Arestio dau wedi protest asgell dde ym Mro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Protest Llanilltud Fawr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth ymgyrchwyr gasglu yn Llanilltud Fawr fore Sadwrn i wrthwynebu protest

Fe gafodd dau berson eu harestio ddydd Sadwrn ar ôl i gannoedd ymgasglu ym Mro Morgannwg i wrthwynebu protest gan y mudiad asgell dde eithafol, Patriotic Alternative.

Fe drefnodd y grŵp y brotest yn Llanilltud Fawr i wrthwynebu cynlluniau cyngor Bro Morgannwg i gartrefu ffoaduriaid o Wcrain ar safle hen ysgol yn y dref.

Fe ddaeth tua 20 o gefnogwyr Patriotic Alternative ynghyd, gyda channoedd yno yn gwrthwynebu'r brotest.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y brotest yn un "heddychlon ar y cyfan".

Ond fe gafodd dau eu harestio a'u cludo i'r ddalfa gyda gwrthdaro rhwng rhai protestwyr a swyddogion heddlu wrth i'r brotest ddirwyn i ben.

Mae dyn 20 oed o Abertawe wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar weithiwr brys, a menyw 23 oed o ardal Gwynedd wedi ei harestio ar amheuaeth o ymosod.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd baneri i'w gweld gan yr ymgyrchwyr oedd yn gwrthwynebu'r brotest yn dweud fod croeso i ffoaduriaid yn y dref

Roedd aelodau o fudiad Patriotic Alternative i'w gweld yn dal baneri'n nodi "Nid gwersyll i fudwyr yw Cymru!" a "Mae Prydain yn llawn".

Fe ymgasglodd dwsinau i wrthwynebu eu protest ac fe gafodd pice ar y maen eu dosbarthu fel arwydd o groeso Cymreig.

Dywedodd Aled Roberts, sy'n byw yn Llanilltud Fawr, wrth Newyddion S4C: "Ry'n ni fel cenedl yn croesawu pobl. Mae gweld protest fel hyn yn erbyn cartrefu pobl o Wcráin yn wrthun i fi fel Cymro.

"Dwi wedi clywed bod pobl wedi bod yn trio dylanwadu ar bobl ifanc a phobl eraill ac mae hynny'n annerbyniol. Mae ganddyn nhw hawl i brotestio fel ni.

"Mae'n edrych fel bod llawer mwy ohonon ni na nhw. Dwi jyst yn gobeithio bod y brotest yn parhau'n heddychlon."

Roedd ei gyd-brotestiwr Sam Coates hefyd yn gwrthwynebu presenoldeb Patriotic Alternative yn y dref, gan ddweud: "Rydw i yma oherwydd dydw i ddim eisiau ffasgwyr ar ein strydoedd.

"Fy mlaenoriaeth yw gwneud i bobl sydd wedi gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw deimlo bod croeso iddyn nhw yma."

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth cannoedd i wrthwynebu'r brotest gan fudiad asgell dde eithafol Patriotic Alternative

Gwrthododd y rhan fwyaf o gynrychiolwyr Patriotic Alternative gyfweliad. Cytunodd dau gefnogwr yn ddiweddarach.

Er i'r brotest gael ei chynnal i wrthwynebu cynlluniau i gartrefu ffoaduriaid Wcráin yn y dref, dywedodd un dyn ei fod yno i "wrthwynebu mewnfudo anghyfreithlon".

Soniodd y llall ei fod wedi mynychu "i brotestio yn erbyn mewnfudo torfol a'i effeithiau niweidiol ar gymunedau".

Roedd trigolion y dref wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol i ddangos eu gwrthwynebiad i'r brotest asgell dde eithafol. Cynhaliwyd gwylnos dros nos yn Eglwys St Illtud, gyda'r AS lleol Jane Hutt yn bresennol.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Richard Parry, wrth Newyddion S4C: "Mae pobl wedi dod ynghyd i ddathlu'r croeso sydd yma yn y dref a charedigrwydd y dref."

"Mae pobl y dref wedi dweud nad oes lle i annog casineb.

"Caredigrwydd yw sail cymuned. Byddwn ni'n rhoi trefn ar y materion gwleidyddol o amgylch y dref. Does dim angen ymyrraeth o'r tu allan arnom."

'Dim anafiadau pellach'

Dywedodd yr Arolygwr Mark Henderson o Heddlu De Cymru: "Bu swyddogion yn bresennol yn Llanilltud Fawr heddiw [ddydd Sadwrn] i hwyluso protest heddychlon a lleihau trafferth i'r gymuned ehangach.

"Roedd y brotest, ar y cyfan, yn heddychlon ond fe gafodd dau brotestiwr eu harestio.

"Does dim anafiadau pellach wedi eu hadrodd ac fe wnaeth y protestwyr adael, yn y diwedd, heb ddigwyddiad pellach."

Pynciau cysylltiedig