Cwpan Pencampwyr Ewrop: Saracens 35-20 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Max MalinsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Max Malins sgorio dau gais - gan sicrhau bod ei dîm yn cyrraedd y chwarteri

Methiant fu ymdrech y Gweilch i gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wedi iddyn nhw gael eu trechu gan y Saracens o Lundain.

Roedd hi'n agos iawn ar ddiwedd yr hanner cyntaf - dim ond un pwynt oedd ynddi a'r Gweilch oedd ar y blaen (13-14).

Wedi 12 munud roedd yna gais i Michael Collins o'r Gweilch wedi gwaith da gan Keiran Williams ac ymhen deg munud roedd yna gais i Keiran Williams ei hun - hynny wedi gwaith ardderchog gan Rhys Webb.

Doedd y Saeson ddim am ildio ac wedi 40 munud roedd yna gais i Max Malins ac wedi cicio llwyddiannus gan Owen Farrell yn yr hanner cyntaf doedd yna fawr yn gwahanu'r ddau dîm.

Y Gweilch a sgoriodd gyntaf ar ddechrau'r ail hanner. Wedi dwy gic gosb lwyddiannus gan Owen Williams roedd y Gweilch saith pwynt ar y blaen (13-20) - yna unionodd y sgôr wedi ail gais Max Malins a throsiad llwyddiannus Owen Farrell.

Doedd y sgôr ddim yn gyfartal am yn hir wrth i'r Saracens fagu stêm - o fewn munudau roedd yna gic gosb lwyddiannus gan Owen Farrell a chais gan Duncan Taylor ac wedi trosiad arall llwyddiannus roedd y sgôr yn 30-20.

Cyn diwedd y gêm roedd yna gais arall i'r tîm cartref wedi i Tom Woolstencroft groesi'r llinell ac er i Farrell fethu'r gic roedd y Saracens 15 pwynt ar y blaen.

Y sgôr terfynol - Saracens 35 - 20 Gweilch.

Pynciau cysylltiedig