Y murluniau lliwgar sy'n adrodd stori'r Dioddefaint
- Cyhoeddwyd
Mewn nifer o eglwysi ledled Cymru sy'n dyddio i'r oesoedd canol, gallwch weld olion o furluniau ar y waliau sydd yn darlunio golygfeydd arwyddocaol o'r beibl, fel Dioddefaint Crist.
Mae Steffani Wyn Davies yn swyddog delweddu yn adran ddigido Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn diddori mewn pob agwedd o hanes furluniau canoloesol Cymru, o'u creadigaeth i'w cadwraeth.
Yma, mae'n trafod Eglwys fach Llandeilo Tal-y-Bont, ei furluniau a'u hysbrydoliaeth.
Ail-greu'r Eglwys Canoloesol
Yn 2007, fe wnaeth Eglwys Sant Teilo, yn wreiddiol o Landeilo Tal-y-Bont ger Pontarddulais, ail-agor ei ddrysau i'r cyhoedd yn ei leoliad newydd: Amgueddfa Sain Ffagan.
Ond beth yn union am yr adeilad hwn sy'n ei wneud yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd amgueddfa awyr-agored hynaf Cymru? Gellir dod o hyd i'r ateb y tu mewn...
Mae'r eglwys wedi'i addurno fel y byddai wedi ymddangos ar ddiwedd yr oesoedd canol, yn fuan cyn y Diwygiad Protestannaidd. Ond o'r holl fanylion sydd wedi'u hail-greu, y rhai mwyaf trawiadol yw'r murluniau.
Mae'r delweddau Beiblaidd yn cynnwys Arch Noa a Dydd y Farn, ond cylchred y Dioddefaint a'r digwyddiadau olynol yw'r ddelweddaeth amlycaf.
Mae'r cyfnod yma ym mywyd Crist wedi ei gosod bron fel stribed comic dros furiau'r eil ddeheuol a chorff yr eglwys, gan ddechrau gyda thaith Iesu i Gaersalem, a gorffen gyda'r Esgyniad.
Cafodd y murluniau yma eu hail-greu dan arweiniad y cadwraethwr Tom Organ gan ddefnyddio technegau a deunydd addas. Paentiwyd gyda phigmentau cyffredin y canoloesoedd - ocrau coch, melyn, brown a phorffor, calch a siarcol - a defnyddiwyd y dechneg secco, sef paentio ar wyngalch sych, yn hytrach na fresco, h.y. paentio ar wyngalch gwlyb.
Mae rhai o'r delweddau, gan gynnwys Gwawdio'r Iesu ar wal ogleddol corff yr eglwys, wedi eu seilio ar y rhai gwreiddiol gafodd eu darganfod cyn i'r adeilad cael ei ail-leoli, tra bod y gweddill wedi'u hysbrydoli gan amryw furluniau canoloesol sydd wedi goroesi yma yng Nghymru.
Lleoliadau arwyddocaol
Wrth groesi trothwy Eglwys Sant Teilo, y murlun cyntaf i dynnu'ch sylw yw'r ddelwedd o Sant Cristoffer gydag Iesu Grist fel plentyn ar ei ysgwydd. Mae ei leoliad, gyferbyn â'r drws deheuol, yn bwysig oherwydd cred Cristnogion canoloesol y byddai cipolwg o'r sant yn ddigon i atal marwolaeth sydyn.
Yn anffodus, dim ond darn bach o'r paentiad gwreiddiol a achubwyd o'r adeilad, ond mae'r ail-gread wedi ei seilio ar gyfuniad o'r ddau furlun yn Eglwys Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg ac Eglwys Llanynys yn Sir Ddinbych.
Murlun arall sydd wedi ei leoli'n bwrpasol yw Dydd y Farn, uwchben arch y gangell i wynebu'r cynulliad. Pwrpas y paentiad yma - sy'n dangos Crist yn barnu holl ddynoliaeth wrth eistedd ar enfys, gyda Chaersalem Nefol i'r gogledd a cheg uffern i'r de - oedd rhybuddio addolwyr rhag pechu.
Gellir gweld enghraifft sy'n dyddio i'r 16eg ganrif gynnar yn Eglwys San Silyn, Wrecsam. Penliniai'r Forwyn Fair a Sant Ioan y Bedyddiwr naill ochr i Crist tra codai eneidiau'r meirw o'u beddau islaw yn barod i'w barnu.
Y Dioddefaint
Er nad oes dilyniant cyflawn o'r Dioddefaint wedi goroesi yng Nghymru, mae gennym ddisgrifiad o'r murlun gafodd ei ddinistrio pan foddwyd hen Eglwys Llanwddyn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Roedd y paentiad yma yn mesur 29 troedfedd o hyd a chwe throedfedd o uchder, ac wedi ei osod mewn dwy res fel stribed comic, gydag un digwyddiad ym mhob blwch.
Roedd y delweddau yn cynnwys y Swper Olaf, y Dioddefaint yng Ngardd Gethsemane, a Crist yn dwyn y Groes.
Heddiw, gellir gweld dau giplun o gylchred y Dioddefaint yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Mae olion diflanedig y Croeshoeliad a delwedd bosib o'r Dioddefaint yng Ngardd Gethsemane yn glynu wrth furiau'r gilfach beddrod ym mhulpitwm yr Esgob Henry Gower.
Rhybuddio'r addolwyr anllythrennog
Un ddamcaniaeth ynglŷn â phwrpas murluniau canoloesol yw defnydd delweddau Beiblaidd yn eglwysi'r cyfnod i ddysgu addolwyr anllythrennog am straeon y Beibl a gwersi'r Eglwys Gatholig. Roedd delweddau moesol, felly, yr un mor gyffredin â phaentiadau o'r Testament Newydd.
Gyferbyn â Dydd y Farn yn Eglwys Sant Teilo, gwelwn furlun rhybuddiol arall.
Mae Pwyso'r Enaid yn dangos yr Archangel Mihangel yn dal clorian, gyda'r Forwyn Fair ar un ochr yn pwyso'r glorian o blaid yr enaid, a chythraul bach yn ceisio'i bwyso ar yr ochr arall. Mae yna ddelwedd posib o Bwyso'r Enaid wedi goroesi yn Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr, Drenewydd y Notais, Porthcawl, ond yr Archangel Mihangel yn unig sydd wedi ei ddadorchuddio.
Roedd Crist y Sul yn baentiad moesol poblogaidd arall. Mae'r ail-gread yn Eglwys Sant Teilo, sy'n dangos Crist clwyfedig gydag amryw offer masnach o'i amgylch, wedi ei seilio ar enghreifftiau gwreiddiol gan gynnwys y murlun yn Eglwys Llangybi, Sir Fynwy. Pwrpas y ddelwedd yma oedd rhybuddio addolwyr rhag gweithio ar y Sabath, neu fentro clwyfo'r Iesu.
Ni chafodd murluniau Eglwys Llancarfan eu darganfod tan 2008, ond pe buasent wedi eu dadorchuddio ynghynt, mae'n debygol fyddai'r Saith Pechod Marwol a'r Saith Gweithred Trugareddol wedi eu hychwanegu i furiau Eglwys Sant Teilo.
Mae'r Saith Pechod Marwol yn enwedig, sy'n dyddio i'r 15fed ganrif, yn un o furluniau mwyaf trawiadol Cymru. Dangosai'r saith pechod - balchder, eiddigedd, llid, ariangarwch, diogi, glythineb a thrachwant - yn ymddangos o safnau cythreuliaid sarffaidd.
Yn sicr fyddai'r ddelweddaeth frawychus yma wedi atal addolwyr canoloesol rhag pechu!
Lluniau gan Steffani Wyn Davies a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC)