Chwe Gwlad 2023: Faletau i ennill ei ganfed cap yn erbyn Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Taulupe Faletau yn cario'r bêl dros y llinell gaisFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Taulupe Faletau gais yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn diwethaf

Bydd Taulupe Faletau yn ennill ei 100fed cap pan fydd Cymru yn wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Fe allai Dillon Lewis wneud ei 50fed ymddangosiad rhyngwladol i Gymru oddi ar y fainc.

Mae Dan Biggar yn dychwelyd i'r cae ynghyd ag Alun Wyn Jones.

George North - a oedd hefyd yn chwarae pan wnaeth Faletau ei ymddangosiad cyntaf yn 2011 - fydd yn bartner i Nick Tompkins yng nghanol cae.

Bydd Louis Rees-Zammit hefyd yn ôl fel cefnwr yn dilyn anaf i ysgwydd Liam Williams, gyda Aaron Wainwright yn cymryd lle Jac Morgan.

Y capten, Ken Owens, fydd yn dechrau fel bachwr gyda Bradley Roberts yn eilydd.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Welsh Rugby Union 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Welsh Rugby Union 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Fe fydd Ffrainc yn gobeithio dal eu gafael ar deitl pencampwyr y Chwe Gwlad os y byddant yn fuddugol yn erbyn Cymru - a hynny'n ddibynnol hefyd ar ganlynaid gêm Iwerddon yn erbyn Lloegr.

Mae Fabien Galthie wedi gwneud dau newid i'w dîm gyda'r prop Uini Atonio yn cymryd lle Dorian Aldegheri a'r clo Romain Taofifenua yn lle Paul Willemse sydd wedi ei anafu.

Mae Bastien Chalureau ar y fainc yn lle Taofifenua.

'Faletau'n cael ei barchu'n fawr'

Wrth gyhoeddi'r tîm ddydd Iau, fe ddywedodd y prif hyfforddwr Warren Gatland fod Taulupe Faletau wedi bod yn "wasanaethwr gwych" i rygbi Cymru.

"Er ei fod e'n cyrraedd 100 o gapiau mae'n dal i fod yn eithaf tawel, ond mae'n cael ei barchu'n enfawr gan chwaraewyr am yr hyn mae wedi ei gyflawni.

"Dwi'n cofio yn y blynyddoedd cynnar roedd e'n gyson, ond fe ddaeth yn chwaraewr o safon byd eang yn nhermau ei berfformiadau.

"Mae cael 100 o gapiau'n gydnabyddiaeth gwych am yr hyn mae wedi ei gyflawni o fewn y gêm.

"Mae'n wych iddo a'i deulu a gobeithio y gallwn fynd allan yno a rhoi perfformiad da iawn iddo a rhywbeth iddo gofio."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru sicrhau buddugoliaeth o 17-29 yn Yr Eidal ddydd Sadwrn diwethaf yn dilyn cyfres o gemau siomedig

Fe ddywedodd Gatland hefyd fod y fuddugoliaeth yr wythnos ddiwethaf yn erbyn Yr Eidal "mor bwysig" ond bod "llawer o waith" yn dal angen ei wneud.

"Mae'n rhaid i ni fynd allan yna a dechrau'n dda. Gwneud yn siŵr ein bod ni mewn gornest dda a rhoi cyfle da i'n hunain.

"Maen nhw [Ffrainc] yn dîm sy'n cicio'r bêl dipyn, felly mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gywir yng nghefn y cae ac mae'n rhaid i ni fod yn dda yn yr awyr."

Tîm Cymru

Rees-Zammit; Adams, North, Tompkins, Dyer; Biggar, Webb; W Jones, Owens (capten), Francis, Beard, AW Jones, Wainwright, Tipuric, Faletau.

Eilyddion: Roberts, Thomas, Lewis, D Jenkins, Reffell, T Williams, O Williams, Halfpenny.

Tîm Ffrainc

Ramos; Penaud, Fickou, Danty, Dumortier; Ntamack, Dupont (capten); Baille, Marchand, Atonio, Flament, Taofifenua, Cros, Ollivon, Alldritt.

Eilyddion: Mauvaka, Wardi, Falatea, Chalureau, Macalou, Lucu, Moefana, Jaminet.