Beth yw Eglwys Wyllt Bethesda?
- Cyhoeddwyd
Pererindod o Fethesda i'r ganolfan fulod yn Nhregarth ar Sul y Blodau ac am dro gyda'r wawr i fyny Moel Faban gan dorri bara ar y copa ar Sul y Pasg.
Dyna rai o weithgareddau aelodau'r Eglwys Wyllt ym Methesda i nodi'r Pasg eleni.
Sefydlodd Y Parchedig Sara Roberts sy'n offeiriad gyda'r Eglwys yng Nghymru a sydd bellach yn Gaplan Bro i Fethesda, yr Eglwys Wyllt yn ystod haf 2021.
Does gan yr eglwys ddim addoldy ac mae Sara'n ei ddisgrifio fel "gwasanaethau yn yr awyr agored o gwmpas Bethesda".
Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Sara am sefydlu eglwys sy'n torri'n rhydd o'r traddodiad eglwysig yng Nghymru a pherthynas yr eglwys â chymuned Dyffryn Ogwen.
Sefydlu'r Eglwys Wyllt yn ystod y pandemig
Cafodd Sara yr ysbrydoliaeth i sefydlu'r Eglwys Wyllt ym Methesda pan gafodd ei phenodi fel Arweinydd Arloesol Cymuned yn yr ardal yn 2021, cyn dod yn Gaplan Bro eleni.
Roedd yn rhan o brosiect Llan Esgobaeth Bangor a'r Eglwys yng Nghymru i arloesi a chanfod ffyrdd amgen o gyflwyno'r ffydd Gristnogol i bobl.
Eglura: "Ges i'n ordeinio yn offeiriad Esgobaeth Bangor yn 2018 ac o'n i'n gurad ym Mhen Llŷn am ddwy flynedd cyn i fi symud i Fethesda yn 2021.
"Dros y flwyddyn a hannar dwi 'di bod yn byw ym Methesda, dwi jest wedi bod yn trio petha newydd a gweld os ydyn nhw'n methu neu'n llwyddo.
"Mae'r Eglwys Wyllt wedi tyfu o hynny. Pan nes i gyrraedd yma oedd y cyfnod clo wedi gorffan ond oedd pobl dal braidd yn bryderus i gyfarfod dan do.
"Oedd hi'n haf ac o'n i'n teimlo be' am drio neud 'wbath lle mae pobl yn gallu cwrdd tu allan, lle maen nhw'n teimlo'n fwy diogel. Hefyd roedd pobl wedi ailddarganfod sut beth ydy bod allan yn natur ac i werthfawrogi bod yn yr awyr agorad."
Gwasanaethau yn yr awyr agored
Ers ei sefydlu, mae'r eglwys unigryw wedi cyfarfod yn rheolaidd ac mae'n parhau i ddatblygu. Does yna ddim aelodaeth ffurfiol i'r Eglwys Wyllt a gall y gwasanaethau anffurfiol ar y Suliau amrywio o dri neu bedwar aelod i 20.
Eglura Sara: "Dydi o ddim fel eglwys sefydliadol lle mae pobl yn dod yn rheolaidd bob dydd Sul, mae'n fwy achlysurol na hynny ar hyn o bryd. 'Da ni'n dal i arbrofi ac yn trio gwneud pethau gwahanol a newydd.
"Er mwyn ymgynnull, 'da ni'n symud o gwmpas gwahanol leoliadau ym Methesda, 'dan ni 'di bod o gwmpas Parc Meurig lot o'r amsar achos mae o'n lle cyfleus a 'dan ni di bod i fyny Gerlan.
"Pan mae'r tywydd yn ddrwg dros y gaeaf rydan ni'n cwrdd yn sied y cyn-filwyr. Unwaith fydd y tywydd yn dechrau gwella, fyddwn ni allan eto."
Mae pobl fel arfer yn cysylltu gwasanaethau eglwysig â strwythur a threfn, ond nid felly mo'r Eglwys Wyllt.
Eglura Sara: "Mae pobl yn gwybod beth i'w ddisgwyl mewn gwasanaeth eglwys draddodiadol.
"Be 'da ni'n dueddol o'i wneud ydi cael stori sy'n ddarlun o Iesu neu'n ddarlleniad am bwnc 'da ni'n drafod a chydig o gerddoriaeth, 'dan ni'n ddigon lwcus i nabod pobl sy'n chwarae gitâr a ffidil.
"Mae 'na gyfla i fyfyrio a meddwl am wbath yn ddyfnach, er enghraifft ar Sul y Mamau flwyddyn dwytha nathon ni greu labyrinth bach ar lawr y goedwig efo be' bynnag oedd o gwmpas; cerrig, dail a wnaethon ni edrych ar hwnna wrth feddwl am famau a gofalu am fyd natur.
"Weithia byddwn ni'n cael cymun ond un syml iawn. 'Da ni'n neud bara ein hunain a neud o mor syml a fedran ni efo jest geiria o'r swper ola, wedyn 'dan ni'n rhannu'r bara efo'n gilydd.
Rhoi yn ôl i'r gymuned
Ar ôl symud i fyw i Fethesda fe sylwodd Sara ar y gymuned gref sy'n bodoli yno a bod gweithgarwch cymunedol Dyffryn Ogwen yn ffyniannus.
Mae Sara'n falch bod yr Eglwys Wyllt a hithau fel Caplan Bro yn medru rhoi yn ôl i'r gymuned sy'n gartref iddi hi a'r eglwys.
"Rydan ni'n 'neud petha fel hel sbwriel, plannu coed a gwaith garddio cymunedol. Mae'n bwysig i fi fod yr Eglwys Wyllt yn cael ei gweld fel rhywbeth sy'n rhan o'r gymuned a sy'n cyfrannu ati, nid jest yn glwb sy'n bodoli yma i bobl.
"Llynedd ar Sul y Pasg aethon ni i mewn i'r goedwig a nathon ni addurno'r groes oedd wedi cael ei gwneud i ni. Ychydig wythnosa ar ôl y Pasg athon ni mewn i Ysgol Tregarth a nathon ni roi'r groes iddyn nhw i'w throi yn westy trychfilod."
Ddydd Sul, 2 Ebrill eleni roedd hi'n Sul y Blodau sef y Sul cyn y Pasg sy'n nodi taith olaf Iesu Grist i Jerwsalem. Aeth aelodau'r Eglwys Wyllt ar bererindod o Fethesda i Dregarth gan ymweld â chanolfan fulod yno.
Wrth gofnodi'r daith ar dudalen Facebook Eglwys Wyllt, meddai Sara: "Roedd 15 pererin ar bererindod bach hyfryd, arwyddion y gwanwyn ym mhob man, barddoniaeth am Sul y Blodau wrth gerdded, sgyrsiau difyr, cwrdd a ffrindiau hen a newydd, bendithion lu."
Gwneud pobl yn gyfforddus
Elfen bwysig arall i Sara yw sicrhau bod yr Eglwys Wyllt yn croesawu pobl sy'n chwilfrydig am Gristnogaeth, yn newydd i'r ffydd neu'n ei ail-ddarganfod â dwylo agored.
"Mae pobl sydd heb arfar mynd i'r eglwys unai wedi colli'r arferiad neu erioed wedi gwneud. Mae cerdded i mewn i eglwys draddodiadol yn gallu bod yn ychydig bach o her.
"Mae 'na rwystrau yna i lot o bobl am wahanol resyma' felly o'n i'n teimlo os ydan ni'n cychwyn wbath sydd tu allan, mae'n rhoi cyfla i bobl drio rwbath heb y cyd-destun sy'n gwneud iddyn nhw deimlo yn anghyfforddus.
"Falla bod person wedi cael profiad negyddol yn y gorffennol am ryw reswm. Mae 'na lot o betha yn digwydd, pobl yn cael eu brifo gan be' sy'n mynd ymlaen. Dwi'n gobeithio bod yr eglwys yn rhoi cyfla iddyn nhw ailgydio yn y berthynas yna gyda Duw neu'n ei gychwyn am y tro cyntaf."
'Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi bod yn ddewr'
Gyda'r Eglwys Wyllt yn arloesi ac yn rhyddfrydig ei naws, sut mae Sara'n disgrifio perthynas yr Eglwys Wyllt â Christnogaeth a'r eglwys sefydledig?
"Mae'r Eglwys yng Nghymru yn enwedig Esgobaeth Bangor wedi bod yn ddewr yn ddiweddar trwy adael pobl i drio pethau newydd felly dwi'n falch o hynna.
"Maen nhw wedi cydnabod bod adeg yr eglwys sefydledig falla yn dechra dod i ben neu angen rhywbeth gwahanol achos mae'r ffydd, y grefydd ei hun wedi para am dros 2000 o flynyddoedd ond mae o hyd wedi gorfod datblygu a newid ac esblygu achos mae'r cyd-destun a'r gymdeithas mae'n rhan ohoni yn newid. Mae'n rhaid i ni newid hefyd.
"Felly rydan ni yn y sefyllfa yna lle 'dan ni'n gorfod cadw un droed yn yr hen ffordd a un droed yn rwbath newydd achos mae gynnon ni ddyletswydd at bobl sydd dal yn mynd i'r eglwys ffurfiol, draddodiadol a bod yna iddyn nhw, ond hefyd rhaid i ni fod yn agorad i drio petha newydd i bobl sy'n gweld Cristnogaeth mewn ffordd hollol wahanol."
Hefyd o ddiddordeb: