20 mlynedd ers cau tollty Cob Porthmadog
- Cyhoeddwyd
Am bron i 200 mlynedd roedd y tollty ar y Cob ym Mhorthmadog yn rhan o fywydau pob dydd pobl Gwynedd.
Mae'r Cob yn cario'r A487 i fyny'r rhan helaeth o lwybr arfordirol orllewinol Cymru. Ond yn sgil y cynlluniau i agor ffordd osgoi heibio tref Porthmadog gostyngodd y defnydd o'r ffordd.
Ar ddydd Sadwrn, 29 Mawrth 2003, fe dalwyd y ffi o 5 ceiniog am y tro olaf ar Y Cob.
Roedd Elfyn Lewis yn gweithio ar Y Cob rhwng 1996-2002, ac mae'n rhannu ei atgofion o'r cyfnod gyda BBC Cymru Fyw.
"Oeddan ni'n codi 5c y car i bawb odd yn mynd heibio - dyna oedd y pris gwreiddiol. Roedd llawer o bobl lleol ac ymwelwyr yn cwyno bod ni'n codi cost mor isel, ond dyna oedd y drefn. Roedd 'na ddeddf seneddol ac roedd hi'n amhosib i ni godi mwy 'na 5c."
Amaeth a llechi
Mae hanes y cob yn nodweddiadol o hanes diwydiant gogledd Cymru. Wedi iddynt godi'r arglawdd a chreu cyfleusterau ar gyfer rheoli dŵr, draeniwyd ardal fawr o dir yn barhaol, ac fe'i ddefnyddid ar gyfer amaethyddiaeth. Ac yna roedd y Cob yn lwybr pwysig i gludo llechi o Ffestiniog i'r cychod yn y porthladd, ac yna i bedwar ban byd.
"Rhwng adeiladu'r Cob yn 1836 a'r adeg pan ddaeth talu'r tollau i ben, teulu William Alexander Maddox oedd yn gyfrifol amdano am flynyddoedd lawer", meddai Elfyn.
"Adeiladwyd y tollborth presennol fel oedd Porthmadog yn mynd yn brysurach. Roedd y cob gwreiddiol yn un reit sylfaenol, ond yn 1836 gath o ei addasu efo Rheilffordd Ffestiniog ar y top, a'r lôn fel mae hi rwan ar y gwaelod - cafodd y lôn ei addasu ar gyfer ceffyl a trol ac i fynd a defaid a gwartheg drosodd.
"Yn yr adeilad yma oedd y bobl oedd yn hel arian y toll yn byw yr adeg yna, ac odd bobl yn gorfod agor y giatiau ar gyfer y bobl ac anifeiliaid oedd yn pasio."
Yn ôl Elfyn roedd 'na deimlad bod Porthmadog ei hun wedi ei amddifadu o'r buddiannau a ddaw gyda thollty'r Cob.
"Y teimlad oedd bod yr arian yn mynd allan o'r ardal, a bysa fo'n lot well i'r arian gael ei fuddsoddi i'r gymuned a chlybiau lleol."
Ymddiriedolaeth Rebecca
"Ond yn 1978 'nath 'na bobl leol, Maldwyn Lewis a Brian Rees Jones, greu Ymddiriedolaeth Rebecca i gymryd y Cob drosodd fel bo'r elw o'r toll yn mynd i'r gymuned leol ym Mhorthmadog - ac hyd at heddiw y gymuned leol sy'n elwa o'r arian."
Un o'r berchnogion olaf cyn i Ymddiriedolaeth Rebecca gymryd drosodd oedd teulu Diana Spencer.
"Oedd yr arian yn mynd allan o'r ardal, dyna oedd y teimlad lleol - pam y dylai nhw dalu arian y toll a bo'r arian yn mynd dros y ffin?"
Yn hel atgofion o'r ciwio, meddai Elfyn: "Dwi'n cofio bobl enwog yn ciwio yn eu ceir - cofio Henry Cooper yn dod heibio yn ei range rover mawr - doedd ganddo ddim pres ond nes i adael drwyodd ac odd o ddigon hapus.
"Roedd 'na bedwar o bobl yn gweithio 'ma drwy'r flwyddyn, ond yn ystod yr haf pan oedd hi'n brysur roedd 'na hogia' ysgol lleol ac odd'na tua 10 'ma yn yr haf."
Cau'r tollty
Doedd y tollty ar y Cob ddim yn gynaliadwy ac ar droad y ganrif daeth ei amser i ben.
"Cafodd y cob ei lledu yn 2002 ond un o'r prif resyma i'r cob gau yn 2003 oedd bod cynlluniau i ddod a'r ffordd osgoi i Port, ac bosib bysa 'na llai o draffig yn dod dros y Cob" meddai Elfyn.
"Felly, penderfynwyd i werthu'r Cob i Lywodraeth Cynulliad Cymru (fel y gelwir ar y pryd), ac yn dilyn hynny daeth bron i ddwy ganrif o hel arian ar y Cob i ben."
Yn 2011 agorwyd ffordd osgoi Porthmadog, a rhyddhawyd y Cob o draffig trwodd trwm a thagfeydd yn ystod gwyliau'r haf. Ond o edrych ar y golygfeydd o Britannia Terrace, roedd gan y ciwio ar y Cob ei fanteision, sef y cyfleoedd i weld rhywfaint o Eryri yn ei ogoniant.
Hefyd o ddiddordeb: