Apêl Archesgob Cymru i helpu pobl 'ffynnu, nid goroesi'

  • Cyhoeddwyd
Archesgob Cymru

Mae Archesgob Cymru yn galw ar wleidyddion o bob plaid yng Nghymru i greu "cymdeithas sydd yn deg".

Mae pobl angen gobaith, meddai'r Gwir Barchedicaf Andrew John, a pholisïau sydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ffynnu ac nid goroesi yn unig.

Roedd ei sylwadau'n rhan o neges Pasg ar y cyd ag Archesgob yr Eglwys Gatholig yng Nghymru, Mark O'Toole.

Ynddi mae'r ddau arweinydd yn annog pawb i ddod i wasanaethau crefyddol dros ŵyl y Pasg, yn dilyn cyfnod hynod galed i lawer, yn sgil y pandemig a heriau costau byw.

Mae'r ddau'n dweud nad oes ganddyn nhw "atebion syml i broblemau cymhleth" ond byddai rhannu neges y Pasg "yn gwneud gwahaniaeth i chi a'ch cymunedau".

Mi ddywedodd Archesgob Cymru fod dioddefaint pobl yn amlwg, ac fod llawer yn ei chael hi'n "anodd iawn" i dalu biliau ac i gadw dau ben llinyn ynghyd".

"Mae biliau yn uchel ac mae'r tai yn oer, ac mae pobl yn poeni allan nhw dalu'r morgais," meddai.

"Un o'r pethau rwy'n credu sydd ei angen - fel cymdeithas ie, ond mi all yr Eglwys ddilyn yr un model - yw y gallwn ni ailddarganfod rhywfaint o'r creadigrwydd sydd ynghlwm â thrugaredd.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r eildro i Archesgob Cymru gyhoeddi neges ar y cyd â'r Archesgob Gatholig, Andrew John a Mark O'Toole - fe ddigwyddodd Nadolig y llynedd hefyd

"Fe ddylien ni fod yn gymdeithas ac yn Eglwys lle mae tegwch yn cael ei arddel drwyddi draw.

"Rwy'n credu fod pobl yn yr Eglwys wedi bod yn hynod yn ystod yr argyfwng costau byw, yn cynnig banciau bwyd a mannau cynnes i helpu pobl sydd â llai."

'Mae pobl drwy'r wlad angen gobaith'

Wrth siarad o Eglwys Sant Tysilio ym Mhorthaethwy, eglwys sy'n dyddio'n ôl i'r 15ed Ganrif, dywedodd Andrew John fod helpu pobl i deimlo hunan-barch a bod pobl eraill yn poeni amdanynt "yn rhan ganolog i'r Pasg ac yr un mor bwysig â neges yr atgyfodi."

Mae'n credu fod Cymru angen i'w arweinwyr gwleidyddol gynnig gobaith.

"Rwy'n credu mai un o'r pethau yr hoffwn ddweud i'm cyfeillion yn y byd gwleidyddol yw fod angen i ni lunio cymdeithas sydd yn deg.

"Nid Cristnogion ddylai deimlo gobaith yn unig. Mae pobl drwy'r wlad angen gobaith.

"A dyna fy neges i'r rheiny sydd â chyfrifoldeb yn y bywyd cyhoeddus yng Nghymru: rydyn ni angen polisïau sydd yn eu gwneud hi'n bosibl i bobl nid yn unig i oroesi a byw o dydd i ddydd, ond i ffynnu."

Pynciau cysylltiedig