Galw o'r newydd am Senedd a 'datganoli go iawn' i Gernyw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae galwadau i roi pwerau datganoledig fel sydd gan Gymru a'r Alban i Gernyw

Mae galwadau o'r newydd i sefydlu Cynulliad, neu Senedd yng Nghernyw, yn debyg i'r hyn sydd yng Nghymru ac yn yr Alban.

Mae Cabinet Cyngor Cernyw wedi gwrthod cynnig gan Lywodraeth San Seffan i sicrhau yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel Datganoli Lefel 3.

Ger bron cyfarfod o'r cyngor llawn, mae cynnig yn cael ei gyflwyno sy'n gofyn yn swyddogol am drafodaethau gyda'r Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove er mwyn hawlio yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "datganoli go iawn" i Gernyw.

Mae'r cynnig yn cael ei roi gerbron gan arweinydd Plaid Mebyon Kernow, Dick Cole.

"Rydym yn gofyn i gynghorwyr ddod at ei gilydd a mynd at y Llywodraeth yn ganolog a gwneud yr achos dros ddatganoli go iawn," meddai wrth Newyddion S4C.

"Wrth hynny dwi'n golygu Cernyw yn cael yr un math o bwerau â'r gwledydd Celtaidd eraill fel Cymru a'r Alban."

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Dick Cole: "Nid datganoli o gwbl oedd yr hyn oedd gennym o'n blaenau"

Fe ychwanegodd: "Mae Cernyw yn genedl Geltaidd, mae'r Llywodraeth wedi cydnabod fod pobl Cernyw yn bodoli fel cenedl leiafrifol, mae nhw wedi sôn am gynnig yr un peth â'r hyn sydd gan genhedlau eraill y DU.

"Felly ry' ni'n dweud, 'cadwch at eich gair', ry' ni am ddatganoli go iawn, Cynulliad Cenedlaethol neu Senedd i Gernyw."

'Ddim yn ddatganoli gwir'

Ers 2015, mae proses o ddatganoli wedi bod ar waith yng Nghernyw, ond yn ôl Jenefer Lowe sydd wedi'i geni yno ac sy'n ymhyfrydu yn niwylliant a thraddodiadau celtaidd yr ardal, mae angen mynd ymhellach.

Disgrifiad o’r llun,

Jenefer Lowe: "Dydy pobl ddim yn hoffi beth sydd wedi digwydd yng Nghernyw"

"Dyw e ddim yn ddatganoli gwir," meddai.

"Mae'r [gefnogaeth] wedi bod yn tyfu dros gael rhagor o bwerau ers blynyddoedd i ddweud y gwir.

"Dydy pobl ddim yn hoffi beth sydd wedi digwydd yng Nghernyw, yn arbennig gyda'r tai haf ac ail dai a phethau fel'na.

"Mae eisiau'r pwerau i wneud rhywbeth am y pethau hynny."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardaloedd fel Newquay yn denu twristiaid yn eu miloedd, gyda phryder am nifer y tai haf sy'n cael eu prynu

Mae yna bryder yn benodol yng Nghernyw ac mewn ardaloedd arfordirol fel Newquay a St Ives am nifer cynyddol ail dai a thai haf.

Mae'n un o'r rhesymau yn ôl Jenefer Lowe am yr angen i sicrhau rhagor o bwerau.

"Y sefyllfa gyda thai sy'n bwysig iawn iawn." meddai.

"Mae bron yn amhosibl i bobl ifanc brynnu ty. Mae wedi mynd yn fwy fwy anodd, yn arbennig wedi'r pandemig gyda mwy o bobl yn dod i brynu tai yma. Felly dwi'n credu fod pobl wedi cael digon."

Y farn gyhoeddus

Fe ddaw'r galwadau diweddaraf gan Mebyon Kernow yn dilyn penderfyniad Cabinet Cyngor Cernyw i wrthod cynnig gan Lywodraeth San Seffan i sicrhau yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel Datganoli Lefel 3.

Roedd y cynnig hwnnw yn dod law yn llaw â gorfodaeth i ethol Maer i arwain y cyngor.

Fe ddaeth y cyhoeddiad gan arweinydd Cyngor Cernyw Linda Taylor i beidio parhau â'r cynlluniau wedi i 69% o'r bobl a ymatebodd i arolwg barn cyhoeddus ddangos eu gwrthwynebiad.

Bellach, mae cabinet y cyngor wedi cyhoeddi bwriad i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth San Steffan i sicrhau Datganoli Lefel 2.

Does yna ddim gofyn i ethol Maer o dan canllawiau'r cytundeb hwn.

Mae'r Llywodreth, serch hynny, eisoes wedi cadarnhau na fydd cronfa fuddsoddi gwerth £360 miliwn dros gyfnod o 30 mlynedd ar gael.

'Ffordd bell'

Mae'r cynghorydd Cole wedi bod yn feirniadol o'r cynigion gan ddweud nad ydynt yn agos at fod yn ddatganoli mewn gwirionedd.

"Yr hyn a gynigiwyd ganddynt [y llywodraeth] oedd tweaks i lywodraeth leol. Prin unrhyw bŵerau newydd, ac yn addo cydweithio ar rai cynlluniau.

"Nid datganoli o gwbl oedd yr hyn oedd gennym o'n blaenau."

Yn ôl Jenefer Lowe, mae yna alw cynyddol am ragor o bwerau i Gernyw, ond pan mae'n dod i sefydlu Senedd, mae'n cyfaddef nad yw hynny o fewn gafael ar hyn o bryd;

"Gobeithio. Ond mae yna ffordd bell dwi'n meddwl." meddai.

"Does yna ddim ewyllys gan y pwerau yn Llundain i wneud e o gwbl, felly dwi'n meddwl bod y ffordd yn hir."

Pynciau cysylltiedig