James Allchurch yn euog o geisio ysgogi casineb hiliol
- Cyhoeddwyd
Mae podlediwr wedi ei ganfod yn euog o ddosbarthu cynnwys hiliol a gwrth-Semitaidd.
Roedd James Allchurch, o Sir Benfro, wedi gwadu 15 cyhuddiad o ddosbarthu recordiau gyda'r bwriad o geisio ysgogi casineb ar sail hil.
Fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Abertawe o 10 cyhuddiad ac yn ddieuog o bump arall.
Uwchlwythodd y dyn 51 oed y podlediadau i'w wefan Radio Aryan, sydd bellach wedi ei ail-frandio yn Radio Albion.
Dywedodd y Barnwr Huw Rees wrth Allchurch i ddisgwyl dedfryd o garchar "na fydd yn cael ei fesur mewn misoedd", am "ddefnyddio iaith ffiaidd ac anfaddeuol sy'n staen ar ddynoliaeth yn fy marn i".
"Ddylai neb fynegi eu hunain fel hyn," ychwanegodd.
Cafodd Allchurch ei ryddhau ar fechnïaeth amodol a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 28 Ebrill.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2021