Y Pafiliwn: O 8,000 o seddi i heddiw
- Cyhoeddwyd

Rhai o bafiliynau'r gorffennol
Cyhoeddodd yr Eisteddfod ar 21 Mawrth y bydd dwy ganolfan newydd i gymryd lle'r pafiliwn traddodiadol yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
1,800 o seddi oedd yn y pafiliwn yn Nhregaron y llynedd, ond eleni bydd un ganolfan yn dal hyd at 1,200 o bobl, a'r llall yn dal 500.
Ond wyddoch chi i bafiliynau'r gorffennol ddal o leiaf 8,000 o bobl?! Cymru Fyw sy'n codi cwr y llen ar babell bwysica'r cythraul cystadlu.

Yn 1872, cafodd Eisteddfod Gadeiriol Eryri ei chynnal yn Nhremadog ar 28-30 Awst, a chynlluniwyd y Pafiliwn gan y peiriannydd a'r pensaer lleol, Thomas Roberts

Yr awdl fuddugol yn Eisteddfod Freiniol Bangor yn 1874 oedd 'Awdl y Beibl' gan E Gurnos Jones, Talysarn

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 1882 oedd Dafydd Rees Williams am y bryddest ar y testun 'Y Cadfridog Garfield', ond doedd neb yn deilwg o'r gadair
Pafiliwn i 8000 o gynulleidfa
Bangor oedd cartref yr Eisteddfod yn 1890 ac mae gan Y Genedl Gymreig adroddiad hir am y Pafiliwn yn eu rhifyn ar 27 Awst y flwyddyn honno.
Roedd yr Eisteddfod wed'i chynnal ym Mangor yn 1874, ac roedd pwyllgor y Brifwyl yn 1890 wedi dilyn yr un cynllun ar gyfer y Pafiliwn, "nas gallasent wneuthur dim yn well na mabwysiadu yr hen gynlluniau a'u heangu."

Pafiliwn Bangor 1890. Ysgwn i a oedd pob sedd yn llawn?
Meddai'r Genedl Gymreig: "Amcangyfrifir fod ynddi le i 7500 o bersonau mewn oed neu 8000 o gynulleidfa gymysg eistedd yn gysurus. Y mae prif span y to yn 90 troedfedd o hyd, tra mae spans y ddwy ochr yn 35 troedfedd yr un. Amhosibl fyddai cael llwyfan ar well cynllun; a chredwn mai barn pawb a welant y modd gorphenedig mae y rhan hwn o'r adeilad wedi ei gario allan fydd mai gresyn fydd ei ddymchwelyd wedi yr elo yr Eisteddfod trosodd."
Ond dymchwelwyd y pafiliwn, ac ymlaen yr aeth taith yr Eisteddfod, a oedd erbyn hyn wedi arfer gyda'r patrwm o ymweld â'r gogledd a'r de bob yn ail.
Pafiliwn i 12,000 yn 1911
Crwys oedd y bardd buddugol yng nghystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.

Crwys oedd y bardd buddugol yng nghystadleuaeth y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin yn 1911, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Pren oedd strwythur y pafiliwn yma oedd wedi ei gosod ym Mharc Caerfyrddin
Pren oedd strwythur y pafiliwn yma oedd wedi ei gosod ym Mharc Caerfyrddin, ac yn ôl adroddiadau, roedd hi'n dal 12,000 o bobl!
Mwy o'r Pafiliwn dros y blynyddoedd...

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1895, enillydd y Gadair oedd John Owen Williams (Pedrog), ac mae'r gadair fawr bren addurniedig bellach yn ôl yn Llanelli, ac yn cael ei harddangos yn Amgueddfa Parc Howard. Adeiladwyd pafiliwn 1895 yn arbennig i'r archlysur allan o haearn a gwydr a chafodd ei defnyddio eto yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 1903

Cafodd Eisteddfod Genedlaethol 1924 ei chynnal ar 4-9 Awst ym Mharc Mhontypŵl, ac enillydd y Gadair oedd Cynan

Roedd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933 yn un hynod anarferol, gan ei bod wedi ei cherfio yn Shanghai, wedi iddi gael ei chomisiynu gan J R Jones, gynt o Dalysarn

Roedd rhaid rhoi baner Jac yr Undeb newydd ar do Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, ar ôl i'r un gwreiddiol gael ei dwyn y noson gynt

Yr Archdderwydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1963 oedd Cynan, ar ddechrau ei ail dymor yn y swydd, ar ôl ei gyfnod cyntaf fel Archdderwydd yn yr 1950au

Morgan Mathias, o Sydney oedd Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor a'r Cylch yn 1971

Selwyn Iolen enillodd y Goron ym mhafiliwn streipiog gwyrdd a melyn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 1989. Daeth yn Archdderwydd yn Eisteddfod 2005

Yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 oedd yr wythfed tro i'r ŵyl ddod i gyffiniau Bangor

Ers Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 2006, roedd pafiliwn pinc wedi cael ei ddefnyddio i gynnal y cystadlaethau, cyngherddau a'r seremonïau ond fe'i gwelwyd ar faws y Brifwyl am y tro olaf yn Eisteddfod Maldwyn 2015

Datgelwyd cynllun y pafiliwn fyddai'n cymryd lle'r pafiliwn pinc fis Tachwedd 2015

Yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016 y cyflwynwyd y Pafiliwn presennol. Evolution yw'r enw ar strwythur y Pafiliwn yma ac fe ddewiswyd y math yma o strwythur er mwyn cael mwy o seddi gyda gwell golygfa o'r llwyfan ac i ddatrys problemau sain y Pafiliwn Pinc.
Hefyd o ddiddordeb: