Gwrthdrawiad fan: Dynes wedi marw a dyn yn yr ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Nantgarw, CaerffiliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantgarw, Caerffili

Mae dynes wedi marw a dyn yn ddifrifol wael yn ysbyty wedi gwrthdrawiad gyda fan yng Nghaerffili.

Cafodd un dyn 48 oed ei arestio yn dilyn y digwyddiad, ar amheuaeth o achosi marwolaeth ac o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Mae hefyd ar amheuaeth o yrru dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, ac yn parhau i gael ei holi yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu Gwent fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar Ffordd Nantgarw am tua 19:50 nos Wener, rhwng fan a dau gerddwr.

Cafodd dynes 67 oed o ardal Caerffili ei lladd, ac mae swyddogion bellach yn cynorthwyo ei theulu.

Mae dyn 58 oed o ardal Caerffili yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn apelio ar unrhyw un gyda gwybodaeth neu luniau dashcam o'r digwyddiad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig