Milwyr fu farw ar y Sir Galahad 'byth' yn angof
- Cyhoeddwyd
"Dwi'n cofio watcho awyren yn fflio drosto ni a'r peth nesa' roedd y lle goleuo fyny yn wyn i gyd llachar, ac mi oedd o'n teimlo fel munuda' ond peth nesa' aeth hi'n dywyll ac aeth petha'n ddistaw."
Roedd Maldwyn Jones o Fangor yn aelod o'r Gwarchodlu Cymreig oedd ar fwrdd y Sir Galahad ar 8 Mehefin, 1982. Mae'n cofio'r eiliad yr ymosododd awyrennau o'r Ariannin ar y llong oedd wedi angori yn Bluff Cove.
Y bwriad oedd cludo aelodau'r Gwarchodlu Cymreig yn agos at y lan, er mwyn bod yn rhan o ymdrech fawr byddin Prydain i gyrraedd prif dref yr ynysoedd, Stanley.
O fewn llai nag wythnos, byddai'r rhyfel ar ben wrth i luoedd yr Ariannin ildio i fyddin Prydain.
Ond ar y diwrnod hwnnw, cafodd 56 o bobl eu lladd ar y Sir Galahad - yn eu plith roedd 32 o aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.
Hwn oedd y nifer uchaf o farwolaethau mewn un digwyddiad yn ystod Rhyfel y Falklands.
Penderfyniadau anodd
Mae Maldwyn Jones yn cofio bod 'na broblemau gyda'r lleoliad roedd y llong wedi'i angori.
"Oedd hi'n reit gymylog, niwlog so oedd hi'n weddol saff a'r peth nesa' wrth i'r diwrnod gynhesu - na'th y niwl a'r cymylau godi ac oedd hi'n glir.
"Oeddan ni'n gallu gweld mynyddoedd Mount Pleasant, ac wrth gwrs oeddan ni'n gallu gweld nhw - a oeddan nhw'n gallu gweld ni."
Roedd e'n gweithio fel swyddog meddygol, ac wrth i effaith yr ymosodiad ar y Sir Galahad ddod yn glir, mae'n cofio'r penderfyniadau anodd oedd yn rhaid eu gwneud wrth geisio helpu cynifer o bobl oedd wedi'u llosgi gan y ffrwydrad ar y llong.
"On i'n medic ar yr amser, ac yn cario morffin ychwanegol. Yr unig beth oeddwn i'n gallu neud efo pobl oedd wedi llosgi'n ddrwg oedd rhoi morffin iddyn nhw.
"Ond oedd rhaid i mi ddewis pwy oedd yn cael o. Os oedd rhywun efo un llosg bach ar y llaw yna oedd rhaid iddyn nhw ddiodda, ond os oedd rhywun wedi llosgi dau law a wyneb...reit mae nhw'n cael dos.
"Oedd yn anodd dewis pwy oedd yn cael o, deud gwir. Ond dwi ddim yn meddwl bo'r hogia'n cofio pwy oedd yn rhoi o allan - does neb wedi cwyno ers yr amser yna.
"Peth nesa' oedd y deck wedi clirio, pawb wedi mynd yn yr hofrennydd ac off a ni - un o'r rhai dwetha' i fod ar y llong ar y bad achub ac ar y lan wedyn."
Mae Wil Howarth o Ynys Môn yn cofio bod gydag e ar y pryd.
"Y tri dwetha' i adael oedd fi, Capten Roberts o Landudno a Maldwyn. Ac ar ôl hynna a'thon ni i'r lan, ac oedd yr awyrennau yn dal i ddŵad tan yn y diwedd gafodd un neu ddau ohonyn nhw eu saethu lawr.
"Na'thon ni gysgu y noson honno mewn sheep pen."
Doedd pob aelod o'r Gwarchodlu Cymreig ddim ar y Sir Galahad adeg yr ymosodiad. Roedd rhai eisoes ar y tir. Un o'r rheiny oedd Clive Aspden o Flaenau Ffestiniog.
"Dwi'n cofio'r planes yn dod drosodd ac oeddan ni'n saethu atyn nhw a nathon ni jyst gweld mwg.
"Mae o'n gneud i chi deimlo'n guilty weithiau, because na'thon ni weld y mwg a na'thon ni gyd cheerio. Ond dim y plane yn mynd lawr oedd o, ond y Galahad yn cael ei chwythu fyny."
Roedd hi'n amlwg yn syth bod nifer y meirw yn sylweddol, ond fe gymerodd hi ddiwrnod neu ddau i'r milwyr sylweddoli'n llawn pwy yn union oedd wedi'u lladd - cyd-filwyr a chyfeillion yn eu plith.
'Ffindia' da'
"Gathon ni ddim gwybod tan ddau ddiwrnod wedyn yn bendant pwy oedd wedi'u lladd - missing presumed dead," meddai Maldwyn Jones.
"Lot o enwau oeddan ni'n 'nabod yn dda iawn. Oeddan ni'n 'nabod nhw i gyd. 'Nabod pob enw oedd yn missing ond oedd 'na gang o hogia' ohonan ni o'r gogledd, ac mi oeddan ni'n nabod ein gilydd."
"Ffrindiau da, hogia' o'r gogledd a hogia' o'r de," meddai Wil Howarth.
"Cafodd 96 eu brifo mewn un ffordd neu'r llall - a llawer wedi cymryd eu bywydau ers hynny.
"Mae'n chwarae ar dy ben di os ti'n gadael iddo fo."
Mae Clive Aspden wedi bod yn ôl i'r ynysoedd dros y blynyddoedd diwethaf.
"Jyst a'th fi a'n ffrindiau oedd yn y platŵn efo'n gilydd... 4 neu 5 o'r platŵn nôl efo'n gilydd a cael lluniau.
"I feddwl bod o mor bell i ffwrdd maen nhw dal i feddwl bo nhw'n dod o Brydain so ydi, oedd o werth bob ceiniog, ac oedd o'n neis cael mynd yn ôl i weld y monument i'r Welsh Guards yna."
Ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd Clive gael tatŵ yn cynnwys dyddiad yr ymosodiad ar y Sir Galahad, a llun o'r gofeb i'r milwyr o Gymru.
Ac mae'r cof am y rhai gafodd eu colli ar y diwrnod hwnnw 40 mlynedd yn ôl yn parhau, meddai Maldwyn Jones.
"Na'thon ni dd'eud y diwrnod yna basa ni byth yn anghofio nhw - 'da ni byth yn, 'da ni byth wedi."
Mae dal yn bosib clywed rhaglen Rhyfel y Cymry ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022