Y llyfrgell deithiol sy'n amhrisiadwy i gefn gwlad Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Joe Mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Joe Mitchell a'i lyfrgell deithiol

Yn 1948 taniwyd injan fan yng Ngheredigion fyddai'n dechrau gwasanaeth newydd sbon o'i fath yng nghefn gwlad Cymru.

75 mlynedd yn ddiweddarach mae olwynion Llyfrgell Symudol Ceredigion yn dal i droi ar hyd lonydd y sir ac yn parhau i gynnig gwasanaeth amhrisiadwy i nifer fawr o'i drigolion.

Mae Joe Mitchell yn un o dri o lyfrgellwyr sy'n sicrhau bod llyfrau hen a newydd yn cyrraedd stepen drws hyd at 800 o aelwydydd.

I bobl sydd mewn oedran, ffermwyr, a theuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd anghysbell ymhell o'r llyfrgell yn Aberystwyth dyma'r unig ffordd y byddai hi'n bosib iddyn nhw gael eu dwylo ar lyfrau.

Cymru Fyw aeth i edrych ar ddiwrnod ym myd y llyfrgellydd a holi'r bobl sy'n defnyddio'r wasanaeth.

Disgrifiad,

Dewch i fusnesu ym myd Joe a'i gwsmeriaid

'Gwerthfawr iawn' i bobl Ceredigion

Ar ôl llwytho'r fan yn stordy Glanrafon yn Llanbadarn Fawr mae Joe Mitchell yn dechrau ar ei daith o gwmpas Ceredigion.

"Mae gen i restr o ddarllenwyr ac mi fyddai'n galw efo nhw bob mis," meddai Joe sydd yn y swydd ers 20 mlynedd. "Mae'r llyfrgell yn mynd o gwmpas gogledd sir Ceredigion at ffermwyr ac i lefydd anghysbell fel bod llyfrau a'r gwasanaeth wybodaeth yn cael mynd at bobl yn hawdd.

Disgrifiad o’r llun,

Joe Mitchell o stordy Glanrafon lle mae'n paratoi'r llyfrau

"Mae o yn werthfawr iawn i'r henoed yn enwedig, i bobl sydd ddim yn gallu mynd i'r dref o gwbl a phobl sydd yn gweithio mewn busnesau allan yn y wlad ac sydd yn gweithio ar y tir.

"Mi fyddai heddiw yn mynd i Res Newydd, Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth a Pontarfynach."

'Dwi'n ei ddefnyddio bob mis'

Cwsmer cyntaf Joe ydi Iwan Davies ar fferm Maenarthur, rhyw hanner awr o Lanbadarn Fawr, ac mae'n defnyddio'r gwasanaeth ers dros 35 mlynedd.

"Dwi 'di bod yn defnyddio'r gwasanaeth yma ers 1985 pan ddes i yma gynta. Ac roedd y fan yn dod yma cyn hynny," meddai Iwan Davies. "Dwi'n ei ddefnyddio bob mis a falle'n cael chwech i saith llyfr.

Disgrifiad o’r llun,

Iwan Davies (chwith) a Joe Mitchell (dde)

"Dwi ddim yn meddwl heb y gwasanaeth y byddwn i'n darllen cyment â hynny. Byddwn i'n gallu darllen ychydig gyda Kindle falle ond dwi ddim yn cael yr un mwynhad."

Ac yntau'r brysur yn trin y tir ac yn cadw ei fusnes i fynd does gan Iwan ddim amser i adael y fferm ac mae Joe a'i lyfrgell yn hwyluso pethau cryn dipyn.

"Fel teulu mae'r gwasanaeth yn werthfawr iawn. Dros amser mae'r llyfrgellydd yn dod i nabod be' sydd i'ch dant chi a chware teg mae 'na wastad lyfrau dwi heb eu darllen o'r blaen yma.

"Dwi'n mwynhau darllen hanes lleol, hanes cyffredin, hunanfgofianau ac weithiau llyfrau hollol wahanol. Dwi ddim yn dilyn un math cant y cant - fel mae'r Saeson yn dweud 'eclectig'!"

'Fi'n falch o weld Joe'

 Joe wedi bod yn y swydd am gyfnod mor hir mae'n hen law ar ddewis y llyfrau addas ar gyfer ei gwsmeriaid a thrwy sgwrsio am lyfrau mor gyson mae o wedi dod i'w nabod nhw fel ffrindiau.

"Yn aml iawn allan yn y wlad mae 'na lawer o bobl hŷn sydd yn unig ag eisio chat efo rhywun sy'n galw yn gyson," meddai Joe. "Mae'n waith braf iawn ffeindio llyfrau addas iddyn nhw a dod a llyfrau i bobl. Mae o yn werthfawr iawn i'r henoed yn enwedig - pobl sydd ddim yn gallu mynd i'r dref o gwbl."

Un enghraifft ydi Dilwyn Edwards, gŵr yn ei 90au sydd wedi byw ym Mhontrhydygroes ar hyd ei oes.

Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl dychwelyd i'w filltir sgwâr wedi cyfnod gyda'r awyrlu gweithiodd Dilwyn fel gyrrwr loriau cyn rhedeg garej drws nesaf i'w dŷ ym Mhontrhydygroes

"Fi'n nabod Joe ers blynyddoedd, chewch chi ddim gwell dyn na hwn," meddai Dilwyn, sydd wedi bod yn defnyddio'r llyfrgell ers ei fod yn blentyn yn y 50au.

"Mae'n [wasanaeth] bwysig iawn i rywun sydd yn byw ar ben ei hunan, a nawr ma' fe yn bwysig iawn oherwydd fi'n ffili cerdded."

Mae Dilwyn wrth ei fodd yn darllen llyfrau teithio, anturiaethau a hanes brodorol.

"Chi ddim wedi twtchad ei hanner e," meddai gan gyfeirio at bwysigrwydd hanes lleol. "Mae cyfoeth ar lafar gwlad yn werth ei roi ar bapur neu ma' fe'n mynd ar goll chi'n gweld.

Disgrifiad o’r llun,

Joe a Dilwyn yn rhoi'r byd yn ei le

"Fi'n falch o weld Joe. Chwarae teg iddo fe ma' fe'n dod a nawr gan bo fi ffaelu cerdded i'r fan ma' fe'n gadael y llyfre ger y drws."

1948 - 2023

Cafodd y llyfrgell deithiol ei gyflwyno 75 mlynedd yn ôl yn 1948 gan lyfrgellydd o'r enw Alun R. Edwards o Lyfrgell Ceredigion oedd yn awyddus i weld mwy yn cael mynediad i lyfrau Cymraeg.

Meddai Joe: "Fo oedd un o'r hoelion wyth - roedd o eisiau hybu darllen Cymraeg tra roedd 'na gyn lleied o gyhoeddi Cymraeg yn y 30au a'r 40au. Roedden nhw yn gweld nad oedd y Gymraeg yn cael chwarae teg."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Alun R. Edwards ei apwyntio yn llyfrgellydd Aberteifi yn 1950 ac fe drawsnewidiodd gwasanaethau'r llyfrgell a diwydiant llyfrau Cymru o'i swydd

"Roedd o wedi dadlau a dadlau am bwysigrwydd hybu'r Gymraeg. Heblaw gweithgaredd Alun ni fyddai na gymaint o gyhoeddiadau Cymraeg."

Fel un sydd wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth ar hyd ei oes mae Dilwyn yn cofio'r faniau cynnar hynny.

"Fi'n cofio'r rhai cyntaf yn dod, hen faniau bach oedden nhw ag oedd bois yn dod o'r library yn Aberystwyth," meddai Dilwyn.

Disgrifiad o’r llun,

Fan Brynawelon 1948, llyfrgell deithiol gyntaf Cymru, yn dringo allt serth i ardal Ystumtuen

Disgrifiad o’r llun,

.... a'r fan felen ddiweddaraf ar yr un allt 75 mlynedd yn ddiweddarach

"Roeddwn i yn magu plant fy hunan yn fan hyn ac o'n i yn encouragio pobl i ddarllen. Fel roedd fy nhad o 'mlan i - os bydden i'n isdedd lawr yn y tŷ heb lyfr bydde fe'n dweud 'does gen ti ddim llyfr te?'"

A rhai wythnosau, mae ymweliad Joe yn cynnig cysur cynnes i Dilwyn yn ei henaint.

"Ry'n ni'n colli'r iaith. Os na wela i e [Joe] yn fan hyn falle siarada'i ddim Cymraeg am wythnos... yng nghanol pentref Cymraeg..."

'Codi calon'

Mae Joe yn falch iawn o fod yn y swydd ac yn disgrifio'r gwaith yn "bleserus" a "gwerthfawr."

"Mae 'na elfen o fod yn gyswllt a chodi calon pobl yn rhan o'r gwaith. Mae gan bawb eu stori," meddai.

"Mae'r gwasanaeth yma yn ofnadwy o bwysig i'r bobl 'ma iddyn nhw gael cyswllt â'r llyfrgell i deimlo bod nhw yn rhan o'r gymuned a bo' nhw heb gael eu anghofio. Pobl sydd ddim ar-lein, pobl sydd falla'r un olaf o'u teuluoedd, y rhai sydd angen gofal."

Un arall sy'n cytuno â Joe yw Mair Davies o Rhandir ger Pontarfynach ac sy'n defnyddio'r llyfrgell ers dros ddeugain mlynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Joe Mitchell a Mair Davies

"Ma fe'n wasanaeth ardderchog. Mae'n werthfawr iawn. Fi'n aelod ers tua deugain mlynedd ac roedd e'n gyfleus iawn pan o'n i'n gweithio achos doeddwn i methu mynd mewn i'r llyfrgell yn y dref.

"Mae'n wasanaeth mor gyfleus yn enwedig i'r genhedlaeth hŷn i gael rhywbeth ar garreg eu drws achos ry'n ni yn gallu bod yn ynysig iawn allan yn y wlad.

"Mae'n bwysig bod y gwasanaeth yma ar gael ar ein cyfer ni."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig