Sylwadau caethwasiaeth: Ceidwadwyr yn gwahardd cynghorydd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd yn Sir Benfro sydd wedi'i gyhuddo o ddweud y dylai pobl wyn gael caethweision du wedi cael ei wahardd o'r Blaid Geidwadol.
Roedd gwleidyddion eraill wedi adnabod llais Andrew Edwards ar recordiad o rywun yn gwneud sylwadau hiliol.
Dywedodd Mr Edwards na all wneud sylw ar yr achos am ei fod wedi cael ei gyfeirio at yr ombwdsmon.
Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn edrych i'r honiadau, a dywedodd llefarydd fod Mr Edwards wedi cael ei wahardd fel aelod wrth i'r blaid ymchwilio.
Sylwadau 'gwarthus a ffiaidd'
Ar y recordiad 16 eiliad, gafodd ei gyhoeddi gan wefan newyddion Nation.Cymru, dolen allanol, mae'r siaradwr i'w glywed yn dweud: "Dwi'n meddwl y dylai pob dyn gwyn gael dyn du fel caethwas neu fenyw ddu fel caethwas.
"Does dim byd o'i le ar liw croen, dim ond eu bod nhw'n ddosbarth is na ni bobl wyn, chi'n gwybod."
Dydy hi ddim yn glir pryd na ble gafodd y clip ei recordio.
Ni wnaeth Mr Edwards, sy'n cynrychioli ward Prendergast Hwlffordd ar Gyngor Sir Penfro, gadarnhau i BBC Cymru ai ei lais oedd yn y recordiad.
Mewn datganiad dywedodd: "Rwy'n ymwybodol o honiadau difrifol iawn sy'n cael eu gwneud yn fy erbyn.
"Dyma pam rydw i wedi cyfeirio fy hun at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am werthusiad annibynnol.
"Mae bellach yn nwylo arbenigwyr cyfreithiol a'r Ombwdsmon. Byddai'n annheg ar y broses i mi wneud sylw nawr."
Dywedodd Cyngor Sir Penfro, sy'n cael ei redeg gan gynghorwyr annibynnol, hefyd wedi cyfeirio'r achos at yr ombwdsmon.
Fe wnaeth Mr Edwards adael grŵp y Ceidwadwyr ar y cyngor wedi i'r honiadau gael ei wneud yn erbyn yn gynharach yn yr wythnos.
Cafodd y sylwadau eu beirniadu gan lawer, gan gynnwys arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
"Mae'r safbwyntiau gafodd eu mynegi yn y recordiad yn warthus a ffiaidd, a dydyn nhw ddim yn cael eu rhannu gan y Ceidwadwyr Cymreig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2023