Disgyblion o Wynedd yn rhoi cymorth i blant Y Gaiman

  • Cyhoeddwyd
gaiman
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion o Ysgol Gymraeg Y Gaiman

Pwy fyddai wedi meddwl y buasai buddugoliaeth Yr Ariannin yng Nghwpan y Byd yn 2022 yn cysylltu dwy ysgol dros 7,000 o filltiroedd o'i gilydd. Dyna sydd wedi digwydd i Ysgol Penybryn yn Nhywyn, Gwynedd.

Yn dilyn y bencampwriaeth fe benderfynodd Elen Mason, sy'n athrawes yn Ysgol Penybryn, y byddai'r disgyblion yn ei dosbarth yn dysgu mwy am y wlad yn Ne America. Yn fuan wedyn roedden nhw'n dysgu am Batagonia, y Mimosa a'r ffaith fod y Gymraeg yn dal i gael ei siarad yno.

Disgrifiad,

Derbyniodd Ysgol Penybryn, Tywyn y neges hon yr holl ffordd o Batagonia

"Dw i'n meddwl ei fod o'n cŵl iawn bod pobl yn siarad Cymraeg 7,000 milltir i ffwrdd," meddai Cadi, un o ddisgyblion Ysgol Penybryn wrth siarad gydag Aled Hughes ar Radio Cymru ddydd Iau.

Helpu â'r costau adnewyddu

Ymhen amser roedd Ysgol Penybryn mewn cysylltiad ag Ysgol Gymraeg Y Gaiman. Mae'r ysgol honno, sydd â 160 o ddisgyblion, wrthi'n cael ei hadnewyddu er mwyn adeiladu dau ddosbarth newydd. Gyda chostau mawr yn arafu'r broses yno fe gynigiodd y disgyblion yn Nhywyn godi arian i'w helpu.

Maen nhw wedi cynnal Tŷ Tê er mwyn casglu arian lle mae modd cael paned a chacen gri sydd wedi'i phobi gan ddisgyblion Ysgol Penybryn, neu fara brith.

Ffynhonnell y llun, YsgolPenybryn
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion o Dywyn yn codi arian i'w ffrindiau newydd ym Mhatagonia

"Maen nhw wedi dotio yn Ysgol Gymraeg Y Gaiman ein bod ni wedi meddwl amdanyn nhw..." eglura Elen Mason, "A 'dan ni wedi cael fideo ddoe yn diolch i ni."

'Creu cyswllt hyfryd'

Dywedodd Dexter, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Penybryn: "Dwi'n meddwl bod o'n neis iawn bod ysgol sydd 7,000 o filltiroedd i ffwrdd yn siarad gyda ni."

Ffynhonnell y llun, ysgolpenybryn

Mae Elen yn falch iawn o sut mae'r stori wedi datblygu. "Mae gwaith y tymor i gyd wedi arwain at hwn heb i ni ddisgwyl achos syniadau'r plant 'dan ni'n eu defnyddio yn yr ysgol yn aml iawn efo'r dysgu 'dan ni'n wneud," meddai.

"Mae creu y cyswllt efo Ysgol Gymraeg Y Gaiman wedi bod yn hyfryd a gobeithio gallwn ni gario 'mlaen efo hynny."

Gallwch glywed sgwrs gyfan Elen, Cadi a Dexter gyda Aled Hughes ar BBC Sounds.

Ffynhonnell y llun, ysgol pen y bryn