gadael y llong gan eu bod yn y lleoliad anghywir.

Yn ei lyfr newydd, 'Too Thin For a Shroud', mae'n dweud fod y dogfennau newydd yn taflu goleuni newydd ar y sefyllfa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mynydd Longdon ger Stanley ar Ynysoedd y Falklands

Dywedodd ei fod yn teimlo'n drist fod y naratif anghywir wedi datblygu dros y degawdau a bod y Gwarchodlu Cymreig wedi cael ei dargedu.

Mae'r ymchwiliad gwreiddiol yn cydnabod fod y Gwarchodlu Cymreig wedi derbyn cais i fynd i Bluff Cove ac na ddylai'r milwyr adael y cyfarpar. 

Yn ôl y dystiolaeth, fe dderbyniodd Capten y llong, Philip Roberts gyfarwyddiadau i gludo'r milwyr i Bluff Cove. 

Ond pan gafodd y Gwarchodlu Cymreig gyfle i adael y llong, roedd hynny yn y lle anghywir, yn Port Pleasant, a byddai gadael wedi golygu paratoi ar gyfer y frwydr yn y lleoliad anghywir.

Mae'r dogfennau hefyd yn adlewyrchu cyfres o benderfyniadau wnaeth arwain at hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Cyn swyddog gyda'r Gwarchodlu Cymreig, Crispin Black, sydd wedi ysgrifennu llyfr am y digwyddiad trasig

Yn ôl tystiolaeth Capten Roberts fe gafodd cychod bach, fyddai wedi gallu cludo'r milwyr o'r Sir Galahad yn gynt, wedi cael eu defnyddio i gludo cerbydau ac na wnaethon nhw ddychwelyd am "rai oriau". 

Roedd oedi pellach oherwydd bod un o'r llethrau ar y llong wedi methu. 

Yn fuan wedyn fe gafodd y llong ei bomio gan awyrennau'r Archentwyr.

Yn ei dystiolaeth dywedodd Capten Roberts nad oedd y llong wedi derbyn unrhyw rhag-rybudd fod yr ymosodiad ar ddod. 

Mae rhagor o ddogfennau ynglŷn â'r trychineb dal dan glo dan y ddeddf gyfrinachedd a does dim disgwyl iddyn nhw gael eu cyhoeddi tan 2065. 

'Rhywbeth i'w guddio?'

Yn ôl Crispin Black, mae angen i'r dogfennau hynny gael eu rhyddhau er mwyn rhoi darlun clir o'r hyn ddigwyddodd. 

Yn ôl Maldwyn Jones, dyma'r peth pwysicaf iddo.

"Dwi'n meddwl fod ganddyn nhw rywbeth i guddio, 'dan ni'n gweithio i gael y gwir allan.

"'Dan ni'n ysgrifennu i'r MP's, Aelodau o'r Senedd, i'r we, siarad efo chi [BBC], i roi pwysau ar y gyfraith i ryddhau'r dogfennau. 

"'Dan ni eisiau gwybod rŵan... yn 2065 fyddai'm yma. 

Ffynhonnell y llun, Hulton Archive
Disgrifiad o’r llun,

Lladdwyd 48 ac anafwyd 97 o filwyr o Gymru yn ystod rhyfel y Falklands

"Mae'r teuluoedd yn haeddu'r gwir rŵan... ar y funud does dim byd yn fwy pwysig i mi, dim jest i fi ond yr hogiau i gyd."

Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth y DU fod "colled y Sir Galahad o ganlyniad i weithredoedd y gelyn yn drychineb". 

"Fydd yr aberth a wnaed gan y rheini oedd ar ei bwrdd fyth yn angof ac rydym yn parhau i werthfawrogi'r hyn a wnaed gan bob un aelod o'r fyddin a frwydrodd yn Rhyfel y Falklands. 

"Fe gafodd ymchwiliad ei sefydlu ym 1982 er mwyn ymchwilio i drychineb y Sir Galahad. 

"Rydym yn parhau i fod yn hyderus yn narganfyddiadau ac argymhellion yr ymchwiliad hwnnw."

Pynciau cysylltiedig