Creu bocsys cofio Cymraeg 'wedi i ni golli Steffan'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Mae cael gwybodaeth yn eich mamiaith mor bwysig'

Mae'n bosib bellach cael bocsys cofio cyfrwng Cymraeg er mwyn eu rhoi i rieni wedi iddyn nhw golli plentyn neu fabi.

Daeth y syniad gan gwpl o Gaerdydd wedi iddyn nhw golli eu mab Steffan yn Awst 2021.

Mae Bethan a Rhodri ab Owen yn gobeithio y bydd cael blychau o'r fath "yn eu mamiaith yn gysur i deuluoedd eraill Cymraeg sy'n wynebu colled erchyll a sydyn".

"Chi ddim yn paratoi'ch hunan pan yn mynd i'r ysbyty," meddai Bethan Owen wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae bag 'da chi yn barod i fynd - chi'n pacio dillad a phethe fel'na. Chi ddim yn meddwl bod dim byd yn mynd i fynd o'i le.

"Ga'th Steffan ei eni pan o'n i'n 39 wythnos yn feichiog - o'dd e'n feichiogrwydd normal, hapus, iach. O'dd popeth yn normal.

"O'n i jyst yn meddwl pryd ddaw e a be' newn ni yn y diwrnodau cynta' ond fe fuodd Steffan farw ryw ddwy awr ar ôl cael ei eni.

"O'dd y gofal gathon ni yn yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd yn arbennig.

"Cawson ein rhoi mewn 'stafell arbennig i bobl lle mae eu plant nhw yn marw ar enedigaeth ac un o'r pethe na'th y nyrs ddod i ni o'dd bocs arbennig."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

'Pan chi'n cael profiad fel hyn - yr unig beth chi'n clywed amdano yw babis iach'

Ychwanegodd Bethan: "Mae'r bocs yn gyfle i deuluoedd greu atgofion - mae modd cymryd print o ddwylo a thraed y plentyn, cadw cudyn o wallt ac hefyd mae 'na ddau dedi - un i chi ac un i'r plentyn ac yna be chi'n gallu 'neud yw trwco'r tedi - mae 'da ni y tedi o'dd gyda Steffan ac mae gan Steffan y tedi o'dd gyda ni.

"Ro'n i'n hynod o ddiolchgar am y bocs ond ro'dd ei gynnwys yn Saesneg gan gynnwys y llyfr Guess How Much I Love You.

"Ro'n i wedi prynu y fersiwn Gymraeg o'r llyfr cyn i Steffan gael ei eni ond smo chi'n pacio llyfr yn eich bag 'sbyty chi i'ch plentyn chi.

"O'dd cymaint o bethe o'n i ddim yn cael 'neud gyda Steffan ond ro'n i'n cael darllen iddo a beth o'dd yn od wrth gwrs o'dd bod y llyfr yn Saesneg.

"O'dd e jyst ddim yn rhywbeth fydden ni wedi'i ddewis."

'Cyfieithu o dan straen'

"Felly o'n ni wedyn yn fy meddwl yn cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg. Yr oedran yna fydden i ddim wedi bod yn darllen Saesneg iddo fe," meddai Rhodri ab Owen.

"Fi'n cyfieithu lot yn y gwaith ac mae'r eirfa mor syml yn y llyfr yma ond ro'dd y straen o orfod cyfieithu ar y pryd yn anodd.

"Ro'n i'n teimlo mai yn Gymraeg fydden i'n siarad ag e."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan a Rhodri am i bobl eraill fod yn ymwybodol o'r blychau cofio Cymraeg

Wedi iddyn nhw dderbyn cyfraniadau ariannol gan deulu, ffrindiau a chydweithwyr wedi angladd Steffan fe wnaeth Bethan a Rhodri ab Owen brynu cot arbennig i'r Ysbyty Athrofaol - cot sy'n caniatáu i deulu fod gyda'u plentyn am gyfnod wedi iddo fe farw naill ai yn yr ysbyty neu adref.

Cyn hyn dim ond un cot o'r fath oedd yn yr Ysbyty Athrofaol a gyda'r arian oedd yn weddill fe gafodd Rhodri y syniad o greu blwch cofio Cymraeg - rhywbeth fyddai wedi bod o gymorth mawr iddo fe a Bethan wedi marwolaeth Steffan.

'Dim ond clywed am fabis iach'

Ers Dydd Gŵyl Dewi eleni mae'r blychau cofio bellach ar gael yn Gymraeg.

Mae'r blychau wedi'u cynhyrchu gan elusen 4Louis o ogledd Lloegr - elusen a gafodd ei ffurfio yn 2010 wedi i Bob McGurrell, un o'r sefydlwyr, golli ei ŵyr newydd-anedig.

Mae'r elusen yn darparu 1,500 o flychau bob mis ar draws y DU ac eisoes, yn ôl Mr McGurrell, mae galw mawr am y blychau Cymraeg gydag un ysbyty yn Lerpwl wedi archebu nifer.

"Mae'n gam pwysig eu cynhyrchu yn Gymraeg," ychwanegodd, "ac ry'n ni ar hyn o bryd yn cysylltu gydag awdurdodau iechyd ar draws Cymru i roi gwybod amdanyn nhw."

Ffynhonnell y llun, 4Louis
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl elusen 4Louis mae galw mawr am y blychau Cymraeg gydag un ysbyty yn Lerpwl wedi archebu nifer

Dywedodd Bethan: "'Na'i gyd ni mo'yn yw bod pobl yn ymwybodol ohonyn nhw a bod staff sy'n gweithio mewn ysbytai yn gwybod am eu bodolaeth nhw ac yn ymwybodol hefyd fod hyfforddiant ar gael drwy elusen 4Louis a hynny am ddim.

"Mae'r bocsys yn werthfawr - mae 'na hefyd lyfrynnau sy'n eich helpu chi. Ma' gwybodaeth am linellau cymorth a straeon pobl eraill.

"Pan chi'n cael profiad fel hyn - yr unig beth chi'n clywed amdano yw babis iach.

"Maen nhw'n cael dod adre' ac mae'n stori hapus. Ar y pryd o'n ni ddim yn 'nabod neb arall o'dd wedi colli plentyn ar enedigaeth," ychwanegodd Bethan.

"Fi ddim isio bod neb yn cael un o'r bocsys hyn mewn gwirionedd ond y gwir yw y bydd angen i bobl eu derbyn nhw a ni jyst yn falch nawr bo nhw ar gael yn Gymraeg achos pan chi mewn sefyllfa mor anodd mae cael gwybodaeth yn eich mamiaith mor bwysig."

Os yw'r eitem wedi achosi loes i chi fe fedrwch chi gysylltu â llinell gymorth trwy fynd i wefan BBC Actionline.