Cymru'n trechu Gogledd Iwerddon o 4-1 yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Hannah Cain yn dathlu ei gôl ryngwladol gyntafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Cain yn dathlu ei gôl ryngwladol gyntaf

Roedd hi'n fuddugoliaeth gadarn i Gymru yn erbyn Gogledd Iwerddon nos Iau.

Fe ddenodd y menywod dorf o fwy na 6,800 i'w gwylio yn y gêm gyfeillar yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Roedd hi'n hanner cyntaf hyderus gyda thair gôl i Gymru a pherfformiad yr ymwelwyr yn ddigon siomedig.

Fe ddaeth y cyntaf gan Jess Fishlock a'r ail gan Angharad James. Hannah Cain lwyddodd â'r drydedd gan ddathlu ei gôl ryngwladol gyntaf.

Roedd yr ail hanner rywfaint yn arafach cyn i Gymru danio eto, ond fe ddaeth Rachel Rowe â'r bedwaredd gôl ar ôl 60 o funudau.

Ddeng munud yn ddiweddarach, fe ddaeth gôl dda i Ogledd Iwerddon gan Lauren Wade i sicrhau o leiaf un ar y sgorfwrdd i'r ymwelwyr.

Ond Cymru fu'n rheoli'r gêm hyd y diwedd a hynny'n sicrhau buddugoliaeth o 4-1.

Fe fydd y gêm nesaf - Cymru'n erbyn Portiwgal - nos Fawrth 11 Ebrill a honno hefyd yn fyw i'w gwylio ar Cymru Fyw.