Abertridwr: Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio dyn 27 oed
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed o ardal Caerffili wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio dyn 27 oed.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Heol Cefn Ilan ym mhentref Abertridwr tua 09:45 ddydd Sul wedi i ddyn gael ei ganfod yno yn anymwybodol.
Cadarnhaodd parafeddygon bod y dyn wedi marw, ac fe lansiodd Heddlu Gwent ymchwiliad llofruddiaeth.
Mae'r dyn sydd wedi ei arestio yn y ddalfa ac mae perthnasau'r dyn a fu farw yn cael eu cefnogi gan swyddogion heddlu arbenigol.
Mae'r ymchwiliad heddlu'n canolbwyntio ar ddau leoliad - un yn Abertridwr ac un yng nghanol tref Caerffili.
'Peidiwch ag ofni'
Maen nhw'n awyddus i glywed gan "unrhyw un oedd yn White Street, ger y llyfrgell, a welodd ffrwgwd rhwng dau ddyn" rhwng 20:00 a 22:00 nos Sadwrn.
Mae'r Ditectif Uwcharolygydd Nicholas Wilkie yn erfyn ar y cyhoedd i "beidio ag ofni" o weld gweithgaredd yr heddlu sy'n ymchwilio i'r achos.
Ychwanegodd: "Os oes gyda chi bryderon neu wybodaeth, os gwelwch yn dda stopiwch i siarad gyda ni."
Mae hefyd yn bosib rhoi gwybodaeth yn ddienw trwy linell Taclo'r Tacle, sef 0800 555 111.
Dywed Heddlu Gwent eu bod wedi cyfeirio'r achos i'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) "yn unol â gweithdrefnau safonol".