Y lein gyntaf yn y byd i werthu tocynnau i deithwyr
- Cyhoeddwyd

Tram ar y rheilffordd, 1807
Ar 25 Mawrth 1807, daeth cwmni Rheilffordd Ystumllwynarth - neu'r Oystermouth Railway and Tramroad Company fel y cyfeiriwyd atynt bryd hynny - y fenter gyntaf o'i fath yn y byd i gynnig trafnidiaeth rheilffordd i deithwyr a oedd yn talu ffi am y gwasanaeth.
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar hanes y digwyddiad arwyddocaol.
Agor rheilffordd rhwng Abertawe a'r Mwmbwls
Sefydlwyd yr hawl i agor rheilffordd rhwng Abertawe a'r Mwmbwls yn dilyn deddf seneddol ym 1804. Cwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1806; ni chafwyd seremoni agoriadol ffurfiol gan mai prif ddiben y lein newydd oedd cludo cynnyrch diwydiannol megis glo a chalchfaen o Ddyffryn Clun i Abertawe.

Y Mwmbwls rhwng 1890 a 1900
Wedi gweld y cyfle i ennill ceiniog neu ddwy fe ofynnodd Benjamin French - gŵr busnes o Dreforys - i'r Oystermouth Railway and Tramroad Company am yr hawl i drosi un o'r cerbydau haearn i gludo teithwyr. Cytunodd y cwmni ar yr amod bod French yn talu ffi flynyddol o £20 - oddeutu £1,000 yn ein harian ni heddiw - i ddefnyddio'r rheilffordd.
Cynhaliwyd y daith gyntaf lle'r oedd teithwyr yn talu am y fraint o gael teithio ar y lein ar 25 Mawrth 1807. Yn y dyddiau cynnar, ceffylau oedd yn tynnu'r cerbydau ar hyd y cledrau. Mae'n debyg mae tua dau swllt oedd y gost o deithio, swm a oedd tu hwnt i fodd y mwyafrif o bobl gyffredin.

Trên wedi ei bweru gan geffyl, 1870
Roedd Cymru eisoes wedi gweld dyfodiad y gwasanaeth locomotif stêm cyntaf pan adeiladodd y peiriannydd o Gernyw, Richard Trevithick, injan stêm i dynnu haearn o Ferthyr Tudful i Abercynnon ym 1804. Ond yr hyn sy'n gwneud rheilffordd y Mwmbwls yn arbennig yw'r ffaith mai dyma'r lein gyntaf yn y byd i werthu tocynnau i deithwyr.
O'r cychwyn cyntaf, bu'r ganmoliaeth yn hael - yn arbennig ymhlith cylchoedd ffasiynol. Ym 1808, mewn llythyr at Iarlles Weddw Winterton dywedodd y deithwraig Elizabeth Isabella Spence nad oedd hi erioed wedi treulio prynhawn 'with more delight than the former one in exploring the romantic scenery of Oystermouth.' Yn ôl Spence, roedd ei cherbyd wedi cael ei adeiladu allan o haearn ac yn gallu cludo deuddeg o bobl ar unwaith.

Oystermouth, tua 1853-54
Tro ar fyd: Taith ceffyl a throl yn rhatach
Wedi blynyddoedd cyntaf tra llewyrchus daeth tro ar fyd ym 1826 pan adeiladwyd ffordd dyrpeg o'r Mwmbwls i Abertawe. Gyda dyfodiad y lôn newydd roedd hi'n rhatach i bobl deithio â cheffyl a throl.
Bu'r lein yn segur hyd 1855 pan aeth gŵr o'r enw George Byng Morris ati i'w hadnewyddu. Er gwaethaf y datblygiadau sylweddol a welwyd mewn pŵer stêm yn ystod y cyfnod, bu Rheilffordd y Mwmbwls yn defnyddio cerbydau a dynnid gan geffylau tan 1877. Yn wir, ni chyflwynwyd peiriannau stêm ar draws y cwmni hyd nes ddiwedd y ganrif.
Trydaneiddio'r rheilffordd
Ym 1928-29 cafodd y rheilffordd ei thrydaneiddio ac fe gyflwynwyd tri ar ddeg o dramiau trydanol deulawr newydd, pob un â'r gallu i gludo dros 100 o deithwyr. Erbyn 1930 roedd y rheilffordd yn ymestyn un ar ddeg milltir o Abertawe i Bier y Mwmbwls ac yn gwasanaethu deg gorsaf ar hyd arfordir Bae Abertawe. Ymhen ugain mlynedd roedd dros tair miliwn o deithwyr yn defnyddio Rheilffordd y Mwmbwls bob blwyddyn.
Yn ystod yr 1950au, wynebodd Rheilffordd y Mwmbwls gystadleuaeth chwyrn pan ddechreuodd South Wales Transport Company redeg nifer cynyddol o fysiau rhwng Abertawe a'r Mwmbwls. Ar yr un pryd, aethant ati i brynu cyfranddaliadau yn y cwmni rheilffordd ei hun; erbyn 1958 roedd South Wales Transport Company yn berchen ar oddeutu naw deg y cant o gyfranddaliadau y cwmni gan wneud y penderfyniad o gau - yn eu tyb nhw - yn un hawdd.

Yr olygfa o drên olaf y Mwmbwls yng Ngorsaf Ystumllwynarth, 5 Ionawr 1960.
Serch hynny, roedd llawer o bobl leol yn daer yn erbyn cau'r lein. Cafwyd trafodaethau annisgwyl o danbaid pan drafodwyd y mesur i gau yn Nhŷ'r Arglwyddi ym mis Chwefror 1959. Cyfeiriodd sawl Arglwydd at eu hatgofion melys o deithio ar fwrdd y tram ym Mae Abertawe. Ym marn Arlgwydd Ogwr roedd yr ymgais i gau'r lein yn ymosodiad 'dieflig' ar 'hen reilffordd bleserus'.
Ofer fu'r dadlau ac ar 5 Ionawr 1960 gadawodd y tram olaf o orsaf Abertawe i gyfeiriad y Mwmbwls gan nodi terfyn ar 150 o flynyddoedd o deithio blaengar.
Hefyd o ddiddordeb: