Cwpan Her Ewrop: Scarlets 32-30 Clermont Auvergne
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol Cwpan Her Ewrop yn dilyn noson ddramatig yn Llanelli.
Aeth tîm Dwayne Peel ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i geisiau gan Halfpenny, Costelow a Johnny Williams
Ond roedd Clermont, er colli'r canolwr Irae Simone wedi iddo dderbyn cerdyn coch wedi 24 munud, yn edrych yn barod i hawlio lle yn rownd gynderfynol wrth iddynt ddod yn ôl o 15-3 i lawr i arwain 30-22.
Gwrthododd y Scarlets ag ildio, serch hynny, a chipiwyd y fuddugoliaeth pan groesodd Ryan Conbeer gyda phum munud yn weddill cyn cic lwyddiannus Sam Costelow o'r llinell ystlys.
Hon oedd 11eg buddugoliaeth y Scarlets mewn 13 gêm wrth iddynt guro Clermont am y tro cyntaf mewn wyth ymgais.
Bydd y Scarlets nawr yn croesawu naill ai Glasgow neu'r Lions yn y rownd gynderfynol.