Ateb y Galw: Mared Williams

  • Cyhoeddwyd
Mared WilliamsFfynhonnell y llun, IKACHING
Disgrifiad o’r llun,

Rhyddhaodd Mared Y Drefn ym mis Awst 2020

Y gantores Mared Williams, sydd yn Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan Miriam Issac wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dim yn siwr iawn os mai hwn ydi'r atgof cyntaf ond am ryw reswm dwi'n cofio trio pasta efo pesto a chaws am y tro cyntaf yn glir iawn a meddwl bod o'n hollol delishys!!!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ynys Llanddwyn - wedi bod yn lwcus i dreulio lot o amser yno, ac wedi aros gerllaw yn ystod y cyfnod clo. Ma lot o 'nheulu o Ynys Môn felly dwi'n teimlo cysylltiad yno ac ma gena'i lot o atgofion efo teulu a ffrindiau yno.

Disgrifiad o’r llun,

Ynys Llanddwyn

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Press night agor sioe Les Mis yn 2019! Odd na lot lot o fwyd a diodydd am ddim a bowling alley!

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Creadigol, perffeithydd, gwasgarog (scatty?!)

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mynd i Awstralia efo mam a gweld harbwr Sydney yn ystod machlud haul!

Ffynhonnell y llun, Mared Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mared a'i Mam yn y Blue Mountains, Awstralia

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Llosgi 'nghoesau efo fflasg llawn o ddŵr berwedig yn ganol ymarferion technegol i sioe dolig yn coleg, a gorfod mynd i A&E yn ganol rhediad o'r sioe!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Ddoe, ma' siŵr, yn ganol gwylio rhywbeth rhy ddwys ar Peaky Blinders!!!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n gallu bod yn ara deg iawn yn y boreau!

Ffynhonnell y llun, Mared Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mared gyda'i brawd a'i chwaer yn 2006

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

Wedi mwynhau darllen Where the crawdads sing yn ddiweddar, a wedyn gwylio'r llyfr yn cael ei drawsnewid i ffilm. Dwi'n caru'r cysylltiad mae'r prif gymeriad yn teimlo efo natur a mae'r 'sgwennu yn dod a bob dim yn fyw yn fy mhen!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Joni Mitchell! Swni'n hoffi dysgu tric neu ddau ganddi a'i chlywed hi'n canu'n fyw.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod

Ateb diflas ond nes i bron fynd i astudio'r gyfraith yn lle cerddoriaeth yn coleg. Dwi'm yn meddwl swni di neud cyfreithwraig da iawn felly diolch byth.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd i wylio rhywbeth mewn theatr, nofio yn y môr a 'neud gwledd o fwyd/parti i deulu a ffrindiau gyda'r nos!

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Hon, am bod hi'n gofnod o'r noson ges i fynd ymlaen fel cymeriad Eponine yn Les Mis am y tro cyntaf (tua blwyddyn yn ôl ar Ragfyr 2il) ar ôl aros yn hir iawn yn y cyfnod clo. Arwydd o 'chydig o normalrwydd a dathliad o bwysigrwydd theatr a'r celfyddydau yn cael parhau!

Ffynhonnell y llun, Mared Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mared Williams

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Florence Pugh ar ddiwrnod premiere neu diwrnod ffilmio ar set Black Widow.

Hefyd o ddiddordeb: