Ystyried newid arwyddair 'byd gwyn' Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
arwydd yr eisteddfod ar lwyfanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae geiriau'r arwyddair yn rhan amlwg o logo Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ystyried cael gwared ar ei harwyddair oherwydd pryder am gyfeithiad llythrennol y geiriau 'Byd gwyn'.

Fe allai hynny, yn ôl rhai, arwain at gamddehongli hiliol.

Y cyfieithiad Saesneg o eiriau'r bardd T Gwynn Jones ydy 'Blessed world'.

Ond mewn ymgynghoriad diweddar i foderneiddio'r ŵyl, fe ddaeth i'r amlwg fod rhai yn poeni fod gwir ystyr y geiriau yn mynd ar goll wrth iddyn nhw gael eu cyfieithu.

Fe wnaeth hynny ysgogi cynhyrchydd creadigol yr eisteddfod i gynnig newid yr arwyddair, er mwyn "adlewyrchu'r byd rydyn ni'n byw ynddo rŵan".

Y geiriau gwreiddiol

Yn ôl Camilla King, mae'r gerdd a ysgrifennwyd gan T Gwynn Jones "yn brydferth ac yn rhan hynod bwysig o dreftadaeth yr Eisteddfod".

"[Rydym yn] sefydliad sydd â'i wreiddiau a'i gredoau wedi'i seilio mor gryf mewn heddwch a chymod," meddai wrth Newyddion S4C.

"Rydyn ni'n croesawu degau o filoedd o berfformwyr ac ymwelwyr o bob rhan o'r byd i Langollen bob blwyddyn, llawer ohonynt yn anghyfarwydd â'r Gymraeg.

"Bydd rhai sy'n debygol iawn o ddod o hyd i'r cyfieithiad 'Byd Gwyn' wrth chwilio am ystyr y geiriad ar-lein."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Camilla King yn dweud y gallai'r geiriau presennol gael eu camddehongli

Yr arwyddair llawn ers dros 75 o flynyddoedd ydy 'Byd gwyn fydd byd y gano, gwaraidd fydd ei gerddi fo'.

Cafodd y geiriau hynny eu cyfieithu o'r cychwyn cyntaf gan y bardd T Gwynn Jones i 'Blessed is a world that sings, gentle are its songs'.

Ond cyfieithiad llythrennol 'Byd Gwyn' sy'n poeni rhai, sef 'White World', gyda phryder ei bod yn bosib ei gam-ddehongli.

'Ail-frandio yn allweddol'

Mae swyddogion yr eisteddfod hefyd wedi bod yn bwrw golwg ar y gair 'fo' sydd yn y gerdd - gair sydd ag ystyr llythrennol o 'his' yn Saesneg.

"Rydan ni'n deall nad oes termau gender-neutral yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ond rŵan hyn, rydyn ni'n poeni mwy am oblygiadau'r cyfieithiad o 'Byd Gwyn'," meddai Camilla King.

Mae'r drafodaeth wedi hollti barn yn lleol, gyda chyn-gadeirydd yr Eisteddfod, Dr Rhys Davies, yn dweud: "Yn y cyd-destun hwn mae 'Byd Gwyn' yn cyfeirio at 'Blessed'.

"Gwiriwch gyda Geiriadur Prifysgol Cymru. Does dim angen newid."

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Dr Rhys Davies ddim yn teimlo bod angen newid mawr i'r arwyddair

Wrth gydnabod bod angen moderneiddio'r eisteddfod, mae Dr Rhys Davies yn dweud bod angen trafod newid yr arwyddair yn drylwyr.

"Mae'n rhaid i ni gael ymchwil," meddai. "Ond dwi'n siŵr os fedrwn ni jest newid y gair dipyn bach a chadw neges wreiddiol yr eisteddfod, a chadw'r stori yna, mi fydd hynny'n iawn."

Ers mis Medi 2022 mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen wedi bod yn cynnal adolygiad er mwyn moderneiddio'r ŵyl.

"Mae'r ail-frandio'n rhan allweddol o'r adolygiad," meddai Camilla King.

Iaith yn datblygu?

Fel rhan o'r adolygiad cafodd samplau o gynlluniau brandio newydd eu rhannu gyda nifer o randdeiliaid, gan gynnwys gwirfoddolwyr yr eisteddfod a phartneriaid allanol.

"Yn ystod y broses yma, rydyn ni wedi cael adborth gan rai o'n partneriaid rheolaidd sy'n gweithio ym myd y Gymraeg," meddai Camilla King.

"Ac mi roedd rhai wedi sylwi ar y dryswch posib y gallai cyfieithu 'Byd gwyn' ei achosi."

Y cam nesaf, meddai, oedd chwilo am gymorth pellach gan siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys "aelodau o'r cyhoedd o ystod eang o oedran a chefndir, cyfieithwyr proffesiynol, ysgrifenwyr, ac ymgynghorwyr iaith o fewn Cyngor Celfyddydau Cymru".

"Roedd yr adborth yn unfrydol," meddai Camilla King.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr arwyddair ei ysgrifennu gan T Gwynn Jones yn 1946

"A'r cyngor cryf gan bawb 'naethon ni drafod â nhw, oedd bod y potensial ar gyfer camddehongli yn y cyfieithiad yn ormod i ni fedru ei anwybyddu."

Eglurodd: "Mae aelodau'r Bwrdd a finnau'n cydnabod heb os, pan ysgrifennwyd yr arwyddair ym 1946, mai bwriad y geiriau oedd cyfleu cyfieithiad o 'Blessed world'."

Mae hi'n pwysleisio nad ceisio gwirio ystyr y geiriau ydy'r bwriad yn y bôn, ond yn hytrach "er mwyn cymryd y cyfle i allu defnyddio iaith gynhwysol sy'n driw i fudiad sydd â heddwch a rhyngwladoldeb yn ganolog iddo".

"Mae'r iaith yn datblygu'n gyflym, a dwi'n meddwl fod gennym gyfle gwych yma i ddathlu'r Gymraeg fel iaith fyw a chofleidio llwybrau newydd i'r eisteddfod i'r dyfodol," meddai.

T Gwynn Jones yr heddychwr

Ond dydy Gareth Vaughan Thomas o Rosllanerchugog, sy'n gefnogwr triw i'r eisteddfod, "ddim yn gweld pwrpas newid yr arwyddair".

Ac yntau wedi treulio blynyddoedd yn stiwardio ar y maes, mae'n dweud fod y trefnwyr yn "chwilio am broblemau".

"Ond dyna'r byd modern mae'n debyg," meddai.

"Mae ganddyn nhw ofn digio neb, ond sut fedrwch chi ddigio rhywun yn Llangollen?

"Fedrwch chi fyth ddweud fod Llangollen yn hiliol!"

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gair 'gwyn' yn yr arwyddair wedi ei gyfieithu i'r Saesneg fel 'blessed'

Yn ôl Dr Iwan Wyn Rees, uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd, yr hyn sydd angen "pwysleisio ydy nad 'white world' oedd gan T Gwynn Jones dan sylw o gwbl".

"Wrth gwrs, mi all pobl ddehongli'r geiriau fel hynny, ond dydy hynny ddim yn debyg i'r bwriad gwreiddiol," meddai.

Trafodaeth 'eironig'

Ychwanegodd fod y drafodaeth bresennol am yr arwyddair yn un "eironig".

"Mae pwyslais y cwpled ar undod, ar frawdgarwch, ar bobl o bob cwr o'r byd yn dod at ei gilydd," meddai.

"Wrth gwrs, mi oedd T Gwynn Jones yn heddychwr mawr, felly mae'n hynod eironig fod hwn yn destun dadlau a ffrae ar hyn o bryd.

"Dwi'n meddwl mai nad trafodaeth rhwng pobl wyn ddylai hwn fod yn unig, mi ddylai'r drafodaeth fod rhwng siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd ethnig amrywiol.

"Mae hi'n bwysig gofyn be' ydy'r effaith ar bobl sy'n siarad Cymraeg gan gynnwys pobl o liw, o gefndiroedd ethnig amrywiol, be' ydy'r effaith ar y bobl hynny. Dyna ddylai'r cwestiwn fod."

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru: "Er mai mater i Eisteddfod Gerddorol Gydwladol Llangollen yw hwn, mae'n hollol naturiol y byddai unrhyw gwmni sy'n archwilio eu brand yn ystyried os yw'n parhau i fod yn gyfoes, ac hefyd yn ystyried yn ofalus ystyron, grym a pherthnasedd iaith a geiriau sy'n gysylltiedig â'r brand."

Bydd y Bwrdd yn trafod y mater nos Fercher, ac os yw'r aelodau'n penderfynu newid yr arwyddair, mae disgwyl i swyddogion gomisiynu bardd i greu arwyddair newydd.