10 aderyn mwya' cyffredin yr ardd 2023
- Cyhoeddwyd
Pa adar yw'r rhai mwyaf cyffredin yn ein gerddi yng Nghymru? Dyna mae arolwg blynyddol Gwylio Adar yr Ardd, gan elusen gwarchod adar RSPB, yn ceisio ei ateb drwy ofyn i wirfoddolwyr gofnodi pa adar maen nhw'n eu gweld o'u cwmpas.
Roedd yn digwydd eleni ar Ionawr 27-29 gyda dros 26,000 o bobl yng Nghymru yn cymryd rhan gan gyfrif bron i hanner miliwn o adar.
Does dim newid wedi bod o ran y tri aderyn ar frig yr arolwg yng Nghymru ond yn ôl RSPB mae'r gostyngiad yn nifer yr adar ers dechrau'r arolwg yn "ddychrynllyd" ac maen nhw'n galw am weithredu.
Daw hyn ar ôl i adroddiad ddweud bod chwarter adar Cymru 'mewn trafferthion difrifol'.
Yn 2023, dyma'r 10 aderyn oedd ar dop rhestr arolwg Gwylio Adar yr Ardd yng Nghymru.
1. Aderyn y to
Er gwaethaf y dirywiad enfawr yn y tymor hir, mae arolwg Gwylio Adar yr Ardd 2023 yn dangos bod adar y to wedi bod ar y brig ers 20 mlynedd yn olynol, gyda'r niferoedd yn 2023 yn eithaf tebyg i'r llynedd (cynnydd o 0.7%).
Ond er iddyn nhw gael eu gweld mewn bron i 80% o erddi'r bobl a gymerodd ran yng Nghymru dros benwythnos yr arolwg, yn anffodus mae niferoedd adar y to wedi dirywio'n ddifrifol. Mewn gwirionedd, mae'r nifer sy'n cael eu gweld mewn gerddi drwy'r DU wedi gostwng bron i 60% ers i'r arolwg ddechrau, ac mae bron i 22 miliwn o adar y to wedi diflannu o'r DU ers 1966 meddai'r RSPB.
2. Drudwen
Dyma'r aderyn ddaeth yn ffrind i Branwen yn y Mabinogi a chario'i neges dros y môr o Iwerddon at ei brawd Bendigeidfran yng Nghymru ac mae'n dal i fod yn ymwelydd cyfarwydd â'n silffoedd ffenestr neu'n gerddi ni heddiw.
Does dim newid ers y llynedd i'r ddrudwen, sydd yn dal yn yr ail safle, er fod y niferoedd welwyd yn yr arolwg wedi gostwng -3.4% mewn blwyddyn.
3. Titw Tomos las
Un o'n adar cynhenid mwyaf annwyl, y titw Tomos las yn dal gafael ar y drydedd safle yn yr arolwg, gyda gostyngiad o -1.7% mewn niferoedd.
4. Aderyn du
Mae'r aderyn du big felen - neu'r fwyalchen - yn ymwelydd cyson i erddi a'i gysylltiad agos ni dros y canrifoedd yn cael ei ddangos yn y ffaith ei fod wedi bod yn destun i fwy nag un o'n caneuon gwerin; mae yn y bedwaredd safle unwaith eto, a'i nifer wedi gostwng o -1% mewn blwyddyn.
5. Robin goch
Nid aderyn i'r 'Dolig yn unig ydy'r Robin goch, mae'r ffefryn bach yma'n byw yng Nghymru drwy'r flwyddyn, fel y rhan fwyaf o adar yr ardd, ond yn dueddol o fentro allan mwy yn y gaeaf i chwilio am gymar yn ogystal â bwyd.
Roedd ei niferoedd yn arolwg 2023 wedi codi o'r seithfed i'r bumed safle gyda chynnydd o 3.6%.
6. Ji-binc
Mae'r Ji-binc - asgell fraith i rai - wedi cadw ei chweched safle gyda gostyngiad bach o -1.5% ers 2022.
Mae'r Ji-binc, fel y Llinos werdd (rhif 19) wedi ei heffeithio gan glefyd o'r enw tricomonosis. O ganlyniad, mae poblogaeth y Ji-binc yn y DU gyfan wedi gostwng 34% dros y degawd diwethaf, a phoblogaeth y Llinos werdd wedi gostwng 65% dros yr un cyfnod gan ei rhoi ar restr goch yr Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru am y tro cyntaf yn 2022.
Gall tricomonosis gael ei ledaenu gan fwyd a dŵr yfed sy'n fudr neu wedi eu heintio felly mae'r elusen yn annog pobl i gadw teclynnau bwydo, byrddau adar a baddonau adar yn lân.
7. Nico
'Nico annwyl ei di drostai. Ar neges bach i Gymru lan?' ganodd Cynan yn ei gerdd Anfon y Nico.
Anfon y Nico o Roeg yn ystod y rhyfel roedd Cynan ond fe fyddai wedi bod yn gyfarwydd iawn â'r aderyn bach nôl yng Nghymru hefyd. Mae'n dal yn aderyn cyfarwydd yma ac wedi codi o rif wyth i rif saith yn yr arolwg gyda chynnydd bach o 1.3% ers 2022.
8. Titw mawr
Fel ei berthynas llai, y titw Tomos las, roedd yna ostyngiad yn y cofnod o'r titw mawr o -3.4% sy'n golygu ei fod yn syrthio o rif pump i rif wyth o ran nifer.
9. Titw cynffon hir
Cododd y titw cynffon hir dri safle eleni yng Nghymru, gyda'r niferoedd 26% yn uwch nag oedden nhw yn 2022. Mae'r titw cynffon hir yn sensitif i dywydd garw ac mae'r niferoedd sydd wedi eu cofnodi wedi amrywio ers dechrau Gwylio Adar yr Ardd, sy'n dangos pa mor fregus ydy rhai o'r adar llai yn ein gerddi.
Mae titw cynffon hir wedi cymryd safle'r bioden yn y 10 uchaf, sydd wedi syrthio i rif 12.
10. Jac-y-do
Mae Jac-y-do, ffrind Sali Mali, wedi aros yn sefydlog gyda chynnydd bychan o 1.9% ers y niferoedd gofnododd yr arolwg yng Nghymru yn 2022. Mae'n perthyn i deulu'r frân ac yn aderyn clyfar a chymdeithasol.
Mae Jac-y-do wedi cymryd lle'r ysguthan, sydd wedi syrthio allan o'r deg uchaf i rif 11.
I ble'r aeth y fronfraith?
Mae'r fronfraith yn enghraifft o aderyn sy'n dangos newid mawr yn y cofnodion am yr adar sy'n byw yng Nghymru. Nôl yn 1979 roedd y fronfraith yn gyfforddus yn y 10 uchaf ond erbyn 2009 roedd ei niferoedd yn llai na hanner yr hyn a gofnodwyd 44 mlynedd yn ôl.
Erbyn heddiw dydi hi heb lwyddo i gyrraedd yr 20 uchaf yn 2023 yng Nghymru, heb sôn am y 10 uchaf. Roedd hi yn rhif 20 ar gyfer ffigyrau'r arolwg i'r DU gyfan ond 21 yng Nghymru.
Y digwyddiad gwylio adar yma oedd y cyntaf i dynnu sylw'r RSPB at y gostyngiad yn niferoedd y Fronfraith, sydd bellach 80% yn is nag oedden nhw yn y digwyddiad Gwylio Adar yr Ardd yn 1979 drwy'r DU.
Dywedodd Prif Weithredwr yr RSPB, Beccy Speight: "Er ein bod yn dathlu bod Aderyn y To wedi aros ar y brig, mae'r niferoedd yn siarad drostynt eu hunain o ran dirywiad syfrdanol rhai o'n hadar a fu unwaith yn rhai cyffredin.
"Dydyn nhw ddim yn doreithiog ledled y DU fel roedden nhw'n arfer bod. Rydyn ni mewn argyfwng hinsawdd a byd natur, ac rydyn ni wedi colli 38 miliwn o adar o'n hawyr yn ystod y 50 mlynedd diwethaf."
Hefyd o ddiddordeb: