Caerdydd: Dyn wedi'i daro a'i lusgo dan ei fan gafodd ei dwyn
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i yrrwr fan ddosbarthu gael ei daro tra'n gwneud ei waith ar ffordd yng Nghaerdydd.
Fe gafodd y gyrrwr ei lusgo dan y cerbyd ar hyd Ffordd y Gogledd yn ardal Y Waun Ddyfal brynhawn Mawrth, meddai'r heddlu.
Mae dyn 54 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol y brifddinas. Mae dyn 39 oed yn parhau yn y ddalfa.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn archwilio fan ddosbarthu wen a gafodd ei dwyn cyn i'r cerbyd daro'r gweithiwr.
Mewn datganiad dywedodd y Prif Arolygydd Matt Powell o Heddlu De Cymru: "Am 12:49 brynhawn Mawrth, fe wnaethom dderbyn adroddiad am yrrwr wnaeth fethu â stopio wedi gwrthdrawiad ar Ffordd y Gogledd yng Nghaerdydd.
"Fe allwn gadarnhau bellach bod y fan ddosbarthu wedi cael ei dwyn o Rodfa Laytonia gerllaw tra bod y gyrrwr yn dosbarthu parseli ar y stryd.
"Yn ystod y lladrad credir bod y fan wedi gwrthdaro â'i pherchennog a'i fod yna wedi cael ei gario gan y cerbyd am gryn bellter cyn i'r fan ddod i stop ar Ffordd y Gogledd.
"Mae hwn yn ddigwyddiad sy'n peri sioc ac ry'n yn meddwl am aelodau teulu'r dioddefwr, sy'n cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol."
'Llusgo dan y fan am 50metr'
Fe ddisgrifiodd Dr Tamar Elsayed yr hyn welodd adeg y gwrthdrawiad wrth eistedd yn ei swyddfa ar Ffordd y Gogledd.
"Fe welodd fy mhartner, oedd yn eistedd wrth fy ymyl, y dyn dan y car, wedi ei anafu."
Dywedodd Dr Elsayed eu bod wedi mynd i weld a oedd y dyn yn iawn ond ei fod "eisoes yn anymwybodol".
"O fewn munudau fe ddaeth y gwasanaethau brys ac fe wnaethon nhw waith arbennig.
"Fe gymerodd y gwasanaeth tan reolaeth, roedden nhw'n gwneud CPR, roedden nhw'n gwneud cymaint o waith i achub ei fywyd, ac roedd y parafeddygon yn gwneud popeth posib i achub ei fywyd."
Ychwanegodd ei bod hi'n "anodd ceisio datrys ble gafodd ei daro a sut ddigwyddodd y gwrthdrawiad".
"Fe wnaethon ni wirio camerâu tua dwy awr yn ddiweddarach ac fe ddaeth i'r amlwg ei fod wedi ei daro ger y goleuadau traffig tua diwedd y bloc ac fe gafodd ei lusgo'r holl ffordd i fan hyn sydd tua 50 metr.
"Mae'n rhaid fod y cyfan wedi bod yn boenus ac yn erchyll iddo.
"Fe welais gleisiau a briwiau difrifol ar ei ddwylo a'i freichiau, roedd ei ben wedi ei anafu, roedd e'n gwaedu, mae'n rhaid ei fod wedi dioddef."
Roedd Ffordd y Gogledd ar gau tan 21:30 nos Fawrth.
Mae plismyn yn diolch i yrwyr a'r gymuned leol am eu hamynedd tra bod archwiliadau hanfodol yn cael eu cynnal, ac mae ymholiadau o dŷ i dŷ yn parhau.
"Rwyf am ddiolch yn benodol i bawb wnaeth geisio helpu'r dioddefwr ac sydd wedi rhoi gwybodaeth hanfodol i ni," ychwanegodd y Prif Arolygydd Powell.
"Er ein bod wedi arestio un dyn fe fyddem yn hoffi clywed gan unrhyw un oedd yn dyst neu sydd â ffilm o fan Renault wen yn cael ei gyrru rhwng ardal Rhodfa Laytonia a Ffordd y Gogledd rhwng 12:45 a 12:50 ddydd Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023