Cyngor Ceredigion yn codi pris angori cwch 30%
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Ceredigion wedi cythruddo pobl leol wrth godi pris angori cwch dros 30%.
Mae perchnogion y cychod yn poeni na fydd pobl leol yn gallu fforddio hwylio bellach.
Yn ôl y cynghorydd lleol, Elizabeth Evans, fe allai'r gostyngiad yn nifer y cychod yn yr harbwr effeithio ar dwristiaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn "cael eu heffeithio gan sefyllfa chwyddiant" a bod angen iddyn nhw "adennill costau trwy godi rhai ffioedd".
Mae Simon Raw Rees wedi hwylio o harbwr Aberaeron gydol ei oes ac mae penderfyniad y cyngor wedi ei siomi'n fawr.
"Maen nhw'n siŵr o fod yn meddwl - 'gewn ni weld faint gallwn nhw gwasgu mas ohonom ni'," dywedodd.
"Mae treth y sir wedi codi rhyw 7.3% o llynedd. Ac oedden ni i gyd yn meddwl bydde' prisiau'r cychod yn mynd lan rhywbeth yn debyg."
Llynedd roedd hi'n costio £51 fesul metr o hyd i gadw cwch yn harbwr Aberaeron ac harbwr Cei Newydd yn ystod yr haf.
Eleni, fe fydd yn £66.50, sy'n gynnydd o 30.4%.
Yn ôl Mr Rees, mae'r diffyg esboniad gan Gyngor Ceredigion yn rhwystredig.
"Dwi'n deall bod popeth yn codi. A dyna pam petai costau popeth yn mynd lan yn gyfartal 10% neu 15%, bydde' hynny'n deg."
Dywedodd Mr Rees fod hwylio yn rhan annatod o ddiwylliant yr ardal.
"Rwy'n cofio mynd mas i'r môr fel crwt bach. Dylen ni gael cyfle i gario 'mlaen i fwynhau'r môr fel 'di ni wedi gwneud dros y degawdau."
Yn ôl Nigel Davies sydd yn byw ger harbwr Aberaeron, dyw perchnogion ddim yn cael y cyfleusterau gan y cyngor sy'n cyfateb â'r pris.
"Y clwb [Clwb Hwylio Aberaeron] sy'n rhoi'r dŵr i lanhau'r cychod ar ddiwedd y tymor. Trydan i ddefnyddio'r peirannau i lanhau'r cychod.
"Ond mae'r cyngor eu hunen yn gwneud dim."
'Dim ond pobl gyfoethog fydd yn gallu hwylio'
Fe gafodd cyfarfod ei gynnal i berchnogion cychod Aberaeron a Chei Newydd yng Nghlwb Hwylio Aberaeron yr wythnos ddiwethaf.
Roedd tua 40 o hwylwyr yn bresennol i drafod y camau nesaf.
Yno roedd Chris Seal, Cadeirydd Clwb Hwylio Cei Newydd.
"Fydd y pris maen nhw wedi cynnig yn golygu mai ni fydd yr harbwr drutaf ar hyd y bae yma, os nad de Cymru," dywedodd.
"Pam ddylen ni orfod talu'r mwyaf am y lleiaf?
"Dyw hwylio ddim yn chwaraeon elitaidd, ond mae'r ffordd y mae'r cyngor yn codi prisiau yn golygu dim ond y bobl gyfoethog fydd yn gallu fforddio i hwylio.
Hefyd yn bresennol roedd y Cynghorydd dros Aberaeron, Elizabeth Evans.
"Yr unig reswm mae Aberaeron yma fel tref yw'r harbwr," meddai.
"Yn enwedig gyda thwristiaeth ma' fe'n hynod o bwysig i ni. Sa'i mo'yn gweld unrhyw gwch yn symud o'r harbwr yma."
'Angen i'r Cyngor adennill costau'
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion eu bod nhw, "fel pawb arall, yn cael eu heffeithio gan sefyllfa chwyddiant".
"Mae angen ystyried dulliau eraill o liniaru'r diffyg ac mae angen i'r Cyngor adennill costau drwy godi ffioedd a thaliadau.
"Bydd y cynigion ar gyfer y rhain yn cymryd i ystyriaeth nifer o bethau, gan gynnwys cymariaethau â'r un cynnig neu gynnig tebyg yn lleol, y ffioedd a'r taliadau sylfaenol ynghyd â'r galw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2018