Carrog: Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng car a bws

  • Cyhoeddwyd
A5Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A5 yn ardal Carrog brynhawn Iau

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ffordd rhwng bws a char ger Corwen yn Sir Ddinbych.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad ar yr A5 yn ardal Carrog ychydig cyn 13:45 brynhawn Iau.

Bu farw gyrrwr y car Toyota yn y fan a'r lle. Mae ei deulu wedi cael gwybod.

Dywedodd y Sarjant Nicola Laurie o Heddlu'r Gogledd eu bod yn apelio ar unrhyw dystion, neu sydd â lluniau dashcam, i gysylltu â'r llu.

Pynciau cysylltiedig