Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Yr Eidal 17-29 Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ryddhad wrth i Gymru sicrhau buddugoliaeth bwysig yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain - a'u pwyntiau cyntaf ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Roedd yna dri chais yn y hanner cyntaf, gan gynnwys cais gosb, a chais pwynt bonws wedi'r egwyl wrth i Gymru ennill am y tro cyntaf dan Warren Gatland ers iddo ddychwelyd fel prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol ym mis Rhagfyr.
Y tîm cartref oedd y ffefrynnau i ennill wedi i Gymru golli tair gêm o'r bron yn y gystadleuaeth - 10-34 yn erbyn Iwerddon, 35-7 yn erbyn Yr Alban a 10-20 yn erbyn Lloegr.
Ond fe ddechreuodd yr ymwelwyr yn hyderus gan amlygu awydd i leihau'r siawns o orffen y bencampwriaeth gyda'r lwy bren.
Daeth pwyntiau cyntaf y prynhawn diolch i gic Owen Williams, ac fe ddaeth cais cyntaf Cymru o nunlle. Fe fownsiodd gic adlam Rhys Webb yn garedig i Rio Dyer a gasglodd y bêl, er yr amddiffynwyr o'i gwmpas, a chroesi'r llinell.
Yn dilyn trosiad Owen Willams, wedi llai na 10 munud o chwarae, roedd Cymru 10 pwynt ar y blaen.
Ildiodd Tomas Francis gic gosb ac fe giciodd Paolo Garbisi yn gywir i sicrhau triphwynt cyntaf Yr Eidal.
Yn fuan wedyn fe gafodd Liam Williams y gorau o bum amddiffynnwr ar yr asgell i groesi'r llinell, ond wedi un trosiad llwyddiannus yn barod aeth cic Owen Williams, er yn agos, heibio ochor bellaf y postyn.
Daeth Yr Eidal yn agos at dirio eu hunain fwy nag unwaith gyda chwarae ymosodol a holltodd amddiffyn Cymru. Roedd yna ddihangfa i Gymru pan benderfynodd y dyfarnwr teledu bod Juan Ignacio Brex wedi colli rheolaeth ar y bêl cyn iddi groesi'r llinell.
Methodd Owen Williams gic gosb o bellter o 45 medr, ond yna fe gafodd Cymru gais gosb wedi i'r dyfarnwr ddweud bod Yr Eidal wedi achosi i'r sgarmes gwympo cyn i'r bêl fynd dros y llinell.
Gyda phum munud ar y cloc fe gafodd Lorenzo Cannone gerdyn melyn a'i hel i'r gell gosb ac fe orffennodd yr hanner gyda Cymru 3-22 ar y blaen.
Tarodd yr Eidalwyr yn ôl yn gryf ar ddechrau'r ail hanner ac o fewn dau funud roedd Sebastian Negri wedi tirio gyda Tommaso Allan yn trosi.
Ond fe gollodd y tîm cartref eu disgyblaeth am gyfnod wedi hynny gan gael ail gerdyn melyn y prynhawn a oedd bron â bod yn gerdyn coch i Pierre Bruno am wthio'i ben-elin i wddf y prop Wyn Jones.
Gyda'r Eidal unwaith yn rhagor un dyn yn brin fe fanteisiodd Cymru ar y gwagle ar y maes, ac roedd angen gwaith amddiffynnol da i atal Josh Adams rhag sgorio cais yn y gornel.
Ond yna fe fachodd Rhys Webb y bêl wedi camgymeriad gan amddiffyn Yr Eidal, gwibio i fyny canol y maes a phasio'r bêl i Talaupe Falatau ei thirio.
Fe sicrhaodd y cais bwynt bonws cyntaf y bencampwriaeth i Gymru, a gyda throsiad Owen Williams roedd y sgôr wedi codi i 10-29.
Gyda Pierre Bruno yn ôl ar y maes fe wnaeth Yr Eidal ddechrau edrych yn fwy peryglus ac roedd angen gwaith amddiffynnol gan Gymru hefyd erbyn hynny.
O'r sgrym, daeth ymosodiad a arweiniodd at ail gais y tîm cartref, gan Juan Ignacio Brex o bas gan Bruno, ac fe ychwanegodd Allan ddau bwynt i gau'r bwlch i 17-29.
Dyna arwain at 10 munud olaf llawn tensiwn nes iddi ddod yn gynyddol amlwg bod dim digon o amser i'r Eidal sgorio digon i atal Cymru rhag ennill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2023