Cyllideb 2023: Llywodraeth y DU yn addo 'tyfu'r economi'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Roedd Jeremy Hunt yn cyflwyno ei Gyllideb gyntaf fel Canghellor
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jeremy Hunt yn cyflwyno ei Gyllideb gyntaf fel Canghellor

Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi cyllideb i "dyfu'r economi" a chael pobl "yn ôl i'r gwaith".

Dywedodd Jeremy Hunt y bydd ei gynlluniau yn "haneru chwyddiant, tyfu'r economi a gostwng y ddyled".

Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw, mae'r Canghellor wedi cadarnhau y bydd y cymorth presennol ar gostau ynni yn parhau tan fis Mehefin.

Bydd £180m ychwanegol i Lywodraeth Cymru drwy gyllid canlyniadol ac £20m i adfer Morglawdd Caergybi.

Gofal plant

Mae gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio yn Lloegr yn cael ei ehangu i gynnwys plant un a dwy oed.

Mae costau gofal plant yn y DU ymhlith yr uchaf yn y byd.

Ond mae gofal plant yn fater sydd wedi'i ddatganoli, sy'n golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu a fydd pobl Cymru hefyd yn cael mwy.

Dywedodd gweinidogion Cymru y byddan nhw'n "dadansoddi'n ofalus effaith Cyllideb Wanwyn y DU ar ein cyllid," ac y byddai unrhyw arian canlyniadol yn cael ei ddyrannu "yn unol â'n blaenoriaethau ar gyfer Cymru yn y ffordd arferol".

Disgrifiad,

Huw Thomas, Gohebydd Busnes BBC Cymru, sy'n ein harwain drwy arwyddocâd y Gyllideb

Ymhlith y cyhoeddiadau eraill yr oedd:

  • Bydd treth tanwydd yn cael ei rhewi a bydd gostyngiad o 5c yn cael ei gynnal am flwyddyn arall;

  • O 1 Awst bydd y doll ar gynnyrch drafft mewn tafarndai hyd at 11c yn is na'r doll mewn archfarchnadoedd, "gwahaniaeth y byddwn yn ei gynnal fel rhan o warant tafarndai Brexit newydd";

  • Bydd o leiaf un o'r 12 Parth Buddsoddi newydd yn y DU yng Nghymru;

  • Mae treth gorfforaeth i fusnesau i godi o 19% i 25%.

  • Cynyddir lwfans di-dreth blynyddol pensiynau o £40,000 i £60,000 a bydd y Lwfans Oes - a osodwyd yn flaenorol ar £1.07m - yn cael ei ddiddymu.

  • Bydd rhieni ar Gredyd Cynhwysol nawr yn derbyn hyd at £951 am un plentyn a £1,630 am ddau blentyn y mis a fydd nawr yn cael ei dalu ymlaen llaw.

Bydd y DU yn osgoi dirwasgiad technegol eleni, yn ôl rhagolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol.

O ran y rhagolygon ar gyfer twf economaidd, dywedodd Mr Hunt, "ar ôl eleni bydd economi'r DU yn tyfu ym mhob blwyddyn o'r cyfnod a ragwelir: 1.8% yn 2024; 2.5% yn 2025; 2.1% yn 2026; ac 1.9% yn 2027".

Dywedodd y "bydd dyled sylfaenol y DU yn 92.4% o cynnyrch domestig gros (GDP) erbyn y flwyddyn nesaf, gan ostwng bob blwyddyn wedyn tan 2027-28".

Allyriadau carbon

Dywedodd Mr Hunt fod gogledd Cymru yn rhan o gynlluniau i fynd i'r afael ag allyriadau carbon sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Dywedodd wrth ASau: "Rwy'n dyrannu hyd at £20bn o gefnogaeth ar gyfer datblygiad cynnar dal, defnyddio a storio carbon, gan ddechrau gyda phrosiectau o'n harfordir dwyreiniol i Lannau Mersi i ogledd Cymru".

Dywedodd y byddai'n cefnogi hyd at 50,000 o swyddi, yn denu buddsoddiad gan y sector preifat ac yn helpu i ddal 20-30 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn erbyn 2030.

Ymateb

Roedd Llywodraeth Cymru wedi galw ar y Canghellor i "leddfu'r pwysau sydd ar gartrefi a busnesau" sy'n wyneb prisiau bwyd ac ynni uchel.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford bod y Canghellor wedi cyhoeddi "cyllideb foel, heb gig ar yr esgyrn".

"Nid yw'n ddigonol i daclo'r heriau go iawn mae pobl yn eu hwynebu," meddai.

"Roedd ganddo'r pwerau i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr ond dewisodd beidio â chyflawni'r dasg fawr, bwysig hon."

Roedd Plaid Cymru wedi cyhoeddi pum galwad ar y Canghellor - i roi "tâl teg" i weithwyr cyhoeddus, ymestyn y gefnogaeth ar gostau ynni, codi budd-daliadau, gwella cysylltiadau digidol, a rhoi arian i Gymru yn sgil rheilffordd HS2.

Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price: "Gyda'r gyllideb heddiw, mae'n amlwg nad oes unrhyw ymdeimlad o frys yn San Steffan i fynd i'r afael â safonau byw sy'n gostwng."

Ychwanegodd y byddai cynllun pum pwynt Plaid Cymru wedi "darparu ffordd i'r Canghellor ddiogelu incwm aelwydydd ar unwaith".

Fe wnaeth gweinidog iechyd Cymru feirniadu Jeremy Hunt am beidio cynnig arian ychwanegol ar gyfer cyflogau yn y sector cyhoeddus.

Dywedodd Eluned Morgan: "Dwi'n arbennig o siomedig i weld nad oes 'na unrhyw help ychwanegol i dalu'r gweithlu yn yr NHS.

"Bydd 'na bris i dalu. Bydd 'na bris i dalu o ran y math o wasanaethau bydd e'n bosibl i ni roi yn y dyfodol."

Croesawodd y newidiadau i bensiynau. Mae gobaith bydd rhagor o feddygon yn cael eu perswadio i ymddeol yn hwyrach a pharhau i weithio os bydd hawl ganddyn nhw i dalu mwy i mewn i'w pensiynau.

Ond dywedodd ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud os fydd Llywodraeth Cymru yn ehangu gofal plant yn yr un modd â Lloegr.

Beth oedd gobeithion busnesau?

Roedd galwadau clir ar y Canghellor ar y stryd fawr, gyda busnesau'n teimlo'r wasgfa yn yr economi.

Mae Helen Gwenllian newydd agor ei busnes tylino (massage) ei hun, Hwylus, yn adeilad Bwtic Harddwch Heini yng nghanol tref Llandysul yng Ngheredigion.

"Fel rhywun sydd yn rhedeg busnes bach, y pethe fi yn edrych mas amdanyn nhw yw'r elfennau sydd yn ymwneud â threth neu yn ymwneud â chostau cyflogi, cost yswiriant cenedlaethol ac ati," meddai.

Ffynhonnell y llun, Helen Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Gwenllian yn poeni am effaith costau mewnforio ac allforio ar y nwyddau mae hi'n eu defnyddio

"Fi hefyd edrych ar sut mae'n effeithio ar fewnforion ac allforion. Efallai nad yw busnesau bach fel fi yn ymwneud yn uniongyrchol â mewnforio.

"Ond mae'r hyn sydd yn digwydd - a'r gost gynyddol sydd ynghlwm â mewnforio nwyddau - yn cael effaith yn y pendraw ar brisiau nwyddau i ni, ac mae costau wedi codi yn y salon yn sylweddol."

Dafliad carreg i ffwrdd yng Nghanolfan Hamdden Calon Tysul, mae'r rheolwr Matthew Adams yn dweud bod y cynnydd mewn costau ynni yn cael effaith uniongyrchol ar eu gallu i ddarparu gwasanaeth i bobl.

"Baswn ni yn gobeithio bod help ar y ffordd yn y Gyllideb o ran costau ynni," meddai.

"Trydan ac olew sydd gyda ni yn y ganolfan yn Llandysul, ac fe fyddai unrhyw fath o help yn gymorth mawr.

"I ddweud y gwir byddai unrhyw help cyffredinol i'r sector pyllau nofio yn help mawr achos ma' nifer mewn perygl ar hyn o bryd.

"Mae yn her yn sicr bob dydd. Ni wedi mynd o sefyllfa cyn Covid lle roedd costau gwresogi y pwll a'r ganolfan yn £60,000 y flwyddyn, ond ni'n rhagweld erbyn hyn bydd y costau wedi dyblu i £120,000."

Disgrifiad o’r llun,

Her fawr sy'n wynebu canolfannau hamdden yw costau ynni cynyddol, meddai Matthew Adams

Ychwanegodd Mr Adams: "Hanner ffordd drwy llynedd bu'n rhaid i ni dorri 'nôl ar yr oriau mae'r pwll ar agor er mwyn arbed costau.

"Mae'r cwmni sydd yn rhedeg fferm wynt gyfagos Brechfa wedi rhoi cymorth ariannol i ni, ac wedi noddi ni mewn ffordd am chwe mis gan bod gyda ni shortfall o ran arian."

Mae'r Trysorlys eisoes wedi cyhoeddi y bydd £63m yn y Gyllideb i helpu cynnal pyllau nofio yn Lloegr.

Ond gyda gwasanaethau cyhoeddus fel y rheiny'n cael eu hariannu gan awdurdodau lleol, sy'n derbyn cyfran helaeth eu cyllideb gan Lywodraeth Cymru, bydd yn rhaid aros i weld a yw'r cyhoeddiad i Loegr yn golygu arian ychwanegol i Gymru.

Os yw hynny yn digwydd, y cwestiwn wedyn yw a fydd Llywodraeth Cymru'n penderfynu rhoi'r arian hwnnw yn benodol i byllau nofio.

Costau ynni

Mae'r Canghellor wedi cadarnhau y bydd y gwarant ar gostau ynni cartrefi yn cael ei ymestyn am dri mis arall - gan gadw'r uchafswm ar filiau ynni i gartrefi cyffredin ar £2,500 y flwyddyn, yn hytrach na'i godi i £3,000 yn ôl y bwriad.

Yn ôl David Phillips o sefydliad astudiaethau ariannol yr IFS, mae hynny o help yn arbennig i gartrefi Cymru.

"Mae dau reswm pam fod y cap ar brisiau ynni yn arbennig o bwysig i Gymru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae prisiau ynni uwch yn cael mwy o effaith ar gartrefi Cymru na gweddill y DU, yn ôl yr IFS

"Yn gyntaf mae cartrefi Cymru, ar gyfartaledd, yn llai effeithlon o ran ynni na gweddill Prydain am eu bod nhw'n hŷn.

"Yn ail, mae incwm ar gyfartaledd yn is yng Nghymru, sy'n golygu bod biliau ynni yn cymryd mwy o siâr o incwm cartrefi Cymru na mewn rhannau mwy llewyrchus o Brydain."

Ond mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i fynd ymhellach, trwy gynnig mwy o gefnogaeth i'r un ym mhob pump cartref yng Nghymru sydd heb gysylltiad â'r grid nwy, ac yn dibynnu felly ar olew neu nwy petroliwm hylifol i gynhesu eu cartrefi.

Treth tanwydd ceir

Roedd pwysau ar y Trysorlys i gadw'r toriad treth presennol ym mhris tanwydd fel petrol a disel - er y gallai gostio rhyw £6bn, a chafwyd cadarnhad y bydd treth tanwydd yn cael ei rhewi a bydd gostyngiad o 5c yn cael ei gynnal am flwyddyn arall.

Roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies wedi dweud y byddai'n "ffôl iawn" i gael gwared ar y toriad o 5c yn nhreth tanwydd.

Roedd yr alwad honno hefyd wedi cael cefnogaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n dweud bod pris tanwydd yn bwysau mawr ar gost gweithredu busnesau.

Gofal plant

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gofal plant yn gost fawr arall i rieni, a'r gobaith yw y bydd rhywbeth yn y Gyllideb i'w helpu nhw

Mae tua 290,000 o bobl yn derbyn budd-daliadau Credyd Cynhwysol yng Nghymru, yn ôl ffigyrau Llywodraeth y DU.

Mae'r Gyllideb yn cynnwys newidiadau i sawl carfan sy'n dibynnu ar y taliadau hyn, gan gynnwys rhieni sy'n dibynnu ar Gredyd Cynhwysol i dalu costau gofal plant.

Y drefn ar hyn o bryd yw bod rhieni'n gorfod talu'r gost eu hunain i ddechrau, cyn cael eu digolledu.

Yn ôl y drefn newydd, fe fydd rhieni'n derbyn arian i dalu'r gost yma o flaen llaw, a bydd y swm sydd ar gael yn codi.

Mae'r newid wedi cael croeso gan Cyngor ar Bopeth Cymru, sy'n dweud bod y drefn bresennol wedi bod yn "cloi rhieni allan o'r gweithle gan roi pwysau ariannol annheg ar gartrefi".

Cynnig gwell yn Lloegr

Mae helpu rhieni a chostau gofal plant yn mynd i fod yn rhan fawr o ymdrech y llywodraeth i gael pobl nôl i'r gwaith, gyda'r Trysorlys yn bwriadu ymestyn y cynnig o 30 awr o ofal plant am ddim i bob plentyn o flwydd i bedair oed - yn Lloegr.

Polisi drud, yn sicr, ac fe fydd arian yn ei sgil i Gymru, ond bydd hi lan i Lywodraeth Cymru wedyn i benderfynu dilyn ai peidio.

Maen nhw'n dweud y byddan nhw'n edych yn fanwl ar y polisi ac yn gwneud penderfyniad fydd yn adlewyrchu blaenoriaethau Cymru.

Fel ag y mae, dim ond plant tair a phedair oed sy'n cael 30 awr o ofal yr wythnos am ddim yng Nghymru ar hyn o bryd, tra bod rhai plant dwy oed o ardaloedd mwy difreintiedig Cymru yn cael 12.5 awr am ddim.

Tan neithiwr, roedd hynny'n hael iawn - bellach mae'r cynnig i rieni yn Lloegr dipyn yn well.

Niwclear

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cadarnhau eu bod yn edrych ar ddatblygu ynni niwclear er mwyn gwella cyflenwadau ynni gwyrdd Prydain.

Bydd ynni niwclear yn cael ei ystyried yn "amgylcheddol gynaliadwy" a fydd yn rhoi mynediad at yr un cymhellion buddsoddi ag ynni adnewyddadwy.

Mae'r Canghellor wedi cadarnhau camau nesaf creu corff hyd braich Great British Nuclear yn ei Gyllideb.

Ond gyda'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw ar y llywodraeth i gynnig "mwy o sicrwydd" i'r diwydiant eu bod nhw o ddifrif am ddatblygu safleoedd fel Wylfa, y cwestiynau mawr yw faint o arian a faint o rymoedd fydd gan y corff newydd.