Caethwasiaeth fodern: 'Achub' naw o staff cartref gofal yn Llangollen
- Cyhoeddwyd
Mae naw o weithwyr cartref gofal yn Llangollen, Sir Ddinbych wedi eu "hachub" mewn cyrch caethwasiaeth fodern.
Cafodd pedwar dyn a phum dynes - rhwng 24 a 38 oed - eu diogelu gan yr Awdurdod Meistri Gangiau a Cham-drin Llafur (GLAA) ar 22 a 23 Mawrth.
Dywedodd yr Awdurdod y daw'r naw, yn bennaf, o dalaith Kerala yn ne India.
Mae'r heddlu'n cynorthwyo'r ymchwiliad ond does neb wedi eu harestio hyd yma.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth (Salvation Army) hefyd yn cefnogi'r cyrch a'r naw person wedi eu cludo i ganolfan diogelu.
Dywedodd GLAA eu bod yn cadw mewn cysylltiad agos gyda Chyngor Sir Ddinbych a gweithwyr gofal proffesiynol yn yr ardal.
'Ymchwiliad yn parhau'
Fe ddywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio GLAA, Martin Plimmer fod yr ymchwiliad yn "un o nifer" sy'n weithredol ar draws Cymru a Lloegr o fewn y sector gofal.
"Diogelu gweithwyr sy'n agored i niwed yw ein prif flaenoriaeth a byddwn yn gweithredu'n gyflym pan fo gennym wybodaeth sy'n dangos bod pobl yn cael eu hecsbloetio yn sgil eu gwaith," meddai.
"Mae'r sector gofal wedi'i nodi gan y GLAA fel un sydd â risg uchel o lafur gorfodol [ac] ry'n ni'n dibynnu ar y cyhoedd i fod yn llygaid a chlustiau i ni ac adrodd eu pryderon."
Fe wnaeth yr Awdurdod annog pobl i gysylltu ag unrhyw wybodaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.