Hanes menywod diwydiant cocos de Cymru yn sbardun ffilm
- Cyhoeddwyd
Roedd menywod yn casglu cocos gyda'u basgedi ar eu hasynnod yn olygfa gyffredin ar hyd rhannau o arfordir de Cymru yn ystod y 19eg ganrif.
Roedd y gwaith corfforol, heriol yn draddodiad teuluol i genedlaethau o fenywod.
Erbyn hyn, mae cerbydau 4x4 yn hwyluso'r gwaith.
Ond mae hanes benywaidd y diwydiant - ynghyd â menywod sy'n dal i weithio ym maes molysgiaid yng Nghymru - wedi dod yn sbardun ar gyfer ffilm fer fydd yn cael ei dangos yng Ngŵyl Ffilm Cymru a'r Byd yn Un.
"Roedd y menywod hyn yn anhygoel a mor gryf a gwydn," dywedodd cyfarwyddwr y ffilm, Lily Tiger Tonkin-Wells.
Wrth chwilio am ddeunydd archif ar gyfer ffilm 'Molysgiaid a Menywod y Môr' fe gafodd ei swyno, meddai, gan "ddelwedd syfrdanol" y menywod.
"Roedd y menywod hyn yn dal basgedi cocos ar eu pennau, gan eu pentyrru ar yr asynnod gyda'u sgertiau i fyny o amgylch eu pigyrnau wrth gerdded trwy'r dŵr," meddai.
"Y prif beth wnaeth fy swyno oedd bod y merched hynod wydn, ac wir yn deall y llanw a'r ffordd roedd y dŵr yn gweithio a phryd i fynd allan a phryd i ddod yn ôl i'r lan."
Mae'r aber rhwng Penrhyn Gŵyr yn Abertawe a Phorth Tywyn yn Sir Gaerfyrddin yn nodedig yn niwydiant molysgiaid de Cymru ers canrifoedd.
Yn ystod y 19eg ganrif fe fyddai menywod yn defnyddio rhaca i gasglu cocos ym Mhenclawdd.
Byddai'r cocos yn cael eu pentyrru mewn sachau, cyn iddyn nhw eu cludo ar asynnod er mwyn eu golchi a'u berwi mewn siediau tu ôl i'w cartrefi.
Cyn i drên gyrraedd Penclawdd ym 1867, roedd y menywod yn cerdded i Farchnad Abertawe ac yn ôl - taith o 16 milltir.
Roedd y gwaith yn golygu cyfran bwysig o arian i fywyd teuluol yn y cyfnod.
Roedd delwedd y menywod yn sbardun poblogaidd ar gyfer gwaith celf, ffotograffau a phrintiau.
"Roedden nhw'n gwneud ymdrech o ran eu hedrychiad - ro'n i'n meddwl fod hynny'n wych gan ei fod fel rhyw drydydd ton o ffeministiaeth," ychwanegodd Lily.
Mae'r ffilm du a gwyn yn plethu deunydd archif a deunydd newydd o fenywod yn gweithio yn niwydiant molysgiaid Cymru.
'Garw, gwlyb a'r gwaith yn galed'
Mae Carol Watts wedi bod yn gwerthu bara lawr a chocos Penclawdd ym Marchnad Abertawe ar hyd ei gyrfa.
Mae ganddi atgofion da o farchogaeth ceffyl a chart i gludo cocos yn blentyn, wrth barhau â thraddodiad y teulu, gyda'i hen fam-gu hefyd yn arfer gweithio yn y diwydiant.
Dywedodd Carol, sy'n ymddangos yn y ffilm: "Roedd hi'n anodd, anodd iawn i gasglu'r cocos.
"Roedd hi'n arw, yn wlyb, yn waith caled."
Roedd menywod yn gwneud y gwaith er mwyn bwydo'u teuluoedd, dywedodd.
Mae Carol yn gobeithio y bydd ei phlant a'i hwyrion yn parhau â'r traddodiad teuluol.
Dywedodd Lily: "Roedd hi'n hyfryd gweld cymaint o gymuned oedd ganddi [Carol] yn y farchnad. Mae wedi bod yno ers yn ferch fach."
Mae Megan Haines yn gyd-sylfaenydd fferm fôr atgynhyrchiol Câr-Y-Môr yn Nhyddewi, Sir Benfro.
Mae'n tyfu wystrys, cregyn gleision a gwymon mewn ffordd gynaliadwy.
Eu nod yw gwella amgylchedd yr arfordir, gwella lles y gymuned leol trwy gynnig gwaith a cynhyrchu bwyd môr lleol.
"Dw i wrth fy modd yma," dywedodd.
"Ry'ch chi'n gweithio yn y dŵr ac ar hyd yr amser ry'ch chi'n ennill y profiad a'r hyder a gallwch fwynhau hynny fel eich swyddfa."
Mae Lily'n gweld Megan fel "cynrychiolaeth fodern o egni'r menywod cocos".
Mae'n gobeithio y bydd ei ffilm yn "arddangos parhad y dealltwriaeth a'r parch tuag at y môr" gan fenywod o'r 19eg ganrif, i Carol a Megan heddiw.
Dywedodd: "Gobeithio y daw eu ffordd o fyw drwodd mewn rhyw ffordd ac yn benodol eu dealltwriaeth o'r môr."