Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Caeredin 45-21 Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Darcy GrahamFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caeredin wedi disodli'r Gweilch o'r 12fed safle yn y tabl

Sgoriodd Caeredin saith cais yn erbyn y Gweilch nos Sadwrn i roi cweir i'r tîm o Gymru.

Fe wnaeth Ben Vellacott, Dave Cherry, Sam Skinner, Emilano Boffelli a Hamish Watson oll sgorio i'r Albanwyr cyn yr egwyl, gyda Dewi Lake yn ymateb gydag un cais i'r ymwelwyr.

Sgoriodd Darcy Graham ddau gais arall i'r tîm cartref yn yr ail hanner, gydag ail gais gan Lake ac un arall gan Sam Parry yn tynnu'r gêm ychydig yn agosach.

Mae'r canlyniad yn golygu fod gobeithion y Gweilch o gyrraedd yr wyth uchaf wedi diflannu.

Pynciau cysylltiedig