Cyhuddo cwmni o barhau i gloddio glo heb ganiatâd
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol yn ystyried dwyn achos llys yn ymwneud â chloddio ar safle glo-brig (open cast mining) mwyaf y DU, fisoedd wedi i'r caniatâd cynllunio ddod i ben.
Roedd palu am lo yn Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful i fod i orffen fis Medi y llynedd, wedi 15 mlynedd.
Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am y safle, Merthyr (South Wales) Ltd, wedi ymgeisio am estyniad ac yn disgwyl penderfyniad ar y mater.
Dywedodd y cwmni y byddai'n "amhriodol gwneud sylw ar yr adeg hon".
'Testun sbort'
Mae grŵp ymgyrchu Coal Action Network yn dweud ei bod hi'n "afresymol" nad yw'r cyngor lleol na Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd.
Roedd y caniatâd gwreiddiol, a roddwyd yn 2007, yn dod i ben ar 6 Medi 2022.
Honnodd Daniel Therkelsen, o Coal Action Network, fod y lofa wedi caniatáu estyniad iddo'i hun am yr wyth mis diwethaf, heb unrhyw fath o oruchwyliaeth.
Mae ystadegau Awdurdod Glo'r DU yn dangos i dros 100,000 o dunelli o lo gael eu palu yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae trigolion lleol ac ymgyrchwyr wedi cysylltu â'r cyngor gyda lluniau ac adroddiadau o gloddio honedig dro ar ôl tro, meddai.
"Os yw cais y cwmni am estyniad yn aflwyddiannus yna dyw'r glo yna ddim yn mynd yn ôl i mewn i'r twll - mae wedi mynd, wedi'i werthu," meddai Mr Therkelsen.
"Gallwn ni ddim fforddio hyn yng nghanol yr argyfwng newid hinsawdd a mae'n troi'r ymrwymiadau amgylcheddol gan Lywodraeth Cymru yn destun sbort."
Mae disgwyl i gais y cwmni am estyniad naw mis o hyd gael ei drafod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yn ddiweddarach yn y mis.
Yr wythnos hon fe wnaeth y cwmni addasu eu cais, gan ddweud eu bod yn gofyn bellach am ganiatâd i barhau i gloddio tan 31 Mawrth 2024.
Wedi hynny fe fyddai "cynhyrchu glo yn Ffos-y-Fran yn dod i ben yn llwyr", yn ôl llythyr a anfonwyd gan y cyngor i bobl â diddordeb yn y cais.
Roedd cynlluniau ar gyfer tair blynedd pellach o gloddio wedi eu hawgrymu ar un adeg.
'Pwysigrwydd cenedlaethol'
Mae polisi glo Llywodraeth Cymru yn atal datblygiad glofeydd newydd ac i fod i wrthod estyniadau i rai sy'n bodoli'n barod, oni bai bod "amgylchiadau cwbl eithriadol".
Mae Merthyr (South Wales) Ltd wedi dadlau eu bod yn gymwys oherwydd eu rôl "o bwysigrwydd cenedlaethol" yn darparu ffynhonnell o lo lleol i weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot.
Ond mae'r cwmni hefyd wedi cydnabod bod "cyllid annigonol" wedi'i roi i'r naill ochr er mwyn adfer y lofa yn ôl i weundir, gwyrdd agored er lles y gymuned leol, fel a gytunwyd yn wreiddiol.
Maen nhw wedi dweud bod angen amser arnyn nhw i roi cynllun adfer diwygiedig yn ei le.
Mewn datganiad, dywedodd cyngor sir Merthyr: "Ers i'r cais cynllunio ddod i law ar 1 Medi 2022 i ymestyn bywyd y safle glo brig presennol, mae wedi dod i sylw'r cyngor bod cynhyrchu glo wedi parhau yn Ffos-y-Fran heb ganiatâd cynllunio".
Fe ychwanegodd llefarydd ar eu rhan mai penderfynu ar y cais am estyniad oedd "blaenoriaeth y cyngor".
"Bydd unrhyw faterion yn ymweud â gorfodaeth" yn cael hystyried yn sgil penderfyniad y pwyllgor cynllunio ar 26 Ebrill, meddai.
Gwrthod neu gefnogi?
Y dewis sy'n wynebu cynghorwyr yw naill ai gwrthod y cynlluniau neu ddweud y bydden nhw'n hoffi eu cymeradwyo nhw.
Ond yn yr achos hynny byddai'n rhaid cyfeirio'r mater at Lywodraeth Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod wedi rhoi cyfarwyddwyd i'r cyngor sy'n eu hatal rhag rhoi caniatâd i'r cais oni bai bod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cytuno.
Wrth gyfeirio at y cyhuddiadau bod glo yn dal i gael ei gynhyrchu ar y safle, dywedodd y llefarydd bod gan "awdurdodau cynllunio lleol rymoedd i ymchwilio honiadau o ddatblygiadau sydd heb eu cymeradwyo".
"Nhw sydd, yn yr achos gyntaf, yn gyfrifol am ystyried gweithredu i orfodi'r amodau."
Dywedodd Merthyr (South Wales) Ltd eu bod yn ystyried hi'n "amhriodol gwneud sylw ar yr adeg hon" gan eu bod wedi derbyn cadarnhad bod yr ymgyrchwyr yn gweithio gyda chyfreithwyr ac yn ystyried dwyn achos llys.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd3 Mai 2016
- Cyhoeddwyd2 Mai 2016