Ffordd osgoi Porthmadog 'wedi gwneud byd o les'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ym Mhorthmadog yn dweud na fyddai'r dref wedi ymdopi â phrysurdeb yr hafau diwethaf, oni bai am y ffordd osgoi yno.
Ar gost o £35m mae hi'n 10 mlynedd bellach ers iddi agor yn swyddogol.
Yn ôl Susan Owen, perchennog siop flodau Si Lwli, mae hi wedi gwneud "byd o les" i'r stryd fawr i gael y ffordd osgoi.
"Flynyddoedd yn ôl - cyn hyn - oeddach chi'n ciwio, yn enwedig ar ddydd Sadwrn, i ddod drosodd yn ôl i Port.
"Fysan ni byth wedi ymdopi yr haf yma. Mae hi wedi bod mor brysur. Mae'r ffordd osgoi wedi helpu'n arw. Roedd ei angen o."
Ond nid pawb oedd mor siŵr ar y dechrau. Roedd rhai busnesau'n poeni'n arw am effaith posib y ffordd osgoi.
Mae'r Cynghorydd Selwyn Griffiths yn cofio'r holl drafod fu cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
"Roedd pawb yn meddwl ar y dechrau fysa Port yn marw. Ond y gwir amdani, tydi Port ddim wedi marw.
"Yn y dechrau ddaru fo effeithio fwy ar Dremadog oherwydd fod y siopau yno yn colli ceir yn mynd drwodd a stopio.
"Erbyn hyn dwn i ddim beth fysa ni'n neud heb y ffordd osgoi yn Port.
"Mae yna ddwy ddamwain wedi bod yr haf yma lle mae'r ffordd osgoi wedi cael ei chau, a'r holl draffig wedyn yn dod drwy'r dref. I fod yn hollol onest, roedd hi'n bedlam."
Cwmniau Balfour Beatty a Jones Bros adeiladodd y ffordd osgoi, gan gwblhau'r gwaith saith wythnos ynghynt na'r disgwyl.
Y diweddar Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd, dorrodd y rhuban adeg yr agoriad swyddogol - hynny dafliad carreg o gartref Clwb Pêl-droed Porthmadog.
I unrhyw un sydd wedi teithio ar hyd y ffordd mae cae'r Traeth i'w weld yn amlwg. Yn ôl y cadeirydd Phil Jones mae'r ffordd osgoi wedi gwneud gwahaniaeth i'r clwb ac i'r dref.
"Fedrai ddim coelio fod yna 10 mlynedd wedi mynd heibio yn barod. Pros and cons sydd yna. Mae'r jury yn dal allan os oedd o'n werth y gwariant.
"Tydi'r dref ddim cweit mor brysur rŵan. Dwi'n meddwl fod nhw'n dweud bod yna ryw 9,000 o gerbydau'n trafeilio bob dydd ar hyd y ffordd osgoi. Mae hynny yn 9,000 yn llai sy'n dod i mewn drwy'r dref.
"Roedd gan y clwb car boot sale llwyddiannus iawn am flynyddoedd. 'Naethon ni golli hwnna a tydi'r iawndal ddim wedi gwneud fyny am hynny.
"Ond wedyn, rydan ni wedi cael mwy o hysbysebion, wrth i'r holl draffig basio cefn yr eisteddle.
"O'r blaen - hefo'r hen ffordd - doeddach chi ddim yn gwybod fod y clwb yma oni bai eich bod chi'n chwilio amdano fo. Mae'r ffordd yn sicr wedi codi proffil y clwb."
Degawd yn ddiweddarach mae cefnogwyr y clwb, ar y cyfan, yn canmol y ffordd osgoi.
Yn ôl Alun Thomas, sy'n byw yn lleol, mae'r ffordd osgoi yn "bendant wedi bod yn llwyddiant ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr".
"Gyda'r holl ymwelwyr mae'n cymryd y straen oddi ar y dref. Mae'n hollbwysig fod ganddo ni ffyrdd osgoi rŵan. Mae'n biti nad oes mwy ohonyn nhw a dweud y gwir, ar hyd yr A470 o'r de i'r gogledd."
Mae Alan Williams yn cytuno fod y ffordd wedi "cymryd y pwysau oddi ar Port".
"Mae yna lot o draffig yn mynd i lawr i'r de does. Oedd raid aros am dros awr o'r blaen i drio mynd drwy ganol Porthmadog. Mae'n ffantastig.
"Yr unig beth, yma yn y clwb pêl-droed - mae dŵr yn dŵad i'r cae, yn llifo i lawr weithiau o'r bypass."
Yn ôl Ian Jones, sydd hefyd yn aelod o Gyngor Tref Porthmadog: "Fysa'r dref ddim wedi gallu copio efo'r bobl da ni wedi gael - yn enwedig eleni. Tasa'r ffordd yn dal i ddod drwy'r dref fysa pobl wedi mynd o'u cof dwi'n siŵr - fysa ni wedi gweld llawer o gwyno."
Mae Hywel Evans yn byw yn Harlech a dywedodd: "Os ydi rhywun angen mynd i'r ysbyty ym Mangor mae'n cymryd ryw 40 munud rŵan yn lle awr.
"Mae Pont Briwat, y bypass yn Port a hefyd yr un ym Mhenygroes a Llanllyfni. Fe fydd yna un yng Nghaernarfon yn fuan. Mae ffyrdd rownd fan hyn yn bendant yn gwella. Yr unig le sydd angen un rŵan ydi Llanbedr."
Mae ffordd osgoi newydd arall yn cael ei hadeiladu yng Ngwynedd ar hyn o bryd i ysgafnhau'r traffig sy'n llifo drwy Caernarfon a Bontnewydd.
Gyda disgwyl i honno fod yn barod yn y flwyddyn newydd, mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi y bydd cyfyngiad cyflymder o 40 m.y.a. arni, o un pen i'r llall.
Yn ôl y Cynghorydd Selwyn Griffiths, mae'n bosib fod angen ail-ystyried pa mor gyflym ddylai pobl yrru ym Mhorthmadog hefyd.
"Mae'r darn o ffordd sy'n mynd heibio Tremadog efo cyfyngiadau arno fo.
"Yn bersonol fe fyswn i'n hoffi ei weld o'n mynd yr holl ffordd i Benrhyndeudraeth. Mae yna or-yrru yma - does dim dwywaith am hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Awst 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019