Prisiau ynni 'heriol' yn pryderu siopau bach

  • Cyhoeddwyd
Nia Morris
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Nia Morris ddim yn gweld sut y gallai dorri'n ôl ar ei defnydd o ynni

Cyn bo hir bydd Nia Morris yn dathlu 10 mlynedd o redeg ei siop fach yng Nghilgerran, Sir Benfro.

Ond os yw prisiau ynni "heriol" yn parhau i gynyddu, dyw hi ddim mor siŵr am y degawd nesaf.

"Dwi'n pryderu lot mwy, dwi'n poeni am y dyfodol os ma' pethe ddim yn newid," meddai perchennog Siop y Pentre.

"Os ma' pris ynni yn cynyddu a cadw cynyddu, dwi ddim yn gwybod beth fyddwn ni'n 'neud wedyn."

Yn ôl sefydliad sy'n cynrychioli siopau annibynnol, fe ddylai fod yn haws i fusnesau adael cytundebau ynni drud.

Mae Llywodraeth y DU yn mynnu y byddan nhw "bob amser yn cefnogi busnesau".

'Falle byddwn ni'n cau yn gynharach'

Gyda llai o gwsmeriaid yn dod drwy'r drws, dyw Nia Morris ddim yn gweld sut y gall dorri'n ôl ar ei defnydd o ynni ac felly mae'n ystyried ffyrdd eraill o wneud arbedion.

"Mae rhaid cael rhewgell, mae rhaid cael y fridges ymlaen trwy'r amser, ma' rhaid cael golau 'mlaen. Ma' hwnna bach yn anodd i newid.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd y siop wobr genedlaethol yn 2021

"Ni wedi bod yn edrych ar ydy fe'n dawelach yn y nos - falle byddwn ni'n gallu cau yn gynharach.

"Bydde hwnna'n meddwl awr llai, neu ddwy awr llai o daliadau staff a falle golau fel petai.

"Ond ar hyn o bryd dwi ddim wedi gorfod gwneud hynny. Dwi'n cadw llygad ar bethau, gweld shwt ma' pethau'n mynd."

'Llai o bobl yn gwario'

Mae rhyw 23,000 o bobl yng Nghymru yn gweithio mewn siopau cornel, gyda'r sector yn cyfrannu dros £600m i'r economi, yn ôl Cymdeithas y Siopau Cornel (ASC).

Wrth edrych tuag at gyhoeddi'r gyllideb ddydd Mercher, mae'r academydd Robert Bowen o Brifysgol Caerdydd yn dweud y bydd busnesau'n gobeithio am gymorth gan y trysorlys.

"Dy'n ni wedi clywed lot bod pobl gyhoeddus wedi cael help gyda biliau ynni ond dy'n ni ddim wedi siarad lot am beth sy'n digwydd gyda busnesau," meddai.

"Mae busnesau bach mewn unrhyw argyfwng fel hyn yn gweld hi'n anodd iawn. Bydd busnesau bach yn edrych allan am gefnogaeth i'w helpu nhw gyda'r cyfnod heriol yma.

"Oherwydd mae busnesau'n dioddef ar hyn o bryd o'r ffaith bod llai o bobl yn gwario arian ar hyn o bryd.

"Felly maen nhw'n cael ergyd o ddwy ffordd - costau'n uwch a llai o wariant."

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Goodacre: "Bydd busnesau'n parhau i'w chael hi'n hynod anodd i oroesi dros y 12 i 15 mis nesaf"

Dylai Llywodraeth y DU ei gwneud hi'n haws i berchnogion siopau newid eu cytundeb ynni drud, yn ôl Cymdeithas Mân-werthwyr Annibynnol Prydain (BIRA).

Andrew Goodacre yw prif weithredwr BIRA, ac mae'n dweud i fusnesau gytuno ar brisiau yn ystod "anrhefn" y llynedd, pan roedd prisiau ynni ar eu hanterth.

"Cafodd nifer o fusnesau eu gorfodi i lofnodi cytundebau ar lefel cost ynni uchel iawn," meddai.

"Nawr, mae cyfanwerth pris ynni o dan y lefelau oedden nhw cyn rhyfel Wcráin, felly mae pris cyfanwerthol wedi gostwng yn ddramat

"Ond os nad yw'r llywodraeth yn ymyrryd ac yn caniatáu i'r busnesau hynny ddaeth i gytundeb llynedd i ail-drafod ar lefelau is, yna bydd y busnesau yna'n parhau i'w chael hi'n hynod anodd i oroesi dros y deuddeg i bymtheg mis nesaf."

Mewn datganiad, dywedodd lefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Tra na all unrhyw lywodraeth genedlaethol reoli'r ffactorau byd-eang sy'n gwthio costau ynni a chostau busnes eraill i fyny, fe fyddwn ni bob amser yn cefnogi busnesau.

"Dyna pam ein bod ni wedi darparu pecynnau digynsail o gefnogaeth iddyn nhw a defnyddwyr annomestig eraill o ynni, gan ganiatáu i rai busnesau dalu oddeutu hanner cost cyfanwerthol ynni'r gaeaf hwn, ac rydym ni wedi addo mwy o gefnogaeth ynni o fis Ebrill ymlaen."