Eisteddfod Llangollen yn dathlu 75 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
llangollenFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Safle Eisteddfod Llangollen yn y dyddiau cynnar.

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dathlu carreg filltir arbennig eleni, 75 mlwyddiant. Rhwng 7-10 Gorffennaf bydd miloedd o bobl o ledled y byd yn ymgynnull yn y dref yn Nyffryn Dyfrdwy, a bydd cynulleidfa fyw yn dychwelyd yno wedi dwy flynedd o ddigwyddiadau digidol.

Ers sefydlu'r 'Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol' gyntaf yn Llangollen ym mis Mehefin, 1947, mae'r dathliad o 'Heddwch a Harmoni' wedi ei sefydlu ei hun fel un o wyliau cerddorol mawr y byd.

Prif bwrpas sefydlu'r Eisteddfod oedd i greu pontydd yn dilyn dinistr yr Ail Ryfel Byd, ac i helpu i hyrwyddo heddwch parhaol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Côr o Iwerddon yn ymarfer yn cyn mynd 'mlaen i berfformio, 1949

Ond roedd y gwaith cynllunio ar gyfer yr ŵyl wedi dechrau yn 1943 wrth i Harold Tudor o Goedpoeth, a oedd yn gweithio i'r Cyngor Prydeinig, drefnu ymweliad ar gyfer aelodau o lywodraethau-mewn-alltud yn ystod Yr Ail Ryfel Byd ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mangor. Roedd gwneud hyn yn dipyn o lwyddiant ac erbyn 1946 roedd y cynlluniau yn eu lle ar gyfer y digwyddiad cyntaf.

Fe roedd 'na bryderon na fyddai pobl yn dod i'r ŵyl mor fuan wedi'r rhyfel, ond fe gododd y cyhoedd £1,100 - tua £45,000 yn arian heddiw, er mwyn cynnal yr ŵyl yn Llangollen, ac fe cafodd gryn dipyn o sylw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Trigolion lleol yn mwynhau rhywfaint o gerddoriaeth ryngwladol yn ystod Eisteddfod Llangollen, 1952

Eisteddfodau cynnar

Roedd Eisteddfod Ryngwladol 1947 yn fwy o lwyddiant na'r hyn oedd y trefnwyr yn ei ddisgwyl. Daeth cystadleuwyr o 10 gwlad dramor i Langollen, gan ymuno â thua 40 côr o Gymru, Lloegr a'r Alban.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynyddodd nifer y gwledydd a gymerodd ran.

Ffynhonnell y llun, Cagliad ywerin
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn post o Grouped du costume Tournugeois o Ffrainc. Roedd y grwp yn cystadlu yn Eisteddfod Gydwladol yn 1953

Erbyn 1953, pan ymwelodd y Frenhines Elisabeth II â'r Eisteddfod fel rhan o'i thaith drwy Gymru ar ôl y coroni, roedd cantorion a dawnswyr o 32 gwlad wedi cystadlu yn Llangollen.

Ac wrth i'r 1950au fynd ei flaen roedd gŵyl wirioneddol ryngwladol wedi cael ei chreu.

Ffynhonnell y llun, casgliadywerin
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr o Sbaen yn perfformio ar lwyfan yr hen bafiliwn, a'r lle dan ei sang

Perfformwyr adnabyddus

Mae perfformiad Luciano Pavarotti yn Llangollen yn 1995 yn enwog, ond fe ganodd y tenor byd-enwog yno flynddoedd maith cyn yr achlysur honno.

Yn 1955 roedd y Pavarotti ifanc yn aelod o gôr Corale Rossini o'i dref enedigol, Modena, gyda'i dad yn arwain. Enillodd y côr y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth corau meibion.

Disgrifiad o’r llun,

Luciano Pavarotti ifanc (wedi ei gylchu) gyda chôr Modena yn Llangollen, 1955

Yn ddiweddarach yn ei yrfa fe ddywedodd Pavarotti mai perfformio yn Llangollen yn 1955 oedd digwyddiad pwysicaf ei yrfa, ac fe ysbrydolodd hyn iddo fod yn ganwr proffesiynol.

Uchafbwynt y cystadlu heddiw yw cystadleuaeth fawreddog Côr y Byd, yr enillydd yw côr gorau'r ŵyl. Yn 2005 fe ychwanegodd Luciano Pavarotti ei enw at y gystadleuaeth i gydnabod ei werthfawrogiad o'r ŵyl a'i dylanwad ar ei yrfa.

Disgrifiad o’r llun,

Pavarotti yn perfformio ar lwyfan Llangollen yn 1995

Nid Pavarotti yw'r unig seren opera i berfformio yn Llangollen. Fe wnaeth ei gyd-denoriaid o'r triawd enwog hefyd ganu yno.

Canodd José Carreras yn Llangollen yn 1968, ei ymddangosiad gyntaf ym Mrhrydain ac un o'i gyntaf tu allan i Sbaen, ac am yr ail waith yn 2007.

Fe wnaeth Placido Domingo hefyd ganu yno yn 1968, a dyma oedd un o'i ymddangosiadau cyntaf erioed yn canu fel tenor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wedi i Pavarotti ganu yn Llangollen fe ymddangosodd y ddau arall o'r Tri Tenor yno; y Sbaenwyr José Carreras a Placido Domingo

Er mai cantorion yw'r rhan fwyaf o'r sêr sydd wedi perfformio yn Llangollen - mae arweinwyr corau a cherddorfeydd nodedig, offerynwyr, dawnswyr a llenorion hefyd wedi perfformio yno.

Roedd y falerina fyd-enwog Margot Fonteyn yn un a berfformiodd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Margot Fonteyn ddawnsio yn 1979 pan oedd hi'n 60 oed

'Llangollen yn fy ysbrydoli'

Un o ffefrynnau'r ŵyl yw'r canwr opera o Bant Glas, Syr Bryn Terfel.

Fe gystadlodd Bryn Terfel yno fel hogyn ifanc, ac yna aeth nôl i wneud perfformiadau arbennig yn 1990 ac yn 1996.

"Mae gen i atgofion gwych o Langollen fel artist ifanc yn cystadlu yno a dychwelyd wedyn i berfformio yn y cyngherddau gyda'r nos - wedi fy ysbrydoli bob amser gan y ffaith fy mod i'n dilyn yn ôl troed artistiaid gwirioneddol wych," meddai.

"Dychwelais fy hun i'r pafiliwn ar gyfer perfformiadau o Tosca gan Puccini a Sweeney Todd gan Stephen Sondheim."

Disgrifiad o’r llun,

Syr Bryn Terfel; prif atyniad yr ŵyl yn 1990 a 1996

Roedd Eisteddfod 2007 yn cynnwys perfformiadau gan José Carreras, Joan Baez, a Hayley Westenra.

Yn 2008, cafwyd perfformiadau gan Elaine Paige, All Angels, ac Alfie Boe, ac y flwyddyn ganlynol roedd perfformiadau gan Barbara Dickson, Syr Willard White, Blake, a Natasha Marsh, gyda sioe drawiadol James Bond 007 yn cynnwys Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, fel diweddglo ar y nos Sul.

Yn 2010 cafwyd perfformiadau gan Katherine Jenkins a Nigel Kennedy, gyda Lulu, Russell Watson, Faryl Smith, Ruthie Henshaw a McFly yn porfformio yn 2011.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y feiolinydd Nigel Kennedy, a ymddangosodd yn Llangollen yn 2010

Yn 2012 bu'r Eisteddfod yn gartref i Lesley Garrett, Alison Balsom, Nicola Benedettii a Sian Edwards mewn cyngerdd dathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Cafwyd ymddangosiadau hefyd gan Alfie Boe, Steffan Morris, a Valentina Nafornta, a pherfformiad o waith newydd Karl Jenkins The Peacemakers gan gôr torfol a ffurfiwyd yn arbennig yng nghwmni Cerddorfa Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Daeth yr wythnos i ben gyda Chyngerdd Terfynol Mawreddog gyda Fflur Wyn, Wynne Evans, Mark Llewelyn Evans, John Owen-Jones a Richard Balcombe.

Yn y blynyddoedd diwethaf mae'r cyngerdd nos Sul wedi newid i lwyfannu cerddoriaeth mwy 'poblogaidd'. Gan ddechrau gyda McFly yn 2011, mae cyngherddau dilynol wedi cynnwys UB40, Status Quo a'r Manic Street Preachers.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Manic Street Preachers yn perfformio yn y cyngerdd i gloi Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2017

Hefyd wedi ymddangos mewn cyngherddau yn Eisteddfod Llangollen dros y blynyddoedd mae Alicia Markova, Joan Sutherland, Dennis O'Neil Angela Georghiu, Kiri Te Kanawa, Fou Ts'ong, Yehudi Menuhin, Margaret Price, Jehudi Menuhin, Lesley Garrett, James Galway, Michael Ball a Montserrat Caballé.

Yr Eisteddfod heddiw

Mae tua 4,000 o berfformwyr bellach yn cymryd rhan yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen bob blwyddyn, a dros 50,000 yn ymweld â'r dref i fwynhau'r cyffro.

Dros y blynyddoedd amcangyfrifir bod dros 400,000 o gystadleuwyr o dros 140 o genhedloedd wedi perfformio yn Llangollen.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig