Banc Datblygu Cymru yn helpu mwy o fusnesau

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Aparito
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prif Weithredwraig Aparito bod buddsoddiad wedi galluogi'r busnes i gychwyn cyflogi staff

Fyddai hi ddim yn ormodiaith i ddweud bod cysylltiadau Aparito'n ymestyn i bedwar ban byd.

O'u swyddfeydd yn Wrecsam, mae'r cwmni'n ei gwneud hi'n bosib i bobl lawrlwytho ap ac yna gymryd rhan mewn treialon meddygol o'u cartrefi, heb fod angen mynd i'r ysbyty. Mae'r ap hwnnw ar gael mewn pymtheg o wahanol ieithoedd, gan gynnwys Siapaneeg a Hebraeg.

Erbyn hyn mae dros 30 o bobl yn gweithio i Aparito, cwmni gafodd fuddsoddiad gan Fanc Datblygu Cymru rai blynyddoedd yn ôl.

"Mi gaethon ni fuddsoddiant bum mlynedd yn ôl gan Fanc Cymru," meddai'r Brif Weithredwraig Elin Haf Davies wrth Newyddion S4C.

"Roedd hynny'n bwysig iawn i ni allu cychwyn cyflogi a chychwyn y swyddfa yma, a chyflogi staff technoleg yma yng Ngogledd Cymru.

"Felly dwi yn gwerthfawrogi bod ni wedi cael yr arian yna bum mlynedd yn ôl."

Ers ei sefydlu yn 2017 mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn helpu busnesau naill ai drwy gynnig benthyciadau, neu fuddsoddi yn y busnes drwy brynu cyfran ohono.

Erbyn hyn maen nhw'n dweud eu bod wedi buddsoddi £528m yn uniongyrchol mewn busnesau, a chefnogi 32,862 o swyddi.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bethan Cousins, cyfarwyddwr busnes newydd y banc, fod yr economi bresennol yn her

Cyfarwyddwr busnes newydd ym Manc Datblygu Cymru ydy Bethan Cousins.

"Ni'n gweithio gyda phob busnes, ni'n trial ffeindio rhyw fath o fuddsoddiad hyblyg iddyn nhw ac yn annog nhw i ddod i siarad gyda ni fel bod ni'n gallu gweld sut ydyn ni'n gallu helpu."

Gyda dyfalu y gall banciau masnachol fynd yn llai parod i fenthyg arian i fusnesau - â Banc Datblygu Cymru'n gweld tystiolaeth o hynny mewn rhai meysydd - fe allai mwy o gwmnïau droi atyn nhw am gymorth.

Galw am gymorth cyflymach

Eto i gyd, er bod Aparito'n gwerthfawrogi'r cymorth gawson nhw, mae Elin Haf Davies yn credu y gall Banc Cymru weithredu'n fwy cyflym.

"Yn fy marn i mae 'na ddiffyg cymorth a chyngor commercial felly ... [mae] angen gweithio'n gyflym, gweithio ar frys achos 'da ni'n gweithio efo cwmnïa' sy'n disgwyl commitment ac ateb fory a drennydd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elin Haf Davies bod angen cymorth cyflymach ar fusnesau

"O'n profiad ni 'da ni yn ei chael hi'n anodd iawn i gael y cymorth sydd ei angan ar frys a'r ddealltwriaeth o'r telerau commercial da ni'n gorfod gweithio o fewn ar y funud."

Ydy Bethan Cousins yn derbyn hynny?

"Mae pob busnes yn wahanol a dwi'n credu un o'r pethau 'yn ni wedi 'neud yn y flwyddyn ddiwetha' yw i edrych ar sut 'yn ni yn gallu cyflymu'n prosesau bod ni'n tynnu'r baich oddi wrth y cwmni a bod ni'n gwneud penderfyniadau'n gyflym.

"Roedd dros 70% o'n buddsoddiadau ni yn fuddsoddiadau bach y flwyddyn ddiwetha', ac roedd hanner nhw wedi cael ymateb o fewn 40 awr o ymgeisio i'r banc. Felly 'yn ni yn edrych ar ffurflenni, yn gallu ymateb yn gyflym pan 'yn ni'n gallu.

"Ni wastad yn trio gwneud rhywbeth mor gyflym â ni'n gallu. Ond gan fod yr economi'n sialens ac yn her ar hyn o bryd mae'n rili bwysig bod ni'n deall beth yn gwmws sydd yn mynd ymlaen o fewn y cwmni fel bod ni'n buddsoddi yn gyfrifol."

Mae Banc Datblygu Cymru'n dweud bod dros bum cant o gwmnïau wedi cael cymorth yn ystod y flwyddyn ariannol sydd ar fin dod i ben.

Pynciau cysylltiedig