Hiliaeth gan Gymry Cymraeg 'mewn bywyd bob dydd'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl yma yn cynnwys iaith sarhaus a hiliol allai beri gofid i rai
Mae teulu hil gymysg o Wynedd wedi dweud fod angen i Gymry Cymraeg fynd i'r afael â hiliaeth gan ddweud fod unrhyw fath yn gwbl annerbyniol.
Daw sylwadau Medwen Edwards a'i phartner Lamin Touray wedi i Newyddion S4C ddarlledu stori cyfaill o Ynys Môn a gafodd ei gam-drin yn hiliol, yn Gymraeg, mewn clwb nos ym Mangor.
Wrth rannu'u profiadau hwythau gyda'r rhaglen, mae'r cwpl - sy'n byw ym Methesda - yn annog pobl i herio pob ymddygiad hiliol.
Mae'r Aelod lleol o'r Senedd, Sian Gwenllian yn cydnabod bod 'na agweddau hiliol o fewn cymunedau Cymraeg, gan ddweud bod angen "treblu ymdrechion" i gael gwared ar hiliaeth "unwaith ag am byth".
Mae Medwen, 43, a Lamin yn byw ym Methesda efo'u plant, Leo, tair, Koby, dwy ac Aminata sy'n naw wythnos oed a thri o blant Medwen o berthynas flaenorol.
Mae ganddi naw o blant i gyd, gyda'r tri hynaf wedi gadael y nyth.
Symudodd Lamin i Gymru o Gambia yn 2007 i astudio cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, ac mae'n gweithio fel dadansoddwr data i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Syrthiodd y ddau mewn cariad yn syth, meddai Medwen, ar ôl cyfarfod mewn campfa leol yn 2017.
"Rydw i'n lwcus iawn o gael o yn fy mywyd i, ac y plant hefyd," meddai â gwên anferth. "Mae o mor garedig a chariadus tuag atom ni gyd."
A hithau wedi ei magu yn Nyffryn Ogwen, dywed Medwen mai prin ydy'r achosion o hiliaeth ar y cyfan, ond fod ei theulu wedi profi meicro-gasineb hiliol nifer o weithiau.
Mae pobl yn aml yn gwneud sylwadau heb falais bwriadol, ond maen nhw'n tristáu Medwen, sy'n dadlau bod dim lle o gwbl i unrhyw fath o hiliaeth mewn cymdeithas, ddim hyd yn oed fel "jôc".
"Dan ni dal i ga'l comments hyd yn oed rŵan - [mae] rhai pobl dal i fyw yn y 50s," meddai. "Dim ond ambell slight remarks 'da ni'n cael... ond fel arall mae pawb yma yn lyfli efo fo."
Mae Lamin a Medwen yn annog pobl i herio unrhyw ymddygiad hiliol, boed gan aelodau o'r teulu, ffrindiau neu ddieithriaid.
Dywed Medwen nad ydy "deud 'dach chi yn anti-racist yn ddigon' - ma' 'isho dangos o hefyd".
Os ydy pobl yn clywed sylwadau hiliol ar y stryd, dywed Medwen fod angen iddyn nhw godi llais "yn bendant, 100%" neu mae'n bosib i'r sawl a'u dywedodd feddwl eu bod yn dderbyniol gan ddweud pethau "gwaeth" maes o law.
"Dwi'n teimlo mor gryf am hiliaeth, faswn i ddim yn meddwl ddwywaith cyn confrontio unrhyw berson sy'n deud rhywbeth, dim otch lle y bysan nhw."
Mae cyfeiriadau hiliol at ei phlant, meddai, yn brifo i'r byw. Mae pobl wedi awgrymu wrthi "dydi dy blant di methu caru ei gilydd am bo' nhw wahanol lliw i'w gilydd".
Ar ôl geni ail blentyn y cwpl, fe ofynnodd ambell un ym Methesda iddi: "Be' maen nhw'n fyta gen ti, bananas?' I 'neud allan fatha bo nhw'n fwncis."
Gofynnodd ambell un wrthi, o glywed am ei pherthynas â Lamin: "'Ti'm yn ofn?' Ac o'n i fatha yn gofyn 'Be?' Pam faswn i ofn fo?'
Awgrymodd rywun arall "'Am be ti isho mynd efo dyn du eniwê? I be? Illegal immigrant 'di o'. Pethau brwnt ofnadwy ac even though 'di Lamin ddim yn siarad Cymraeg mae o'n deall hynna.
"Mae o'n digwydd yn everyday life, maen nhw'n gallu d'eud petha' annifyr," meddai Medwen, sy'n dweud ei bod "wedi arfer efo gwahanol cultures" gan fod ganddi sawl ffrind o wahanol wledydd.
Ond mae eraill yn y pentref, meddai "heb 'di arfer efo pobl du, wedyn maen nhw quite narrow-minded".
"Just gweld o'n frwnt dwi - pam treatio pobl yn wahanol am lliw eu croen nhw? Mae'n horrible."
Dywed Lamin mai ar gaeau pêl-droed o gwmpas Bangor y cafodd ei brofiadau cyntaf o hiliaeth yng Nghymru. Tra yn y brifysgol roedd yn chwarae i dîm lleol mewn cynghrair Sul.
Mewn rhai llefydd, meddai, "oherwydd fy mod i'n wahanol, fe ddechreuon nhw wneud synau mwnci".
Awgrymodd bod "y synau'n cael eu gwneud yng ngwres y funud - dyna fywyd weithiau".
Ond fe fyddai'r awyrgylch yn gwbl wahanol yn y dafarn ar ôl y gêm.
"Mi roedd yr un bobl oedd yn gwneud y synau yma ar y cae yn dod i ysgwyd fy llaw - roedd o drosodd."
Tra'n astudio ym Mhrifysgol Bangor, bu Lamin hefyd yn gweithio fel swyddog diogelwch mewn clwb nos prysur yn y ddinas.
Un noson roedd criw o ddynion ifanc yn hiliol tuag ato. Dywedodd un 'Dos yn ôl i dy wlad dy hun' cyn iddyn nhw "fynd ymlaen i ddweud yr N-words".
Er nad yw Lamin wedi profi hiliaeth uniongyrchol yn ddiweddar, mae'n dweud na fyddai'n gadael i sylwadau cas ei dristáu'n ormodol, ond "mae o braidd yn anffodus clywed y fath sylwadau am fy mhlant".
Mae'n parhau'n obeithiol am eu dyfodol fel teulu yn y gogledd "oherwydd rydyn ni'n gymuned fach, rydyn ni i gyd yn 'nabod ein gilydd."
Ond mae ategu galwad Medwen bod "rhaid i ni fynd i'r afael â phob math o hiliaeth" a bod angen "rhoi gwybod am ymddygiad hiliol i'r awdurdodau er mwyn osgoi i'r sefyllfa waethygu".
Mae hiliaeth yn bodoli ymhob iaith, medd Medwen. "Os ydy o mewn person i fod yn hiliol, yna hiliol fydda nhw, os ydyn nhw yn siarad Cymraeg, Saesneg neu unrhyw iaith arall.
"Yn profiad fi, dwi'n Gymraes a pobl Cymraeg sydd wedi deud petha' wrtha fi.
"Os ydy person yn meddwl fod pobl Cymraeg ddim yn hiliol tydyn nhw yn amlwg heb gael profiad hyll hiliol gan berson sy'n siarad Cymraeg felly."
Rhaid ystyried teimladau eraill cyn gwneud sylwadau cas, meddai gan ychwanegu: "Os ydach chi efo unrhyw deimladau tuag at rhywun, cadwch o i chi eich hun."
"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn i ni gydnabod fod hiliaeth yn digwydd mewn cymunedau Cymraeg, o blith Cymry Cymraeg, yn ogystal ag mewn cymunedau eraill ac ymhlith siaradwyr o bob iaith," meddai cynrychiolydd Arfon yn Senedd Cymru, Sian Gwenllian.
"Mae hiliaeth yn beth byw iawn, iawn yn ein cymuneda' ni.
"Ma' rhaid i ni ddyblu ein ymdrechion - treblu ein ymdrechion - i ga'l gwared ohono fo unwaith ac am byth."
'Dylsa petha fod yn wahanol rŵan'
Mae pobl ifanc lleol yn gallu bod yn hiliol, o brofiad merch 17 oed Medwen, Tiah. "Dydyn nhw ddim yn meddwl be ma' nhw'n ddeud," meddai.
"Maen nhw deud petha' racist, fatha comments a jôcs a ballu, meddwl bo nhw'n ffyni, ond dwi'm yn gweld o'n ffyni, a 'na i ddeud wrthyn nhw."
Gan wybod bod ei llys-dad yn Fwslim, dywedodd un jôc yn awgrymu bod "Muslims i gyd yn terrorists a just petha' stiwpid fel'na".
Mae Tiah yn siomedig fod rhai pobl ifanc yn parhau i fod yn hiliol er bod negeseuon cyhoeddus gwrth-hiliaeth yn fwy amlwg.
"Dylsa petha fod yn wahanol rŵan... 'sa chdi'n meddwl fod pobl 'di cael bach o common sense erbyn rŵan.
"Maen nhw angen agor llygad nhw a gweld sut mae petha' go iawn. 'Da ni gyd yr un fath, di o'm ots pa lliw croen sgennoch chdi."
Mae Medwen yn dadlau y dylai'r llywodraeth ystyried rhoi mwy o bwerau i'r heddlu, sicrhau dedfrydau carchar i bobl sy'n ymosod yn hiliol, a rhoi iawndal i ddioddefwyr.
"Efallai fysa'n syniad i'r heddlu gallu rhoi on-the-spot fine os ydyn nhw yn clywed rhywbeth yn cael ei dd'eud ar y stryd," awgrymodd.
Gall meicro-gasineb ymddangos mewn jôcs, sylwadau wrth fynd heibio, neu drwy eithrio pobl yn gymdeithasol.
Dywed Cynghrair Hil Cymru "bod hiliaeth anuniongyrchol yn cael ei fynegi trwy 'ficro-gasineb' [sef] sylwadau o ddiffyg parch, difrïo, a'r sarhad y mae pobl o liw, menywod, y gymuned LHDTQ+ neu'r rhai sydd ar yr ymylon yn eu profi wrth ymwneud â phobl o ddydd i ddydd".
Fis Mehefin, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, dolen allanol, sy'n cynnwys mesurau i fynd i'r afael â hiliaeth mewn ysgolion a chymunedau.
Mae'n rhan o gynllun i atal hiliaeth yng Nghymru erbyn 2030.
Am wybodaeth am sefydliadau sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth, ewch i wefan BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2022