Ymestyn cynllun tai 'Cymorth i Brynu' yng Nghymru tan 2025
- Cyhoeddwyd
Bydd y cynllun 'Cymorth i Brynu', sy'n helpu pobl i brynu tai newydd, yn cael ei ymestyn yng Nghymru tan 2025.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, y byddai Llywodraeth Cymru'n gwario £63m er mwyn helpu i gadw'r cynllun i fynd.
Bydd gweinidogion hefyd yn codi'r cap ar gyfer tai sy'n gallu cael eu prynu dan y cynllun o £250,000 i £300,000.
Ar yr un pryd, dywedodd Ms Evans na fyddai Llywodraeth Cymru'n rhoi cap ar faint all treth cyngor gynyddu.
Dywedodd y gweinidog fod y cynnydd mewn treth cyngor a welwyd ar draws y wlad yn ddiweddar ddim yn "ormodol" hyd yma.
Mae'r cynnydd cyfartalog yn 5.5%, ond fe wnaeth un cyngor - Conwy - gynyddu eu treth cyngor o bron i 10%.
'Newid yn y farchnad dai'
Bydd cynlluniau i ymestyn Cymorth i Brynu yn cael eu cynnwys yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, gyda phleidlais arni yn y Senedd ddydd Mawrth.
Mae'r mesur yn debygol o basio gan fod y gyllideb yn rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ac mae disgwyl iddyn nhw atal eu pleidlais.
Mae'r cynllun Cymorth i Brynu, sydd wedi cael ei ddileu yn Lloegr, yn cynnig benthyciad rhannu ecwiti o 20% ar gyfer tai newydd.
Mae'n golygu bod prynwyr yn gallu cynnig blaendal o gyn lleied â 5%, ac ad-dalu'r benthyciad dros gyfnod o 25 mlynedd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai pob tŷ sy'n cael ei werthu drwy'r cynllun yn gorfod cyrraedd o leiaf lefel EPC B o ran pa mor ynni-effeithiol ydyn nhw.
Dywedodd Ms Evans y byddai'r newid, o 1 Ebrill ymlaen, yn helpu'r cynllun i "addasu i newidiadau yn y farchnad dai a thaclo effaith yr hinsawdd economaidd presennol ar y rheiny sydd eisiau perchen tŷ".
Treth cyngor 'ddim yn ormodol'
Bydd y gyllideb hefyd yn cynnwys "agos at £100m" ar gyfer mesurau "i helpu pobl i aros yn eu cartrefi, ac hefyd i gefnogi tai cymdeithasol".
Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg, ychwanegodd Ms Evans y byddai Llywodraeth Cymru ond yn rhoi cap ar gynnydd mewn treth cyngor os oedden nhw'n "ormodol".
"Dyw'r symiau dwi wedi clywed ar hyn o bryd ddim wir yn cyrraedd y lefel gormodol yna," meddai.
Ychwanegodd y byddai'n "anodd" cymryd camau ar dreth cyngor am ei fod yn "rhan bwysig o ddemocratiaeth leol", a bod llawer o bobl sy'n gymwys am help gyda'u treth cyngor sydd ddim yn ei hawlio.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2022