Craig Bellamy, cyn-gapten Cymru, yn fethdalwr

  • Cyhoeddwyd
Craig BellamyFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae Craig Bellamy am i'w brofiad fod yn wers i bêl-droedwyr ifanc wrth iddyn nhw reoli eu harian

Dywed cyn-gapten Cymru, Craig Bellamy, ei fod wedi cael ei wneud yn fethdalwr.

Mewn cyfweliad papur newydd dywed Mr Bellamy, sydd bellach yn gweithio fel rheolwr cynorthwyol i glwb pêl-droed Burnley, ei fod yn wynebu heriau ariannol yn sgil methiant buddsoddiadau a gafodd eu gwneud ar ei ran.

"Mae pob dim sydd gen i wedi ei gymryd oddi arnaf," dywedodd wrth bapur y Daily Mail.

"Os yw'r bobl anghywir yn rhoi cyngor i chi, mae'r sefyllfa yn mynd o ddrwg i waeth," ychwanegodd Mr Bellamy.

"Dwi wedi cyrraedd y pwynt lle mae bod yn fethdalwr yn rhyddhad. Mae hyn yn golygu y gallai fyw eto.

"Dwi'n siŵr bod rhai pobl yn meddwl fy mod i wedi gwario'r arian ar ddiod, gamblo neu gyffuriau ond dydw i ddim.

"Am adegau chi ddim yn clywed dim gen i ond nid yn y dafarn ydw i. Dwi ddim wedi cyffwrdd â chyffuriau ers yn blentyn ifanc. Dwi ddim yn gamblo - dwi erioed wedi gwneud.

"Dyw'r cyfan ddim yn gwneud synnwyr i mi."

'Gwiriwch bob dim'

Fe ddechreuodd gyrfa Craig Bellamy yn Norwich a daeth i ben yn ei ddinas enedigol yng Nghaerdydd. Fe sgoriodd 19 gôl wedi iddo chwarae 78 gwaith i Gymru.

Fe ymddeolodd fel chwaraewr yn 2014 gan symud i hyfforddi Caerdydd ddwy flynedd wedyn ac yna ymunodd â Vincent Kompany yn Anderlecht ym Mehefin 2019.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Craig Bellamy ei fod yn wynebu heriau ariannol yn sgil methiant buddsoddiadau a gafodd eu gwneud ar ei ran

Yn 2020 cafodd Craig Bellamy ddiagnosis o iselder - ac mae e am i'w brofiad fod yn wers i chwaraewyr ifanc.

"Gwiriwch bob dim. Sicrhewch fod y bobl sy'n eich cynghori wedi'u rheoleiddio," ychwanegodd Mr Bellamy.

"Os nad ydyn nhw wedi'u rheoleiddio, mae e fel y gorllewin gwyllt. Sicrhewch bod pobl annibynnol yn gwirio eich materion ariannol - rhywbeth sy'n gyfystyr ag ail farn.

"Rwy' i yn un o genhedlaeth o bêl-droedwyr lle roedd pob dim yn cael ei wneud i chi. Pob bil yn cael ei dalu. Lle bynnag ro'n i roedd y clwb yn gwneud pob dim i mi. Dwi'n meddwl nad yw hynny'n iawn.

"Mae hynny yn eich gwneud yn berson bregus. Mae'n beth da i chwaraewyr gael cyfrifoldebau oherwydd un diwrnod fydd y clwb ddim yno i'ch cefnogi.

"Pan fydd eich gyrfa yn dod i ben fe fyddwch yn parhau i fod yn ifanc o hyd ac wrth i'ch gyrfa ddod i ben pwy fydd yn talu am bob dim wedyn? Mae'n rhaid i chi ddysgu sut mae goroesi. Un diwrnod fe fydd yn rhaid i chi fyw yn y byd go iawn."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar Action Line y BBC.