Wrecsam yn croesawu pencadlys Banc Datblygu Cymru

  • Cyhoeddwyd
Banc CymruFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cartre'r banc ym Mharc Technoleg Wrecsam.

Mae Banc Datblygu Cymru wedi arwyddo'r brydles ar ei bencadlys newydd yn Wrecsam.

Bydd y banc datblygu, gafodd ei ffurfio ym mis Hydref, yn ymsefydlu yn yr hen swyddfeydd Moneypenny ym Mharc Technoleg Wrecsam.

Mae'r banc newydd yn disodli Cyllid Cymru, corff oedd yn gyfrifol am fuddsoddi ar ran Llywodraeth Cymru.

Gobaith gweinidogion yw y bydd Banc Datblygu Cymru, fydd â'r gallu i fuddsoddi dros £440m, yn rhoi help llaw i fusnesau newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: "Rwy'n falch iawn bod y brydles bellach wedi cael ei harwyddo ar gyfer pencadlys y Banc Datblygu a fydd yn darparu 50 o swyddi o safon yma yn Wrecsam.

"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd newydd yn cynnwys canolbwyntio o ddifri ar gryfhau ein heconomïau rhanbarthol a sicrhau bod y buddion wrth i ni ffynnu yn cael ei rannu'n fwy cyfartal ar hyd a lled Cymru, ac mae symud y Banc Datblygu i Wrecsam yn enghraifft wych o'r ffordd yr ydym yn gweithio i gyflawni hyn."

Roedd Cyllid Cymru yn cyflogi 120 o bobl yng Nghaerdydd.

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau o £1,000 hyd at £5 miliwn yn ogystal â buddsoddiadau ecwiti hyd at £5 miliwn ar gyfer cwmnïau neu fusnesau yng Nghymru sy'n bwriadu symud yma.