Hedfan claf i uned drawma wedi gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn

  • Cyhoeddwyd
A499Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A499 rhwng Penrhos a Llanbedrog brynhawn Iau

Mae person wedi cael ei hedfan i ganolfan trawma yn Lerpwl yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Ngwynedd brynhawn Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 16:00 i'r digwyddiad ar yr A499 rhwng Penrhos a Llanbedrog ym Mhen Llŷn.

Fe gafodd dau ambiwlans eu hanfon, ynghyd â'r Ambiwlans Awyr.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhybuddio y bydd y ffordd ynghau am gyfnod hir.

Pynciau cysylltiedig