Caerdydd: Cyhuddo dyn o geisio llofruddio wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
lleoliad y gwrthdrawiad
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad tu allan i Ysgol Uwchradd Cathays

Mae dyn 31 oed wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio mewn cysylltiad â digwyddiad yng Nghaerdydd lle cafodd gyrrwr fan ei daro a'i lusgo o dan gerbyd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Gogledd yn ardal Y Waun Ddyfal brynhawn Mawrth.

Mae gyrrwr y fan, dyn 54 oed, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Dywed yr heddlu brynhawn Iau fod dyn 31 oed o ardal Llanrhymni wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad, cyn cadarnhau'n ddiweddarach ei fod wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener.

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau hefyd na fydd unrhyw gamau pellach yn erbyn dyn arall, 39 oed o ardal Grangetown, a gafodd ei arestio ddydd Mawrth.

Mae e bellach wedi cael ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y fan i stop ar Ffordd y Gogledd ar ôl i'r dyn gael ei daro

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell o Heddlu'r De: "Hoffwn ddiolch eto i'r rhai sydd wedi cysylltu â ni gyda gwybodaeth hollbwysig.

"Mae ditectifs yn parhau yn yr ardal ac yn cynnal ymholiadau gyda thystion, o dŷ i dŷ ac ar gamerâu cylch cyfyng.

"Rydym dal yn awyddus i glywed gan unrhyw un na sydd wedi cysylltu hyd yma ond a oedd yn ardal Laytonia Avenue a Ffordd y Gogledd rhwng 12:45 a 12:50 ddydd Mawrth, yn enwedig rhai oedd yn bresennol pan ddaeth y fan i stop gyda'r dioddefwr wedi'i ddal oddi tani, ac wrth i'r person sydd dan amheuaeth redeg i ffwrdd.

"Mae teulu'r dioddefwr wedi eu chwalu gan yr hyn ddigwyddodd, ac yn dal i dderbyn cefnogaeth tra'n parhau wrth ei wely yn yr ysbyty."

Pynciau cysylltiedig