Ateb y Galw: Siwan Menez

  • Cyhoeddwyd
Siwan MenezFfynhonnell y llun, Siwan Menez
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Menez

Siwan Menez sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Meirion Roberts wythnos diwethaf.

Mae Siwan yn Aberystwyth ers dros ugain mlynedd a chyn hynny wedi byw yng Nghaerdydd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Aeth i dair ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd wahanol am ei bod wedi symud o amgylch dipyn fel plentyn.

Mae wedi gweithio i Lywodraeth Cymru ers dros 20 mlynedd ac erbyn hyn yn gweithio ym maes polisi iechyd.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Mae sawl atgof cynnar 'da fi ond un o'r rhai mwyaf pleserus oedd mwynhau'r annibyniaeth o gael teithio ar y bws ysgol o Ysgol Pentre Uchaf i dŷ Mrs Adams yn Llannor ar fy mhen fy hunan pan o'n i'n tua pedair oed.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caernarfon am ei fod yn le mor bert a mod i'n clywed mwy o Gymraeg yno nag ydw i'n gwneud unrhyw le arall. Dwi heb dreulio llawer o amser yno felly falle mod i'n rhamanteiddio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Castell Caernarfon

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae noswyl Nadolig wastad yn braf i fi. Dyna pryd ry'n ni'n coginio cinio Nadolig yn fy nhŷ i, gan adael dydd Nadolig yn rhydd heb ddim coginio i'w wneud! Fe chwarddon ni gyment llynedd.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi ddim wastad yr un peth felly does dim un gair yn fy nisgrifio i'n gywir iawn felly 'amrywiol' yw'r gair cyntaf! Bydde 'syniadau' a 'rhestrau' hefyd yn gweddu.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neu di ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Tysul yn ennill Eisteddfod yr Ysgol yn Ysgol Dyffryn Teifi yn 1994! Nes i fwynhau bywyd ysgol yn fawr iawn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Digonedd... ond fy ngwendidau mawr i yw siwgwr (felly dwi'n trio ei osgoi'n llwyr) a storis ditectif. Dwi'n methu stopio gwylio Bones ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bones yn gyfres deledu ditectif Americanaidd

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Alla i fyth rhannu hynna gyda chi! Dwi ddim yn berson heb atgofion annifyr! Y tro cyntaf dwi'n cofio cywilydd mawr oedd cystadlu ar y ffidl yn yr Eisteddfod Gylch pan oeddwn yn yr ysgol gynradd heb fod neb wedi tiwnio fy ffidl gyntaf. Bydde hi wedi bod yn ddigon gwael petai'r ffidl wedi'i diwnio!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Mae llefen yn rhan o fywyd bob dydd i fi. Dwi'n meddwl dim amdano. Fe wna i lefen gyda pob stori drist felly dwi bownd o fod wedi llefen yn y dyddie diwethaf.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Forrest Gump yw fy hoff ffilm i. S'dim angen egluro hynna, oes e?

Disgrifiad o’r llun,

Forrest Gump (1994) yn cael ei chwarae gan yr actor Tom Hanks

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Dwi'n gwrando ar lawer o podcasts a darllen syniadaeth gwahanol bobl ond dwi ddim wir yn teimlo'r angen i gyfarfod â'r bobl dwi'n eu ffeindio'n ddiddorol. Mae deall eu syniadau nhw'n ddigon i fi. Hoffen i gael amser i weld fy ffrindie'n amlach felly bydden i'n cymryd cyfle fel hyn i gynnull ffrindie at ei gilydd.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Mae'n braf cael llun da o'r plant pan oedden nhw'n fach. Erbyn hyn mae'r ddwy ferch yn oedolion ac yn mwynhau bywyd prifysgol a chyn hir bydd y nyth yn wag. Dwi'n meddwl bod gwahanol rieni yn hoffi cyfnodau gwahanol ym mywydau eu plant a dwi'n mwynhau eu cwmni nhw fwy a mwy wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Ond mae'n braf cofio mor annwyl oedden nhw pan oedden nhw'n fach.

Ffynhonnell y llun, Siwan Menez
Disgrifiad o’r llun,

Plant Siwan yn ifanc

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Mae pobl yn gwybod lot mwy amdana i nag sy'n wir...haha! Dwi'n berson siaradus iawn weithie a falle nad yw rhai pobl yn sylweddoli cweit cymaint o feudwy ydw i.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dal fy mhlant yn dynn, gobeithio.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fydde fe / hi?

Basen i'n dewis bod yn gymnast Olympaidd er mwyn cael y profiad o chwarae gyda disgyrchiant mewn ffordd na alla i ei ddirnad!

Hefyd o ddiddordeb: