Pencampwriaeth Rygbi Unedig: Connacht 38-19 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Connacht v CaerdyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Cafodd Caerdydd eu trechu'n gyfforddus oddi cartref yn Connacht yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig nos Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref chwe chais - un cais cosb a'r gweddill gan Diarmuid Kilgallen, Dylan Tierney-Martin, Conor Oliver, Mack Hansen a Kieran Marmion.

Llwyddodd y blaenasgellwr Thomas Young i sgorio ddwywaith i Gymru, gyda Seb Davies hefyd yn croesi.

Mae'r canlyniad, a'r ffaith fod y Gweilch wedi colli yng Nghaeredin, yn golygu na fydd unrhyw dîm o Gymru yn rowndiau terfynol y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.

Mewn cymhariaeth, mae'r pedwar tîm o Iwerddon wedi cymhwyso ar gyfer y rheiny.

Pynciau cysylltiedig