Chwarter rhywogaethau adar Cymru 'mewn trafferthion difrifol'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwil yn dangos bod un ymhob pedwar o'r adar sydd i'w canfod yng Nghymru mewn perygl - fwy nag erioed o'r blaen - ac mae angen gweithredu "ar frys".
Mae'r rhestrau diweddaraf o Adar o Bryder Cadwraethol yng Nghymru yn rhoi 60 rhywogaeth ar y Rhestr Goch, sydd wedi dyblu dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher, mae'r asesiad yn edrych ar statws pob un o'r 220 rhywogaeth o adar sydd i'w gweld yn rheolaidd yng Nghymru.
Mae'r Rhestr Goch newydd yn cynnwys adar cyfarwydd fel y Wennol Ddu, Llinos Werdd a'r Ydfran, sydd wedi cael eu hychwanegu am y tro cyntaf.
Mae'r adroddiad yn gosod 60 rhywogaeth ar y Rhestr Goch, 91 ar y Rhestr Ambr a 69 ar y Rhestr Werdd.
Mae'r Rhestr Goch bellach yn cyfrif am fwy na chwarter (27%) o rywogaethau Cymru, y ganran uchaf erioed.
Mae'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar ran RSPB Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru (CFC), Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) a Chymdeithas Adareg Cymru (WOS).
Bydd dros 10,000 o wyddonwyr, swyddogion llywodraeth ac ymgyrchwyr yn dod at ei gilydd ym Montreal yng Nghanada yr wythnos hon ar gyfer cynhadledd bioamrywiaeth bwysica'r byd, Cop15.
Ond yn ôl Deio Gruffydd, o RSPB Cymru, fydd atebion rhyngwladol ond yn gweithio os oes 'na newid yn nes at adref.
"Mi ddylsa hyn fod yn wake up call i ni fel cymdeithas. Hefyd mae'n dangos bod Llywodraeth Cymru angen gweithredu ar frys er mwyn newid y trend.
"Mae angen canolbwyntio ar dri pheth. Yn gynta' mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar ddod â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i rym achos mae lot o'n adar ni'n byw ar dir amaethyddol.
"Yn ail mae angen i safleoedd gwarchodedig i fywyd gwyllt - fel SSSIs a'r parciau cenedlaethol - gael eu rheoli'n effeithiol i fywyd gwyllt.
"Ac yn drydydd mae angen mynd i ddelio 'efo ac addasu i effeithiau newid hinsawdd."
Dau rywogaeth wedi diflannu'n llwyr
Yn ôl Mr Gruffydd, mae'n sefyllfa "argyfyngus".
"Ers i'r rhestr gynta' gael ei chyhoeddi yn 2002 mae'r rhestr goch wedi dyblu," meddai.
"Mae hyn yn mynd i fod yn dueddiad fyddwn ni'n weld bod un blwyddyn os nad ydan ni'n gweithredu rŵan."
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "gweithio ar frys i sicrhau bod 30% o dir, môr a dŵr glân Cymru'n cael ei ddefnyddio ar gyfer natur yn unig erbyn 2030 i helpu arafu dirywiad bioamrywiaeth yng Nghymru".
Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi treblu ein targedau i adfer cynefinoedd gwerthfawr ar gyfer ein hadar a'n bywyd gwyllt, ac yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar brosiectau i helpu rhywogaethau sydd mewn perygl difrifol.
"Fel rhan o'n Cynllun Ffermio Cynaliadwy rydym yn gofyn i ffermwyr ddarparu o leiaf 10% o dir coed a defnyddio o leiaf 10% o'u tir i hybu cynefinoedd lled-naturiol."
Newid hinsawdd a newid cynefinoedd
Ers yr asesiad blaenorol yn 2016, mae Bras yr Ŷd a Rhegen yr Ŷd wedi diflannu'n llwyr fel adar sy'n magu yng Nghymru. Mae nifer o rywogaethau wedi neidio'n syth o Wyrdd i Goch.
Mae'r gostyngiad cyflym yn nifer yr Ydfrain sy'n magu a'r Pibyddion Du sy'n gaeafu yng Nghymru, a'r dirywiad yn statws byd-eang Pedryn Cynffon-fforchog, yn golygu eu bod wedi neidio o'r Gwyrdd i'r Coch ers asesiad 2016.
Pryder arall ydy gosod Gwenoliaid ar y Rhestr Goch a Gwenoliaid y Bondo ar y Rhestr Ambr am y tro cyntaf.
Gallai hyn adlewyrchu'r cynefinoedd nythu a'r bwyd sydd ar gael ar gyfer y rhywogaethau, fel pryfed sy'n hedfan neu'r amodau yn ardaloedd gaeafu'r adar mudol hyn.
Tra bod newid hinsawdd ac amrywiaethau mewn cynefinoedd a bwyd yn rhai o'r prif ffactorau wrth i boblogaethau ostwng, mae afiechydon hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol.
Mae'r Llinos Werdd, aderyn gardd cyfarwydd ar un adeg, wedi symud o Ambr i Goch ar ôl cwymp yn y boblogaeth (71% yng Nghymru ers 1995), a gafodd ei achosi gan achos difrifol o'r clefyd Trichomonosis.
Y gred ydy bod yr haint hwn, sy'n cael ei gario gan barasitiaid, hefyd yn gyfrifol am ddirywiad parhaus y Ji-binc, sydd wedi cael ei symud i'r Rhestr Ambr.
Mae dyfodol llawer o adar yr ucheldir, y glaswelltir ac adar hirgoes fel y Gylfinir, y Pibydd Coesgoch a'r Gornchwiglen yn dal i fod yn destun pryder mawr.
Mae gwaith a gomisiynwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn awgrymu y gallai'r Gylfinir sy'n magu fod ar fin diflannu'n llwyr yng Nghymru yn y ddegawd nesaf heb ymyrraeth.
Mae'n golygu mai dyma'r aderyn sydd â'r flaenoriaeth bwysicaf o ran cadwraeth adar yng Nghymru.
'Yr awyr yn dawel'
Mae Patrick Linley, Uwch Adaregwr gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, yn dweud bod "natur ein hangen fwy nag erioed" a bod "adar yn ffordd dda o asesu ein amgylchedd naturiol".
"Mae ein awyr ni'n mynd yn dawel", rhybuddiodd. "Pan 'dach chi'n meddwl am nifer y gylfinirod bridio yng Nghymru, 'dan ni wedi colli bron i 70% dros yr 20 neu 30 mlynedd diwetha'.
"Petai chi'n mynd 'nol 20 neu 30 mlynedd, am bob 10 gylfinir fyddech chi wedi clywed yn yr awyr, mae'n siŵr mai ond rhyw dri fyddwch chi'n clywed heddiw. Mae hynny'n wir am wenoliaid bridio hefyd."
Ond mae'n ychwanegu nad ydy'r darlun yn ddu i gyd a bod yna "wir obaith" hefyd.
"Roedd barcutiaid coch ar fin diflannu'n llwyr yn y 1980au," esboniodd. "Nawr maen nhw wedi cael adferiad mawr drwy ymdrech gydweithio anferth ac mae 'na tua 2,500 o barau bridio yng Nghymru."
Mae arbenigwyr yn dweud fod asesiadau fel hyn yn dangos pwysigrwydd monitro parhaus a rôl gwirfoddolwyr yn casglu gwybodaeth.
Dywedodd Kelvin Jones, Swyddog Datblygu'r BTO yng Nghymru: "Mae'n rhaid ni sbio dros y tymor hir ar bethau ac mae'r ffaith bod y gwirfoddolwyr yn mynd allan yn y gwanwyn i wneud y breeding bird survey - dau ymweliad ar hwnnw - ac yn y gaeaf mae'r wetland bird survey, lle maen nhw allan unwaith y mis yn cyfri'.
Byddai Mr Jones yn dymuno gweld mwy o bobl yn gwirfoddoli ac yn cymryd rhan yn y ddau arolwg.
"Dydyn nhw'm yn cymryd llawer o amser," meddai. "Dau ymweliad yn y gwanwyn, 'chydig o oriau, ac un dydd Sul y mis drwy'r gaeaf.
"Mae o'n hawdd i'w wneud. Os 'dach chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fyd natur, dyma'r ffordd hawsa' i wneud."
Mae Dan Rouse yn addysgwr bywyd gwyllt gyda chwmni Tadorna, yng Ngardd Fotaneg Cymru.
Gydag afiechydon a bacteria yn chwarae rhan fawr yng ngostyngiad rhai amrywiaethau, mae hi'n dweud y gall pawb chwarae rhan i daclo hyn.
"Mae llawer o bobl 'efo blychau adar yn y gerddi, neu lefydd bwyd i adar. Y broblem ydy'n bod ni'n mynd ychydig yn lazy gyda nhw.
"Ni ddim yn glanhau nhw, ni ddim yn symud nhw rownd y gerddi, ni ddim yn rhoi'r bwyd cywir mas. Beth ni'n gallu gwneud yw cymryd responsibility am beth ry'n ni'n rhoi mas i'r adar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022