Ffigyrau ar gyfer poblogaeth LHDCT+ Cymru am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd
Mae data Cyfrifiad am nifer y bobl LHDCT+ yng Nghymru wedi cael ei gyhoeddi am y tro cyntaf.
Dangosodd y ffigyrau bod 89.4% o bobl yn disgrifio'u hunain fel person heterorywiol, tra bod 3% o bobl yn disgrifio'u hunain fel hoyw, lesbiad, deurywiol neu fath arall o rywioldeb.
Caerdydd oedd y sir yng Nghymru gyda'r canran uchaf o bobl LHD+, sef 5.3%, gyda Cheredigion yn ail gyda 4.9%.
Fe wnaeth 0.4% o bobl hefyd nodi yn y Cyfrifiad bod eu rhyw yn wahanol bellach i'r rhywedd gafodd ei nodi pan gawson nhw eu geni - grŵp sy'n cynnwys pobl trawsrywiol ac anneuaidd (non-binary).
Canrannau tebyg i Loegr
Yn ôl ffigyrau'r Cyfrifiad ar gyfer Cymru, fe wnaeth 38,000 (1.5%) o bobl ddisgrifio'u hunain fel hoyw neu lesbiad, tra bod 32,000 (1.2%) yn dweud eu bod yn ddeurywiol.
Fe wnaeth 7,000 (0.3%) yn rhagor nodi rhywioldeb gwahanol, gan gynnwys panrywiol (0.2%), anrhywiol (0.1%) a cwiar (0.02%).
Ni wnaeth 194,000 o bobl (7.6%) nodi eu rhywioldeb yn y Cyfrifiad.
Roedd y canrannau ar gyfer pobl heterorywiol, LHD+, a'r rheiny wnaeth ddim ateb, bron yr union yr un peth yng Nghymru ag yr oedden nhw yn Lloegr.
Yng Nghymru fe wnaeth 93.2% o bobl nodi fod eu rhyw yr un peth ag yr oedd pan gawson nhw eu geni, gyda 6.3% yn rhagor heb ateb y cwestiwn.
Dywedodd dros 10,000 (0.4%) fod eu rhyw wedi newid, gyda 1,900 o bobl yn nodi eu bod yn ddyn traws, 1,900 yn dweud eu bod yn ddynes draws, a 1,500 o bobl yn dweud eu bod yn anneuaidd.
Unwaith eto, y siroedd gyda'r canran uchaf o bobl oedd wedi newid eu rhyw oedd Caerdydd (0.71%) a Cheredigion (0.7%).
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022