Arestio dyn, 38, ar ôl marwolaeth dyn arall, 22, yn Llanelli

  • Cyhoeddwyd
Liam Rees Morgan-WhittleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Liam Rees Morgan-Whittle, 22, yn yr ysbyty

Mae dyn wedi ei arestio a'i ryddhau ar fechnïaeth ar ôl marwolaeth dyn 22 oed o Lanelli dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i fflat ar Heol Robinson yn y dref yn oriau mân bore Sadwrn oherwydd pryderon am les dyn.

Cafodd Liam Rees Morgan-Whittle ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn trin y farwolaeth fel un amheus ac maen nhw wedi arestio dyn mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r dyn, sy'n 38 oed, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal, meddai'r llu.

'Dyn ifanc rhyfeddol'

Mae ei deulu wedi cyhoeddi teyrnged i Mr Morgan-Whittle.

"Fel teulu rydym wedi ein llorio o golli Liam," medd y datganiad.

"Roedd yn ddyn ifanc rhyfeddol a fydd yn cael ei golli'n fawr gan bawb oedd yn ei adnabod.

"Rydym yn gofyn am breifatrwydd ar yr adeg drist yma."

Bydd swyddogion yr heddlu ar batrôl yn ardal y fflat ddydd Llun er mwyn cynnal ymholiadau.

Mae teulu Mr Morgan-Whittle yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Pynciau cysylltiedig