Cyn-gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, Syr Eric Howells, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, Syr Eric Howells, wedi marw yn 89 oed.
Roedd Syr Eric, oedd yn byw ger Arberth yn Sir Benfro, yn gadeirydd rhwng 1990-95 ac yna'n llywydd rhwng 1996-99.
Yn ffermwr a thirfeddiannwr, roedd hefyd yn gyn-gadeirydd Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) yn Sir Benfro.
Roedd yn un o'r cyfarwyddwyr wnaeth sefydlu cwmni Llaeth Cymreig yn y de-orllewin yn 2000.
Yn 2007, fe gafodd Syr Eric ei ddiarddel o'r Blaid Geidwadol am feirniadu'r dewis o ymgeisydd Ceidwadol mewn etholiad Cynulliad yn ystod cyfweliad teledu.
Roedd yn ddarlledwr cyson ar radio a theledu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac fe ymgyrchodd yn erbyn mwy o ddatganoli i Gymru cyn y refferendwm yn 2011.
Mewn teyrnged iddo dywedodd AS Ceidwadol Preseli Penfro, Stephen Crabb ei fod yn drist i glywed am farwolaeth rhywun oedd yn "gymeriad adnabyddus yn Sir Benfro".
"Roedd Syr Eric yn ddyn dewr gydag egwyddorion cryf, oedd byth yn osgoi siarad allan dros beth yr oedd yn ei gredu," meddai.
"Bydd colled fawr ar ei ôl, ac mae fy meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg hon."
Bu farw Syr Eric yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd nos Fercher yn dilyn salwch byr.