Caerffili: Arestio dwy fenyw a bachgen, 13, yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae dwy fenyw wedi'u harestio ac mae bachgen 13 oed yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghaerffili.
Fe gafodd yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans eu galw i Ffordd St Martins tua 14:40 ddydd Gwener i'r gwrthdrawiad rhwng car, fan a cherddwr.
Cafodd bachgen - a oedd yn cerdded ar y pryd - ei gludo i'r ysbyty i gael triniaeth wedi'r digwyddiad.
Dywed yr heddlu fod dwy fenyw o Gaerdydd, a oedd yn teithio yn y fan, wedi'u harestio ar amheuaeth o achosi anaf drwy yrru'n ddiofal a gyrru cerbyd modur gyda chyfran o gyffur rheoledig penodedig sy'n uwch na'r terfyn penodedig.
Mae'r ddwy, sy'n 51 a 42 oed, yn parhau yn y ddalfa ac mae ymchwiliad yr heddlu'n parhau.
Mae'r ffordd yn parhau ar gau ac mae'r heddlu yn gofyn i bobl osgoi'r ardal.